Amy Dillwyn
Amy Dillwyn | |
---|---|
Ganwyd | Elizabeth Amy Dillwyn 16 Mai 1845 Abertawe |
Bu farw | 13 Rhagfyr 1935 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | nofelydd, llenor, swffragét, diwydiannwr, peiriannydd |
Tad | Lewis Llewelyn Dillwyn |
Mam | Elizabeth de La Beche |
Roedd Elizabeth Amy Dillwyn (16 Mai 1845 - 13 Rhagfyr 1935) yn nofelydd, yn gymwynaswraig ac yn wraig fusnes, o Abertawe.
Fe'i ganed yn Sketty, yn ferch i Lewis Llewelyn Dillwyn ac Elizabeth (née De la Beche). Roedd ei thad yn ŵr amlwg yn natblygiad diwydiannol ardal Abertawe a bu'n aelod seneddol Rhyddfrydol dros Abertawe rhwng 1855 a 1892. Bu farw dyweddi Amy Dillwyn, Llewellyn Thomas o Lwynmadog, yn ddisymwyth cyn eu priodas ym 1864. Bu farw ei mam ym 1866 ac ar ôl marwolaeth ei brawd ym 1890 a'i thad ym 1892, etifeddodd hi weithfeydd ei thad. Ymgymrodd â'r gwaith o reoli'r gweithfeydd ei hun ac felly daeth yn adnabyddus fel arloeswraig ym myd busnes a diwydiant.Gadawodd ei thad ddyled a fuasau yn cyfateb i £8m yng ngwerthoedd heddiw..Serch hynny arbedodd 300 o swyddi.
Roedd Amy Dillwyn yn gymeriad lliwgar ac fe ddaeth hi'n adnabyddus am ei barn di-flewyn-ar-dafod, ei gwisg ecsentrig a'i hoffter o ysmygu sigârs. Rhwng 1880 ac 1892, cyhoeddodd Amy Dillwyn chwe nofel ac mae pob un yn ymdrin â safle menywod yn y gymdeithas Fictorianaidd. Etholwyd hi yn llywydd cangen Abertawe o'r NUWSS.
Bu farw yn 90 oed ar 13 Rhagfyr 1935; amlosgwyd hi a chladdwyd ei llwch ym mynwent Eglwys St Paul, Sketty.
Gweithiau llenyddol
[golygu | golygu cod]- The Rebecca Rioter (1880) (adargraffwyd yn 2004 gan Wasg Honno Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback) Gol. Katie Gramich
- Chloe Arguelle (1881)
- Jill (1884) (adagraffwyd yn 2013 gan Wasg Honno Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback) Gol. Kirsty Bohata
- Jill and Jack (1887)
- Maggie Steele's Diary (1892)
- A Burglary: Unconscious Influence (1883) (adargraffwyd yn 2009 gan Wasg Honno Archifwyd 2016-03-04 yn y Peiriant Wayback) Gol. Alison Evans
Darllen pellach
[golygu | golygu cod]- David Painting, Amy Dillwyn (1987)
- David Painting: Amy Dillwyn, Caerdydd : Gwasg Prifysgol Cymru, 2013, ISBN 978-0-7083-2672-5
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- The Dillwyn Project Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback - project ymchwil Prifysgol Abertawe