Burgess Meredith
Burgess Meredith | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
16 Tachwedd 1907 ![]() Cleveland ![]() |
Bu farw |
9 Medi 1997 ![]() Achos: melanoma ![]() Malibu ![]() |
Dinasyddiaeth |
Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
cyfarwyddwr, actor cymeriad, sgriptiwr, actor llwyfan, actor ffilm, actor teledu, cyfarwyddwr theatr, newyddiadurwr, cynhyrchydd ffilm ![]() |
Arddull |
Y Gorllewin Gwyllt ![]() |
Priod |
Paulette Goddard ![]() |
Gwobr/au |
National Board of Review Award for Best Supporting Actor, Saturn Award for Best Supporting Actor, Primetime Emmy Award for Outstanding Supporting Actor in a Miniseries or a Movie, Saturn Award for Best Supporting Actor ![]() |
Actor, cyfarwyddwr, sgriptiwr, a chynhyrchydd Americanaidd oedd Oliver Burgess Meredith (16 Tachwedd 1907 – 9 Medi 1997).[1]
Cafodd ei eni yn Cleveland, Ohio. Cychwynnodd ei yrfa fel actor ym 1929 pan ddaeth yn brentis di-dâl gyda Chwmni Sefydlog Dinesig Eva Le Gallienne yn Ninas Efrog Newydd. Ymddangosodd yn gyntaf ar Broadway ym 1933, sefydlodd y New Stage Society ym 1937, ac ym 1938 daeth yn is-lywydd yr undeb Actors' Equity. Roedd Meredith yn gapten yng Nghorfflu Awyr Byddin yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd.[2]
Cafodd glod am ei ran gyntaf wedi'r rhyfel, gan chwarae gohebydd rhyfel yn y ffilm The Story of GI Joe (1945).[3] Yn y 1950au cafodd ei yrfa ei heffeithio gan McCarthyaeth yn Hollywood. Daeth yn ôl i ffilmiau yn y 1960au gan ymddangos mewn nifer o ffilmiau'r cyfarwyddwr Otto Preminger. Ym 1975 chwaraeodd Joseph Welch yn y ffilm Tail Gunner Joe, oedd yn dramateiddio helynt McCarthyaeth.[1][4]
Ymhlith y ddramâu a gyfarwyddodd Meredith oedd Joyce's Ulysses in Nighttown (1958), gyda Zero Mostel yn rhan Leopold Bloom, A Thurber Carnival (1960), a Blues For Mr Charlie gan James Baldwin (1964).[4] Ymhlith ei rannau enwog ar y sgrin fawr mae Of Mice and Men (1939), Advise and Consent (1962), The Day of the Locust (1972), Rocky (1976), a Grumpy Old Men (1993). Ar deledu, chwaraeodd y Penguin yn y gyfres Batman ac ymddangosodd mewn pedwar pennod o The Twilight Zone, gan gynnwys un o'r penodau enwocaf, "Time Enough at Last".[5] Cyfarwyddodd y ffilm The Man on the Eiffel Tower ym 1949.
Cyhoeddodd ei hunangofiant, So Far, So Good, ym 1994. Yn y llyfr hwnnw, datgelodd ei fod yn dioddef o seiclothymia, sef ffurf ar anhwylder deubegwn.[6] Bu farw yn 89 oed yn ei gartref ym Malibu, Califfornia, wedi iddo ddioddef o glefyd Alzheimer a melanoma.[7]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Gussow, Mel (11 Medi 1997). Burgess Meredith, 89, Who Was at Ease Playing Good Guys and Villains, Dies. The New York Times. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Burgess Meredith. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Obituary: Burgess Meredith. The Daily Telegraph (12 Medi 1997). Adalwyd ar 18 Medi 2014.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) Vosburgh, Dick (12 Medi 1997). Obituary: Burgess Meredith. The Independent. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Folkart, Burt A. (11 Medi 1997). Burgess Meredith, Actor's Actor for 70 Years, Dies. Los Angeles Time. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Burgess Meredith - Cyclothymia Sufferer. about health. Adalwyd ar 18 Medi 2014.
- ↑ (Saesneg) Burgess Meredith dies at 89. CNN (10 Medi 1997). Adalwyd ar 18 Medi 2014.
Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]
- (Saesneg) Burgess Meredith ar wefan Internet Movie Database
- (Saesneg) Burgess Meredith ar wefan TCM
|
- Actorion ffilm Americanaidd
- Actorion teledu Americanaidd
- Actorion theatr Americanaidd
- Cyfarwyddwyr ffilm Americanaidd
- Cyfarwyddwyr theatr Americanaidd
- Genedigaethau 1907
- Marwolaethau 1997
- Pobl fu farw o ganser y croen
- Pobl fu farw o glefyd Alzheimer
- Pobl gydag anhwylder deubegwn
- Pobl o Cleveland, Ohio
- Swyddogion Byddin yr Unol Daleithiau