Lindsay Ashford
Lindsay Ashford | |
---|---|
Ganwyd | 23 Ionawr 1959 Wolverhampton |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | newyddiadurwr, nofelydd, ysgrifennwr |
Gwefan | http://www.lindsayashford.co.uk |
Nofelydd trosedd a newyddiadurwraig Seisnig yw Lindsay Ashford (ganwyd 23 Ionawr 1959). Mae ei harddull ysgrifennu wedi cael ei chymharu â gwaith Vivien Armstrong, Linda Fairstein a Frances Fyfield. Mae nifer o'i nofelau'n dilyn y cymeriad Megan Rhys, seicolegydd ymchwiliol.
Fe'i magwyd yn Wolverhampton, Lloegr a hi oedd y ferch gyntaf i raddio o Goleg y Breninesau, Caergrawnt yn ei hanes 550 mlynedd o hyd. Enillodd radd mewn Troseddeg. Cyflogwyd Ashford fel newyddiadurwraig gan y BBC cyn iddi ddechrau weithio'n lawrydd, gan ysgrifennu ar gyfer amryw o bapurau newydd a chylchgronau. Mynychodd Ashford gwrs ysgrifennu trosedd a redwyd gan y Arvon Foundation ym 1996. Cyhoeddwyd ei llyfr cyntaf, Frozen, gan Honno yn 2003.
Cafodd Strange Blood ei enwi ar restr fer Theakston's Old Peculier Crime Novel of the Year Award 2006.[1] Ysgrifennodd The Rubber Woman ar gyfer cyfres Stori Sydyn yn 2007.
Mae Ashford bellach yn byw yn y Borth, ger Aberystwyth, Ceredigion.[2]
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Frozen, 2003, Honno, ISBN 9781870206822
- Also published in the United States, Awst, St Martin's Press
- Death Studies, Mehefin 2006, Honno, ISBN 9781870206860
- Strange Days Indeed: Autobiographical Stories About Motherhood by Women ... (gol. gyda Rebecca Tope), Mawrth 2007, Honno, ISBN 9781870206839
- The Rubber Woman, Mawrth 2007, Accent Press, ISBN 9781905170883
- Strange Blood, Gorffennaf 2007, Honno, ISBN 9781870206846
- The Killer Inside, Mawrth 2008, Honno, ISBN 9781870206921
Cyfrannu:
- Written in Blood - A Honno Crime Anthology, Chwefror 2009, Honno, ISBN 9781906784010
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Strange Blood - Lindsay Ashford. IT'S A CRIME! (OR A MYSTERY...) (2006-10-26).
- ↑ A Writer's Trials. BBC Wales.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan swyddogol Lindsay Ashford[dolen farw] (Saesneg)
- Meet the Author: Lindsay Ashford Archifwyd 2011-09-28 yn y Peiriant Wayback (Saesneg)