John Blackwell (Alun)
| John Blackwell | |
|---|---|
| Ffugenw | Alun |
| Ganwyd | 1797 Yr Wyddgrug |
| Bu farw | 19 Mai 1840 |
| Dinasyddiaeth | |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | bardd |
Bardd ac offeiriad eglwysig o Gymru oedd John Blackwell (tua diwedd 1797 – 19 Mai 1840) a adnabuwyd wrth ei enw barddol sef Alun.[1] Er mai dim ond cymharol ychydig o farddoniaeth gyfansoddodd Alun, ystyrir ef hyd heddiw yn un o'r uchaf ei barch o feirdd Cymraeg yr 19g.[2]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]
Cafodd ei eni ym Mhonterwyl,[1] ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint. Roedd ei fam Mary o Langwm a mwynwr oedd ei dad Peter; mae'r awgrym wedi ei wneud yn seiliedig ar yr enw "Blackwell", bod cyndeidiau tad Alun yn hannu o Derbyshire, er nad oes prawf pendant o hyn a Cymraeg oedd iaith ei ddau riant.[3] Methodistiaid oedd ei rieni, ond yn ystod y cyfnod hynny byddai rhai anghydffurfwyr yn dal i fynychu gwasanaethau'r Eglwys wladol hefyd ac mae'n hybys bod teulu Alun ymhlith y rhai a wnaeth hyn.[4]
Dangosodd Alun ddiddordeb mewn dysgu yn gynnar iawn yn ei fywyd[5] ond ni dderbyniodd unrhyw addysg ffurfiol yn blentyn heblaw'r ysgol Sul.[1][2] Prentisiwyd ef i grydd, William Kirkham, yn 11 oed, gŵr a wnaeth lawer i ysgogi diddordeb Alun mewn dysg ac yn benodol mewn barddoniaeth.[6] Darllenai'n frwd holl lyfrau ei gymdogion,[7] a phan yn 17 oed, ac yn dechrau ennill cyflog, byddai'n cynlio ei dâl er mwyn ei wario mewn siop lyfrau ail-law yng Nghaer, gan gerdded yr holl ffordd yno ac yn ôl o'r Wyddgrug.[8] Darllenodd yn eang yn Gymraeg ac yn gynyddol yn Saesneg, iaith y dechreuodd siarad pan yn tua 20 oed.[9] Casglodd lyfrau niferus; darllennodd gwaith beirdd Saesneg fel Shakespeare, John Milton, John Dryden, Alexander Pope ac eraill ynghyd â gweithiau hanesyddol, diwynyddol a gwyddonol. Roedd ganddo ddiddordeb mewn llenyddiaeth Gymraeg a darllenai holl gyfnodolion Cymraeg y cyfnod megis Seren Gomer, Y Gwyliedydd ynghyd â chasglu cyhoeddiadau o farddoniaeth.[10]
Er y mae'n hysbys o adroddiadau ei gyfoedion ei fod yn ysgrifennu barddoniaeth Gymraeg, ni anfonodd dim o'i waith at gystadleuaeth nac at unrhyw gyfnodolyn i'w gyhoeddi nes oedd yn 25 oed; yn ôl ei gyfaddefiad ei hun roedd hyn oherwydd nad oedd eto'n ystyried ei hun yn ddigon addysgiedig i fentro gwneud, er bod awgrym bod ansawdd ei gerddi cynnar yn uchel.[11]
O ganlyniad, pan ddechreuodd gyhoeddi a chystadlu yn gyhoeddus yn 1823 daeth sylw synnwyd lawer creodd gryn stŵr, gan enill cadeiriau mewn tair Eisteddfod lleol yn yr un flwyddyn am awdlau amrywiol: Eisteddfod Rhuthun am Genedigaeth Iorwerth II yn Eisteddfod Rhuthun, Eisteddfod Caerwys am Llwydd Groeg, ac Eisteddfod Yr Wyddgrug am ei awdl Maes Garmon.[12] Enillodd rhai cystadleuthau rhyddiaith ar draethodau yn yr un Eisteddfodau. Cyfarfu â Arglwydd Mostyn yn ystod Eisteddfod yr Wyddgrug, yr hwn a gytunodd gyda grŵp o bendefigion a chlerigwyr eraill i noddi Alun ar gyfer offeiriadaeth, llwybr yr oedd Alun yn falch i allu dilyn. At y perwyl hynny dechreuodd astudio Lladin gyda'r Archddiacon Clough, person yr Wyddgrug, a'i anfon y flwyddyn ganlynol i Feriw i astudio Lladin a Groeg gyda'r y ficer yno, y Parch Thomas Richards, gyda'r bwriad y byddai yn y pen draw yn astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.[13] Mae mwyafrif helaeth y cerddi o'i eiddo sydd wedi goroesi yn perthyn i'r cyfnod hwn.[14]

Ym 1825 gadawodd Cymru i gymryd ei le yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen. Tystia ei lythryau iddo gael ei astudiaethau'n anodd, a gwnaethpwyd hyn yn anoddach fyth gan farwolaeth ei rieni o fewn llai nau dwy flynedd o'i gilydd yn 1827-8.[15] Roedd ganddo lai o amser i gyfansoddi a chystadlu yn Rhydychen, fodd bynnag i'r cyfnod hwn y perthyn ei farwnad Marwolaeth yr Archesgob Heber, sydd ymhlith yr enwocaf o'i gerddi.[16][2]
Graddiodd ym 1828 a chafodd ei ordeinio ym 1829 i guradiaeth Treffynnon lle y bu am bedair blynedd; roedd yn gurad yn Nhreffynnon tra'r oedd y bardd ifanc Gwenffrwd yn byw yno. Roedd yn bresennol yn Eisteddfod Biwmares, lle traddododd ddarlith yn rhagweld (heb dristwch) disodli'r iaith Gymraeg gan y Saesneg fel iaith gyffredin Cymru o fewn ychydig ganrifoedd.[17] Roedd safbwyntiau pesimistaidd ac ymaddagnosiadol gwrth-gyferbyniol ymysg caredigion yr iaith yn gyffredin ar y pryd.

Yn 1833 rhoddodd Arglwydd Broughham iddo fywoliaeth Manordeifi yng ngogledd Sir Benfro fel rheithior y plwyf, a bu'n byw yno am weddill ei oes. Cyflwynodd gwasanaethau Saesneg yno, er iddo gynnal gwasanaethau yn Gymraeg hefyd.[18] Yn 1834 daeth yn olygydd ar gyfnodolyn o'r enw Cylchgrawn y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Fuddiol, er na barhaodd yn hir.[19] Awgrymir mai gorweithio rhwng ei orchwylion niferus a gyfrannodd at ei salwch, gydag arwyddion erbyn 1836 fod ei iechyd yn dirywip.[20] Yn 1839 priododd Matilda Dear o Bistyll, ger Treffynnon.[1] Bu farw yn 19 Mai 1840 yn 43 oed a chladdwyd ef ym mynwent Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.[21]
Gwaddol
[golygu | golygu cod]Cymharol byr oedd bywyd Alun a dim ond nifer cymharol fach o gerddi a gyfansoddwyd ganddo.[2] Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn deillio o'r cyfnod 1823-25 pan oedd yn byw yn yr Wyddgrug ac Aberiw, gyda chymharol ychydig wedyn o'i gyfnod yn Rhydychen a llai byth o'i amser yn Nhreffynnon a Manordeifi.[14] Mae nifer o'i gerddi yn gyfieithiadau, megis 'Yr Hen Amser Gynt' sy'n fersiwn Cymraeg o Auld Lang Syne Robert Burns a'i emyn 'Seren Bethlehem' o Saesneg H. K. White.
Ymhlith cerddi Alun ar y mesurau caeth ac mae tair awdl fuddugol, pob un o 1823, ynghyd a nifer sylweddol o englynion ac ambell gywydd. Er nad yw awdlau Alun mor uchel eu bri ag eiddo rhai o'i gyfoeswyr megis Eben Fardd a Ieuan Glan Geirionydd maent "ymhlith goreuon ei gyfnod, ac yn cymharu'n ffafriol ddigon ag amryw o awdlau arobryn yr ugeinfed ganrif."[22] Fodd bynnag, cysylltir Alun yn bennaf â'i gerddi byrion ar y mesurau rhydd, megis 'Rhywun', 'Cathl i'r Eos', 'Abaty Tyndyrn', 'Gwraig y Pysgotwr' ac eraill ac ystyrir ef hyd heddiw yn arloeswr ym maes y delyneg.[1][23][2] Ei gerdd fwyaf adnabyddus am gyfnod hir oedd ei farwnad i'r Esgob Heber, a wobrwyd yn Eisteddfod Dinbych yn 1828,[23][16] cerdd hirach ar fesur rhydd, ond mae i'r gerdd "naws drefedigaethol" erbyn hyn.[2] Mewn traethawd o 1824 ymosododd Alun ar y mesurau caeth, ac roedd yn un o nifer o feirdd yn cynnwys ei gyfoeswyr Ieuan Glan Geirionydd a Gwenffrwd a gysylltir ag ymateb yn erbyn y mesurau caeth yn ystod ail chwarter yr 19g, a datblygiad rhamantiaeth mewn llenyddiaeth Gymraeg.[24]
Roedd bri Alun ar ei anterth yn ystod ail hanner y 19g a blynyddoedd cynnar y 20g; i sylwebwyr yn y cyfnod yma roedd yn un o feirdd diweddar gorau'r iaith.[25][26] Mor diweddar â 1924, byddai J. Breese Davies yn dweud amdano:
[Mae] ei waith barddonol yn anwastad, ond ar brydiau'n berffaith... ar ei oreu, nid oes dim a gyffwrdd nas gedy dan gyfaredd. Ni ellir ei ddeffinio'n gwbl oll, ond rhed tlysni cywrain drwy'r hud, gan euro'r meddwl yma, a'r sain acw. Ym Marwnad Heber, a'r rhan fwyaf o'r telynegion bychain ar fesurau rhyddion, dwg y darlun yn fyw o flaen y llygaid, ac ni ellir byth ei foli'n ormod, canys y mae'r rhain ymhlith gemau goreu ein llenyddiaeth.[27]
Yn wahanol i lawer o feirdd yr 19g mae Alun wedi cadw ei le yn y canon llenyddol hyd heddiw i raddau helaeth ac er gwaethaf cyfanswm bach ei allbwn ystyrir ef o hyd yn un o feirdd pennaf ei gyfnod.[2][28] Mae ei gerddi yn gyffredin mewn blodeugerddi gyda phedair ohonynt ym Mlodeugerdd Rhydychen, saith yn Blodeugerdd o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg Bedwyr Lewis Jones ac R. M. Jones yn cynnwys saith hefyd yn Blodeugerdd Barddas o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg.
Cyhoeddwyd rhai o'r gerddi yn ystod ei bywyd mewn cyfnodolion megis Y Gwyliedydd a Seren Gomer ac wedi ei farwolaeth casglwyd ei waith at ei gilydd yn y gyfrol Ceinion Alun (1851) dan olygyddiaeth Gutyn Padarn. Cafwyd cyfrol o'i waith yng Nghyfres y Fil (1909) dan olygyddiaeth O. M. Edwards ac yn Llyfrgell Gymraeg Melin Bapur (2025). Mae cynnwys y cyfrolau hyn, o ran cerddi Alun, yn debyg i'w gilydd. Nid oes cyfrol eto sy'n cynnig astudiaeth academaidd lawn o'i fywyd a'i waith.
Ffynonellau
[golygu | golygu cod]- Edwards, Griffith (1851). Ceinion Alun. Isaac Clarke. - Mae'n cynnwys cofiant i'r bardd a thraethawd byr ar ei waith (yn Saesneg) gan Gutyn Padarn, ynghyd â nifer o lythryau o eiddo Alun.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]Cyfrolau yn cynnwys cerddi Alun:
- John Blackwell: Ceinion Alun, gol. Gutyn Padarn (Isaac Clarke, Rhuthun, 1851). Mae'n cynnwys detholiad o lythryrau a chofiant estynedig iddo yn ogystal â cherddi.
- Gwaith Alun, gol. O. M. Edwards, Ab Owen, Llanuwchlyn, 1909; Cyfres y Fil.
- Alun, Cathl i'r Eos a Cherddi Eraill, Melin Bapur 2025, gyda rhagair gan Robert Rhys.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 "BLACKWELL, JOHN ('Alun'; 1797 - 1840), offeiriad a bardd". Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 Alun: Mold's Other Famous Son, Nation.cymru Adalwyd 12 Tachwedd 2025.
- ↑ Edwards, t. 3.
- ↑ Edwards, t. 4-5.
- ↑ Edwards, t. 1.
- ↑ Edwards, t. 10.
- ↑ Edwards, t. 8.
- ↑ Edwards, t. 11.
- ↑ Edwards, t. 29.
- ↑ Edwards, t. 11-14.
- ↑ Edwards, t. 14-15.
- ↑ Edwards, t. 21-22.
- ↑ Edwards, t. 22.
- ↑ 14.0 14.1 Gweler y dyddiadau a roir yn Gwaith Alun, O. M. Edwards [gol.] (1909), Ab Owen, Llanuwchlyn; Cyfres y Fil.
- ↑ Edwards, t. 30-2.
- ↑ 16.0 16.1 Morgan, T. (gol; 1907) Enwogion Cymru 1700-1900, Treforys: Jones & Son, t.24.
- ↑ Edwards, t. 22.
- ↑ Edwards, t. 47-8.
- ↑ Edwards, t. 50.
- ↑ Edwards, t. 54-55.
- ↑ Gwaith Alun. Golygydd Owen M Edwards. Cyfres y Fil 1909.
- ↑ Jenkins, Geraint H. [gol.] (1999). Gwnewch Bopeth yn Gymraeg': Yr Iaith Gymraeg a'i Pheuoedd 1801-1911, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.257
- ↑ 23.0 23.1 Meic Stephens [gol.] (1997) Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. t.49
- ↑ Huw Meirion Edwards "The Lyric Poets" yn Hywel Teifi Edwards (gol; 2000) A Guide to Welsh Literature: 1800-1900, Caerdydd: Gwasg Prifsygol Cymru, t.97-113
- ↑ D. Ambrose Jones (1903) 'Bedd Alun, Yr Haul Cyf. V rhif. 54 - Mehefin 1903 t.266
- ↑ David Rowlands (1909) 'Alun', Cymru'r Plant Cyf. XVIII rhif. 212 - Awst 1909 t.233
- ↑ J. Breese Davies (1924) 'Traethawd Beirniadol ar Alun a'i Weithiau', Cymru, Cyf. 67, t.52
- ↑ Robert Rhys (2025), Rhagymadrodd yn Alun, Cathl i'r Eos a Cherddi Eraill, Melin Bapur 2025.