Hwyaden gribog

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Hwyaden gribog
Aix galericulata

Aix galericulata -Bei Hai Park, Changqiao, Beijing, China -pair-8.jpg, Jardin de Gaston24.jpg

Statws cadwraeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Anseriformes
Teulu: Anatidae
Genws: Aix[*]
Rhywogaeth: Aix galericulata
Enw deuenwol
Aix galericulata



Dosbarthiad y rhywogaeth

Aderyn a rhywogaeth o adar yw Hwyaden gribog (sy'n enw benywaidd; enw lluosog: hwyaid cribog) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Aix galericulata; yr enw Saesneg arno yw Mandarin duck. Mae'n perthyn i deulu'r Hwyaid (Lladin: Anatidae) sydd yn urdd y Anseriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.

Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn A. galericulata, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.

Caiff ei fagu er mwyn ei hela. Mae'r ceiliog yn darawiadol dros ben, gyda phig coch, cochaidd ar yr wyneb a phorffor ar ei fron. Nid yw'r iar mor darawiadol, gyda phlu brown neu lwyd.

O dde-ddwyrain Asia, yn enwedig Tsieina a Japan y mae'r rhywogaeth yma yn dod. Mae'n hoffi pyllau dŵr cymharol fach mewn fforestydd. Gan fod llawer o'r fforestydd hyn wedi eu dinistrio, mae wedi mynd yn aderyn prin. Credir fod tua mil o barau yr un yn nwyrain Rwsia a Tsieina, ond mae tipyn mwy yn Japan - tua 5,000 o barau.

Oherwydd fod y ceiliog mor hardd, mae'n hwyaden boblogaidd iawn mewn casgliadau o hwyaid dof. O bryd i'w gilydd llwyddodd rhai i ddianc, ac yn ystod yr ugeinfed ganrif mae'r rhain wedi rhoi bodolaeth i boblogaeth o tua 1,000 o barau ym Mhrydain Fawr, sy'n gyfran eithaf sylweddol o boblogaeth y rhywogaeth yma trwy'r byd. Yng Nghymru mae poblogaeth fychan yn magu ar Afon Glaslyn ger Porthmadog er enghraifft.

Maent yn dodwy eu wyau mewn tyllau mewn coed sy'n tyfu'n agos i'r lan. Maent yn bwyta planhigion yn bennaf.

Iâr

Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r hwyaden gribog yn perthyn i deulu'r Hwyaid (Lladin: Anatidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:

Rhestr Wicidata:


rhywogaeth enw tacson delwedd
Alarch dof Cygnus olor
Mute Swan Emsworth2.JPG
Alarch y Gogledd Cygnus cygnus
Cygnus cygnus 070416 IOL.jpg
Corhwyaden Anas crecca
Common Teal Male (8602525826).jpg
Hwyaden lostfain Anas acuta
Male northern pintail at Llano Seco.jpg
Hwyaden wyllt Anas platyrhynchos
Anas platyrhynchos (Male) on the ground.jpg
Hwyaden yr eithin Tadorna tadorna
2014-04-18 Tadorna tadorna pair, Swallow Pond.jpg
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.
Aix galericulata

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Safonwyd yr enw Hwyaden gribog gan un o brosiectau . Mae cronfeydd data Llên Natur (un o brosiectau Cymdeithas Edward Llwyd) ar drwydded agored CC 4.0. Chwiliwch am ragor o wybodaeth ar y rhywogaeth hon ar wefan Llên Natur e.e. yr adran Bywiadur, a chyfrannwch er mwyn datblygu'r erthygl hon ymhellach.