Lewis Milestone

Oddi ar Wicipedia
Lewis Milestone
Lewis Milestone ym 1930.
GanwydLev Milstein Edit this on Wikidata
30 Medi 1895 Edit this on Wikidata
Chişinău Edit this on Wikidata
Bu farw25 Medi 1980 Edit this on Wikidata
Los Angeles Edit this on Wikidata
DinasyddiaethYmerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, sgriptiwr, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, actor, cyfarwyddwr, cynhyrchydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr yr Academi i'r Cyfarwyddwr Gorau, Academy Award for Best Director (Comedy Picture), seren ar Rodfa Enwogion Hollywood Edit this on Wikidata

Cyfarwyddwr ffilm Americanaidd o dras Rwsiaidd oedd Lewis Milestone (Lev Milstein; 30 Medi 189525 Medi 1980).

Ganed Lev Milstein yn Kishinyov, Ymerodraeth Rwsia (bellach Chişinău, Moldofa). Ymfudodd i Unol Daleithiau America ym 1913, ac yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, gweithiodd yn isgyfarwyddwr ar gyfer ffilmiau hyfforddiant i Fyddin yr Unol Daleithiau. Byddai'n newid ei enw i Lewis Milestone ac yn derbyn dinasyddiaeth Americanaidd ym 1919.[1] Cychwynnodd ar ei yrfa yn Hollywood ym 1920 gan weithio i'r cyfarwyddwr Henry King. Y llun gyntaf a gyfarwyddwyd gan Milestone oedd Seven Sinners (1925), ffilm gomedi a gynhyrchwyd gan Howard Hughes i stiwdio Warner Bros. Enillodd Wobr yr Academi am y Cyfarwyddwr Gorau o Ffilm Gomedi (a oedd ar y pryd yn gategori ar wahân i'r Cyfarwyddwr Gorau o Ffilm Ddrama) am Two Arabian Knights (1927), a oedd yn serennu William Boyd, Mary Astor, a Louis Wolheim.

Derbyniodd glod mawr am ei ffilm ryfel epig, All Quiet on the Western Front (1930), addasiad o'r nofel Im Westen nichts Neues gan Erich Maria Remarque am y Rhyfel Byd Cyntaf. Enillodd y ffilm hon Wobr yr Academi am y Llun Orau yn ogystal â Gwobr am y Cyfarwyddwr Gorau i Milestone. Ffilm wahanol iawn, ond eto yn llwyddiannus, oedd ei lun nesaf, The Front Page (1931), addasiad o gomedi Broadway gan Ben Hecht a Charles MacArthur. Ystyrir y ffilm honno yn un o ffarsiau gwychaf oes glasurol Hollywood, a chafodd y cyfarwyddwr ei enwebu eto, ac am y tro olaf, am Wobr yr Academi, gan golli i Norman Taurog. Bu ei ffilm nesaf, Rain (1932) – addasiad o stori fer gan W. Somerset Maugham ac yn serennu Joan Crawford – yn fethiant ariannol, ac yn nodi dechrau cyfnod ansicr yn ei yrfa.[2] Dychwelodd i lwyddiant gyda'r sioe gerdd Anything Goes (yn serennu Bing Crosby ac Ethel Merman) a'r ffilm antur The General Died at Dawn (gyda Gary Cooper) ym 1936. Cyfarwyddodd addasiad llenyddol poblogaidd arall, Of Mice and Men (1939), o'r nofel fer gan John Steinbeck, gyda Lon Chaney, Jr. a Burgess Meredith yn portreadu'r prif gymeriadau.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gweithiodd Milestone ar sawl ffilm ryfel gyda'r Almaen Natsïaidd ac Ymerodraeth Japan yn rhan y gelyn. Wedi'r rhyfel, rhodd gynnig ar ei film noir gyntaf, The Strange Love of Martha Ivers (1946) gyda Barbara Stanwyck. Addasodd un arall o lyfrau Steinbeck, The Red Pony, ym 1949, gyda'r actorion Myrna Loy a Robert Mitchum a cherddoriaeth gan y cyfansoddwr Aaron Copland. Cyfarwyddodd ffilm ryfel arall o nod, Halls of Montezuma (1950), am griw o fôr-filwyr Americanaidd (gan gynnwys Richard Widmark, Jack Palance, a Karl Malden) yn brwydro'n erbyn y Japaneaid ar ynys yn y Cefnfor Tawel.

Yn ystod y 1950au, cafodd ei amau o fod yn gomiwnydd, a bu'n anodd iddo gael gwaith gyda'r stiwdios mawr yn Hollywood.[2] Ar ôl cyfnod o weithio i gynyrchiadau tramor ac yn y diwydiant teledu, dychwelodd Milestone i Hollywood gyda Pork Chop Hill (1959), llun am Ryfel Corea gyda Gregory Peck, Rip Torn, a George Peppard. Cafodd lwyddiant hefyd gyda'r ffilm gomedi Ocean's 11 (1960) a oedd yn serennu difyrwyr y "Rat Pack"—Frank Sinatra, Dean Martin, Sammy Davis, Jr., Peter Lawford, a Joey Bishop—yn ogystal â nifer o sêr eraill y cyfnod. Ei lun olaf oedd y ffilm hanesyddol epig Mutiny on the Bounty (1962), gyda Marlon Brando yn portreadu Fletcher Christian. Bu farw Lewis Milestone yn Los Angeles, Califfornia, yn 84 oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. (Saesneg) "Milestone, Lewis" yn International Dictionary of Films and Filmmakers. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 9 Rhagfyr 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Lewis Milestone. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 9 Rhagfyr 2021.