Melanoma

Oddi ar Wicipedia
Melanoma
Delwedd:Melanoma.jpg, Histopathology of Malignant melanoma.jpg
Enghraifft o'r canlynolclefyd prin, dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcanser y croen, cancr cellog, clefyd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae Melanoma, neu melanoma llidiog, yn fath o ganser sy'n datblygu o gelloedd yn cynnwys pigment, hynny yw melanosytau.[1] Yn fwy aml na pheidio effeithia melanoma ar y croen, serch hynny effeithia'n achlysurol ar y geg, y coluddyn neu'r llygaid. Caiff ei ganfod ar y coesau yn bennaf ymysg menywod, ac ar y cefn ymhlith dynion. Gall y cyflwr ddatblygu o fôl sy'n arddangos newidiadau penodol, er enghraifft cynnydd yn ei maint, ymylon anwastad, newid yn ei liw, ymdeimlad o gosi, neu doriadau a chrychau amlwg.

Achosir melanoma yn bennaf gan amlygiad i olau uwchfioled (UV), mewn unigolion a lefelau isel o bigment croen.[2][3] Gall y golau UV hynny ddeilio o'r haul neu o ffynonellau eraill megis gwelyau haul. Datblyga oddeutu 25% o achosion melanoma o folau. Mae'r rheini sydd ag amryw o folau, hanes teuluol o'r cyflwr neu system imiwnedd gwan yn unigolion risg uchel. Gall rai datblygu'r cyflwr o ganlyniad i ddiffygion genetig prin fel xeroderma pigmentosum hefyd. Gwneir diagnosis drwy gynnal biopsi ar unrhyw namau croen amlwg.

Gellir osgoi'r cyflwr melanoma drwy ddefnyddio eli haul a chysgodi rhag golau UV. Fel rheol caiff y cyflwr ei ddileu drwy lawdriniaeth. Mewn achosion lle mae'r canser yn fwy o ran maint, ac yn agosach at y nodau lymff, cynhelir prawf er mwyn archwilio lledaeniad y cyflwr. Gellir gwella'r rhan fwyaf o achosion lle nad yw'r canser wedi lledaenu. Cynigir y triniaethau canlynol i'r rheini lle y mae melanoma wedi lledaenu er mwyn cyfyngu neu wella'r cyflwr; imiwnotherapi, therapi biolegol, therapi ymbelydredd, neu gemotherapi.[1][4] Yn yr Unol Daleithiau y mae 98% o ddioddefwyr melanoma cyfyng yn goroesi dros bum mlynedd wedi eu diagnosis os derbyniant driniaeth, 17% o ddioddefwyr melanoma gwasgaredig sy'n goroesi'r cyfnod hwnnw wedi triniaeth.[5] Mae tebygolrwydd dychwelyd neu ledaenu'r cyflwr yn dibynnu ar drwch y melanoma, pa mor gyflym y rhanna'r celloedd, a natur doredig y croen gorchuddiol.

Melanoma yw'r math mwyaf peryglus o ganser y croen. Yn 2012 cofrestrwyd 232,000 o achosion newydd yn fyd-eang. Yn 2015 roedd gan 3.1 miliwn o unigolion clefydau gweithredol ac fe achoswyd 59,800 o farwolaethau gan y cyflwr yn yr un flwyddyn. Mae Awstralia a Seland Newydd ymhlith y gwledydd â'r cyfraddau uchaf o melanoma. Yn ogystal, cofrestrwyd nifer helaeth o achosion yng ngogledd Ewrop a Gogledd America, nid yw'r cyflwr mor gyffredin yn Asia, Affrica, ac America Ladin. Mae melanoma yn fwy cyffredin ymysg dynion na menywod. Gwelwyd cynnydd mewn achosion o'r 1960au ymlaen, a hynny mewn ardaloedd â phoblogaeth gref o bobl wen.[2][6]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Melanoma Treatment–for health professionals (PDQ®)". National Cancer Institute. June 26, 2015. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 July 2015. Cyrchwyd 30 June 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. 2.0 2.1 World Cancer Report 2014 (PDF). World Health Organization. 2014. tt. Chapter 5.14. ISBN 9283204298. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2014-05-30. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  3. "Ultraviolet radiation and melanoma". Semin Cutan Med Surg 30 (4): 222–8. December 2011. doi:10.1016/j.sder.2011.08.003. PMID 22123420. http://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S1085-5629(11)00130-1.
  4. Syn, Nicholas L; Teng, Michele W L; Mok, Tony S K; Soo, Ross A. "De-novo and acquired resistance to immune checkpoint targeting". The Lancet Oncology 18 (12): e731–41. doi:10.1016/s1470-2045(17)30607-1. PMID 29208439. http://linkinghub.elsevier.com/retrieve/pii/S1470204517306071.
  5. "SEER Stat Fact Sheets: Melanoma of the Skin". NCI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-07-06. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  6. Azoury, SC; Lange, JR (October 2014). "Epidemiology, risk factors, prevention, and early detection of melanoma.". The Surgical clinics of North America 94 (5): 945–62, vii. doi:10.1016/j.suc.2014.07.013. PMID 25245960. https://archive.org/details/sim_surgical-clinics-of-north-america_2014-10_94_5/page/945.