Jamie Smith's Mabon

Oddi ar Wicipedia
Iolo, Jamie a Matt yn y Stiwt, Rhosllanerchrugog

Band canu gwerin Celtaidd yw Jamie Smith's Mabon. Mae aelodau'r grŵp yn dod o Gymru, Lloegr ac Ynys Manaw. Disgrifir cerddoriaeth Jamie Smith's Mabon fel cerddoriaeth byd, rhyng-Geltaidd, wreiddiol.

Wedi ei chyfansoddi gan Jamie Smith a'i dehongli gan chwech o gerddorion medrus, ysbrydolir y gerddoriaeth gan draddodiad y gwledydd Celtaidd.

Nid cerddoriaeth Gymreig mohoni, nac Albaneg na Gwyddelig; dyma gerddoriaeth rhyng-Geltaidd sy'n arbrofi gyda ffurfiau a moddau cerddoriaeth Celtaidd a'u ffurfio'n rhywbeth newydd, beiddgar.[1]

O dan yr enw blaenorol Mabon, bu'r band yma'n cynrychioli Cymru ar lwyfan y byd ers dros ddeng mlynedd, gan chwarae cannoedd o gyngherddau mewn dros bymtheg o wledydd. Yn ogystal â gweithio yng Nghymru a Lloegr, maent wedi perfformio ar Ynys Manaw, yn Llydaw, Ffrainc, yr Alban, Romania, yr Almaen, Gwlad Belg, Maleisia, Portiwgal, yr Iseldiroedd, yr Eidal a Galicia.[2]

Yn agosach at adre, bu iddyn nhw chwarae yn Eisteddfod Ryngwladol Llangollen ddwywaith, mewn cyngherddau drwy Gymru, ac mewn nifer o wyliau adnabyddus yn Lloegr gan gynnwys Caergrawnt, Cropredy, Towersey a Sidmouth.

Derbynioddeu albwm, Live at the Grand Pavilion, dorreth o glod gan feirniaid,[2] ymateb cadarnhaol iawn gan ffans hen a newydd, a gwobr Spiral Award am Albwm Offerynnol Gorau 2010.

Aelodau’r band[golygu | golygu cod]

Jamie Smith (acordion a phrif lais)[golygu | golygu cod]

Magwyd Jamie Smith ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac wedyn Rhisga ond erbyn hyn yn byw ar Ynys Manaw. Mae o’n aelod o 2 fand arall, Barrule ac Alaw.

Oli Wilson-Dickson (ffidil)[golygu | golygu cod]

Ganwyd Oli Wilson-Dickson yng Nghaerlŷr a magwyd ar gyrion Caerdydd. Mae o’n aelod o Alaw ac yn gweithio efo cwmni theatr, The Devil's Violin Company.'

Paul Rogers (gitâr)[golygu | golygu cod]

Ganwyd ym Mhenarth ac astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Bangor Ymunodd y band yn 2016. Mae o’n byw ar Ynys Manaw ac yn siarad Manawegyn ogystal â Chymraeg.

Matt Downer (Gitâr fas)[golygu | golygu cod]

Ganwyd yn Rhydychen ac astudiodd jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymunodd y band yn 2007. Erbyn hyn mae o’n byw yn Rhisga.

Iolo Whelan (drymiau)[golygu | golygu cod]

Ganwyd Iolo yng Nghaerdydd ac astudiodd jazz yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Ymunodd y band ym 1999. Mae o’n byw yng Nghwm Rhondda. Mae o'ndiwtor drymio, a hefyd wedi cyflwyno rhaglenni cerddoriaeth ar Radio Cymru[3].

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Ridiculous Thinkers (2004)
  • OK Pewter (2007)
  • Live at the Grand Pavilion (2010)
  • Windblown (2012)
  • The Space Between (2015)
  • Twenty - Live! (2018)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Gwefan Gŵyl Musicport[dolen marw]
  2. 2.0 2.1 Gwefan worldmusic.co.uk
  3. Amserlen Radio Cymru 29 Awst 2017

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]