Honno

Oddi ar Wicipedia
Honno
Math
cyhoeddwr
Sefydlwyd1986
PencadlysAberystwyth
Gwefanhttp://www.honno.co.uk/index.php Edit this on Wikidata

Cyhoeddwr merched Cymreig yw Honno, a leolir yn Aberystwyth, ac sy'n cael ei redeg fel cydweithfa annibynnol. Mae'r wasg yn canoblwyntio ar ysgrifennu gan ferched Cymru yn unig, er mwyn cynyddu'r cyfleoedd cyhoeddi ar gyfer merched Cymru a chynyddu'r gynulleidfa ar gyfer llenyddiaeth merched Cymru.[1] Yn 2006, roddodd Dai Smith, cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru, glod i waith Honno: "terrific work in bringing women’s literature back into print".[2] Honodd Luned Meredith, un o sefydlwyr y wasg yn ystod pen-blwydd y wasg yn 21 yn 2008, fod Honno wedi gwneud "a significant contribution to the changing social conscience which has given prominence to the woman's voice".[1]

Sefydlwyd y wasg gan grŵp o wirfoddolwyr, ac roedd ganddynt 400 o gyfranddalwyr o fewn chwe mis.[1] Mae gwasg Honno wedi derbyn cefnogaeth ariannol gan Gyngor Llyfrau Cymru a'r Undeb Ewropeaidd.[1]

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod]

Mae'r rhanfwyaf o deitlau Honno yn nofelau, hunangofiannau ac antholegau stareon byrion yn yr iaith Saesneg; maent hefyd yn cyhoeddi ychydig o farddoniaeth, llyfrau i blant a'r arddegau, a rhai llyfrau Cymraeg.[3] Mae'r rhestr o 450 o awduron a gyhoeddir gan Honno'n cynnwys Lindsay Ashford, Anne Beale, Brenda Chamberlain, Gillian Clarke, Carol-Ann Courtney, Amy Dillwyn, Dorothy Edwards, Menna Gallie, Mererid Hopwood, Siân James, Anne Lewis, Eiluned Lewis, Gwyneth Lewis, Catherine Merriman, Lynette Roberts, Kitty Sewell a Hilda Vaughan.[1][4] Mae cyfres "Honno's Classics" hefyd yn ail-argraffu llyfrau sydd wedi bod allan o brint ers nifer o flynyddoedd.[1]

Gwobrau[golygu | golygu cod]

Mae'r gwobrau sydd wedi cael eu ennill gan gyhoeddiadau Honno'n cynnwys Llyfr y Flwyddyn 1989 ar gyfer Morphine and Dolly Mixtures gan Carol Ann Courtney, a drowyd yn ddiweddarach yn ffilm ar gyfer y teledu.[1] Enillodd antholeg straeon byrion cyntaf Honno, Luminous and Forlorn (1994), wobr Raymond Williams Cyngor Celfyddydau Lloegr.[5] Enillodd Who's Afraid of the Bwgan-wood? gan Anne Wobr Tir na n-Og Cyngor Llyfrau Cymru ar gyfer y llyfr Saesneg i blant orau ym 1996.[6] Enillodd Not Singing Exactly gan Siân James Llyfr y Flwyddyn 1997.[7] Mae llyfrau Honno hefyd wedi cyrraedd sawl rhestr fer yn ddiweddar, gan gynnwys Theakston's Old Peculier Crime Novel of the Year Award 2006 ar gyfer Strange Blood gan Lindsay Ashford; yn ogystal â Llyfr y Flwyddyn 2006 a Crime Writers' Association New Blood Dagger 2006 ar gyfer Ice Trap gan Kitty Sewell.[8][9]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6  Lydia Whitfield (24 Hydref 2008). Honno founder explains how women got a voice. WalesOnline. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.
  2. Catherine Ings. "Giving a voice to forgotten authors", South Wales Evening Post (ail-gyhoeddwyd yn Library of Wales: News), 13 Gorffennaf 2006.
  3.  Welcome to Honno!. Honno. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.
  4.  Authors, Editors and Contributors. Honno. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.
  5.  Luminous and Forlorn: Contemporary Short Stories By Women From Wales (accessed 18 Chwefror 2009]. Honno. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.
  6.  The Tir na n-Og Award: Past Winners. Cyngor Llyfrau Cymru. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.
  7.  Wales Book of the Year: Past Winners and Judges. Acdemi. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.
  8.  Wales Book of the Year: 2006 Award. Acdemi. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.
  9.  Louise Penny wins New Blood Dagger. The CWA. Adalwyd ar 18 Chwefror 2009.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]