Erich Maria Remarque
| Erich Maria Remarque | |
|---|---|
| Ffugenw | Erix Mariya Remark |
| Ganwyd | Erich Paul Remark 22 Mehefin 1898 Osnabrück |
| Bu farw | 25 Medi 1970 Locarno |
| Dinasyddiaeth | Yr Almaen, Unol Daleithiau America |
| Galwedigaeth | ysgrifennwr, nofelydd, dramodydd, sgriptiwr |
| Adnabyddus am | All Quiet on the Western Front, Shadows in Paradise, The Road Back, Spark of Life, The Dream Room |
| Priod | Paulette Goddard, Ilse Jutta Zambona, Ilse Jutta Zambona |
| Partner | Marlene Dietrich |
| Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Y Groes Haearn, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Q1714472 |
| llofnod | |
Awdur o'r Almaen oedd Erich Maria Remarque [1] (22 Mehefin 1898 – 25 Medi 1970)[2], yn fwyaf enwog am ei nofel All Quiet on the Western Front. Fe'i bedyddiwyd yn Erich Paul Remark ond newidiodd ei enw canol Paul pan gyhoeddwyd Im Westen nichts Neues (Saesneg: All Quiet on the Western Front) er cof am ei fam. Newidiodd yr enw teulu i Remarque am ei fod am ddatgysylltu ei hun o nofel a gyhoeddodd yn 1920 sef Die Traumbude.[3]
Fe anwyd Erich ar yr 22 o Fehefin 1898 i deulu dosbarth gweithiol yn ninas Osnabruck; ei dad Peter Franz Remark (g. 14 Mehefin 1867 yn Kaiserswerth) ac Anna Maria (née Stallknecht a anwyd ar 21 Tachwedd 1871 yn Katernberg).
Oherwydd gorfodaeth filwrol ymunodd Remarque â'r fyddin yn ddeunaw oed. Ar 12 Mehefin 1917 trosglwyddwyd ef i Ffrynt y Gorllewin. Ar 31 Gorffennaf fe'i clwyfwyd gan shrapnel yn ei goes dde, ei fraich dde a'i wddf, ac fe'i hanfodwyd adref i'r Almaen am weddill cyfnod y rhyfel.[4]
Athro a swyddi eraill
[golygu | golygu cod]Yn dilyn y rhyfel gwnaeth e barhau gyda'i hyfforddiant i fod yn athro. Bu yn athro ysgol gynradd yn Lohne, yn Klein Berßen, ac yn Nahne, i gyd yn 1919 ac 1920. Wedyn cafodd amrywiol swyddi - yn lyfrgellydd, yn ddyn busness, yn athro, gohebydd a golygydd. Y tro cyntaf iddo gael ei dalu am ysgrifennu, oedd fel gohebydd technegol i'r Continental Rubber Company, cwmni cynhyrchu teiars yn yr Almaen.[5]
Priododd yr actores Americanaidd Paulette Goddard (cyn-wraig Charlie Chaplin) ym 1958.
Nofelau
[golygu | golygu cod]- (1920) Die Traumbude. Ein Künstlerroman; Cyfieithiad Saesneg: The Dream Room
- (ysgrifennwyd 1924, cyhoeddwyd 1998) Gam
- (1928) Station am Horizont; Cyfieithiad Saesneg: Station at the Horizon
- (1929) Im Westen nichts Neues; Cyfieithiad Saesneg: All Quiet on the Western Front (1929)
- (1931) Der Weg zurück; Cyfieithiad Saesneg: The Road Back (1931)
- (1936) Drei Kameraden; Cyfieithiad Saesneg: Three Comrades (1937)
- (1939) Liebe deinen Nächsten; Cyfieithiad Saesneg: Flotsam (1941)
- (1945) Arc de Triomphe; Cyfieithiad Saesneg: Arch of Triumph (1945)
- (1952) Der Funke Leben; Cyfieithiad Saesneg: Spark of Life (1952)
- (1954) Zeit zu leben und Zeit zu sterben; Cyfieithiad Saesneg: A Time to Love and a Time to Die (1954)
- (1956) Der schwarze Obelisk; Cyfieithiad Saesneg: The Black Obelisk (1957)
- (1961) Der Himmel kennt keine Günstlinge (hefyd fel cyfres Geborgtes Leben); Cyfieithiad Saesneg: Heaven Has No Favorites (1961)
- (1962) Die Nacht von Lissabon; Cyfieithiad Saesneg: The Night in Lisbon (1964)
- (1970) Das gelobte Land; Cyfieithiad Saesneg: The Promised Land
- (1971) Schatten im Paradies; Cyfieithiad Saesneg: Shadows in Paradise (1972)
Gweithiau eraill
[golygu | golygu cod]- (1931) Der Feind; Cyfieithiad Saesneg: The Enemy (1930–1931); straeon byrion
- (1955) Der letzte Akt; Cyfieithiad Saesneg: The Last Act; ffilm
- (1956) Die letzte Station; Cyfieithiad Saesneg: Full Circle (1974); drama
- (1988) Die Heimkehr des Enoch J. Jones; Cyfieithiad Saesneg: The Return of Enoch J. Jones; drama
- (1994) Ein militanter Pazifist; Cyfieithiad Saesneg: A Militant Pacifist; cyfweliad a thraethodau
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ ynganiad Almaeneg: [ˈʔeːʀɪç maˈʀiːaˑ ʀeˈmaʀk]; [ˈɛrɪk məˈriːə rəˈmɑːrk]
- ↑ Brian Murdoch (2006). The Novels of Erich Maria Remarque: Sparks of Life (Studies in German Literature Linguistics and Culture) (yn Saesneg). Camden House. t. 3. ISBN 9781571133281.
- ↑ Nodyn gan Brian Murdoch, Awst 1994, yn All Quiet on the Western Front, cyf. Brian Murdock (Vintage, 1996), t.215
- ↑ Remarque Frieden-Schiessen.
- ↑ "Exactly as it happened... (the story of an encounter in Ticino with Remarque and the coach-built Lancia Dilambda, which, following the commercial success of All Quiet on the Western Front, he purchased in 1931 and retained till the late 1960s)". Motor 3506: pages 26–30. date 30 Awst 1969.