Lewis Llewelyn Dillwyn
Lewis Llewelyn Dillwyn | |
---|---|
Ganwyd | 1814 Abertawe |
Bu farw | 19 Mehefin 1892 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd, naturiaethydd, adaregydd |
Swydd | Aelod o 24ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 23ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 22ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 21ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 20fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 19fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 18fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 17eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
Tad | Lewis Weston Dillwyn |
Mam | Mary Adams |
Priod | Elizabeth de La Beche |
Plant | Amy Dillwyn, Mary De la Beche Nicholl, Henry de La Beche Dillwyn, Sarah Llewelyn Dillwyn |
Gwobr/au | Cymrawd Cymdeithas y Linnean |
Roedd Lewis Llewelyn Dillwyn (19 Mai 1814 – 19 Mehefin 1892 ) yn ddiwydiannwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig a wasanaethodd fel aelod seneddol dros etholaethau Abertawe am gyfnod o 37 mlynedd.[1]
Cefndir
[golygu | golygu cod]Ganwyd Dillwyn yn Abertawe, y pedwerydd o chwech o blant i Lewis Weston Dillwyn a Mary Dillwyn (née Adams) plentyn gordderch John Llewelyn, Penlle'r-gaer (cadwodd hi cyfenw ei mam ar ôl i'w rhieni priodi). Roedd ganddo ddau frawd a thair chwaer, roedd ei frawd John Dillwyn Llewelyn (1810-1882) a'i chwaer Mary Dillwyn (1816-1906) yn arloeswyr ym maes ffotograffiaeth[2] (pwnc roedd Lewis yn ymddiddori ynddi hefyd).
Cafodd ei addysg yn Academi Kilvert, Caerfaddon ond, wedi ethol ei dad i'r Senedd fel un o'r ddau aelod dros Sir Forgannwg ym 1832, dewisodd dilyn gyrfa busnes drwy gymryd drosodd rheolaeth o Grochendy'r Cambrian, yn hytrach na mynd i Goleg Oriel, Rhydychen fel y bwriadwyd.[3]
Roedd ei dad yn gyfaillgar a'r daearegwr Syr Henry De la Beche a bu Lewis a De la Beche yng nghyd weithio i gynnal arbrofion ar wahanol fathau o gleiau ar gyfer creu llestri, gyda'r nod o wella cynhyrchu llestri pridd. Ar 16 Mawrth, 1838 priododd Dillwyn a Elizabeth, merch De la Beche, bu iddynt pedwar o blant, y mwyaf adnabyddus o'r rhain oedd y nofelwraig Amy Dillwyn
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Yn ogystal â'i waith fel rheolwr Crochenwaith y Cambrian bu Dillwyn yn ddylanwadol wrth ehangu llawer diwydiant arall yng nghyffiniau Abertawe. Daeth yn bennaeth ar gwmni Dillwyn and Richards perchenogion gwaith sbelter Glandŵr; ffurfiodd bartneriaeth gyda William Siemens i sefydlu Landore Siemens Steel Co, erbyn 1874 daeth y cwmni yn un o bedwar o gynhyrchwyr mwyaf y byd, gan gyflogi tua 2000 o weithwyr. Yn y 1880au, wedi cwymp yn y diwydiant dur, canolbwyntiodd Dillwyn ei weithgareddau gweithgynhyrchu ar greu sbelter yn ei weithfeydd yn Llansamlet, gan ddod yn un o brif gynhyrchwyr sinc Gwledydd Prydain. Bu Dillwyn hefyd yn gyfarwyddwr gweithredol o Reilffordd y Great Western am nifer o flynyddoedd ac yn Gadeirydd Cwmni Bancio Sir Forgannwg.
Gyrfa gyhoeddus gynnar
[golygu | golygu cod]Ym 1837, yn ŵr ifanc 22 oed, penodwyd Dillwyn yn Ynad Heddwch Sir Forgannwg, fel ynadon bu ef a'i frawd John yn chwarae rhan blaenllaw i sicrhau nad oedd Helyntion Beca yn lledaenu o Sir Gaerfyrddin i Sir Forgannwg[4]. Bu'r hanesion teuluol am y cyfnod yn sail i lyfr cyntaf Amy Dillwyn The Rebecca Rioter (1880)
Etholwyd Dillwyn i Gyngor Tref Abertawe ac Ymddiriedolaeth Harbwr Abertawe. Ym 1848 Gwasanaethodd fel Maer Abertawe. Yn ystod ei gyfnod fel maer cafwyd cychwyn ar y cynllun trefol â sicrhaodd chyflenwad dŵr pur i'r dref a chynllun gwella strydoedd trwy eu henwi a thrwy gyflwyno palmentydd a goleuadau stryd.
Gyrfa Seneddol
[golygu | golygu cod]Ym 1855 cafodd Dillwyn ei ethol yn Aelod Seneddol etholaeth Dosbarth Abertawe, gan olynu John Henry Vivian oedd wedi dal y sedd ers 1832. Daliodd gafael ar y sedd heb fawr ddim gwrthwynebiad am ddeng mlynedd ar hugain hyd i'r sedd cael ei ddiwygio ar gyfer etholiad cyffredinol 1885. Ym 1885 safodd yn yr etholaeth newydd ar gyfer tref Abertawe, er iddo gael ei herio ar y ddau achlysur, llwyddodd i gael ei ethol yn weddol gyffyrddus. Cafodd ei enwebu i ymladd y sedd eto yn etholiad cyffredinol 1892 ond bu farw ar ddechrau'r ymgyrch.
Etholiad cyffredinol 1885: Etholaeth Abertawe | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Lewis Llewelyn Dillwyn | 3,660 | 59.2 | ||
Ceidwadwyr | W H Meredyth | 2,520 | 40.8 | ||
Mwyafrif | 1140 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 81.3 |
Etholiad cyffredinol 1886: Etholaeth
Abertawe | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Rhyddfrydol | Lewis Llewelyn Dillwyn | 3,040 | 63.6 | ||
Unoliaethol Ryddfrydol | A J Lambert | 2,708 | 36.4 | ||
Mwyafrif | 1,300 | ||||
Y nifer a bleidleisiodd | 62.9 | ||||
Rhyddfrydol yn cadw | Gogwydd |
Roedd Dillwyn yn cael ei ystyried yn Aelod Seneddol hynod radical ac arweinydd y Blaid Ryddfrydol Gymreig hyd ethol criw hyd yn oed mwy radical a chenedlaetholgar Gymreig megis Henry Richard. Roedd yn feirniadol iawn o freintiau clerigol Eglwys Lloegr, ym 1860 a 1863 cyflwynodd biliau seneddol i ganiatáu i anghydffurfwyr cael sefyll etholiad ar gyfer byrddau rheoli ysgolion gwaddoledig, bil i ddatgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yn yr Iwerddon ym 1865 a bil tebyg i ddatgysylltu'r Eglwys yng Nghymru ym 1880. Roedd yn cefnogi ehangu'r bleidlais, a fu'n arwain y grŵp o Ryddfrydwyr oedd yn anfodlon efo bil diwygio'r Senedd 1867 a arweiniodd at gryfhau'r ddeddf i sicrhau bod pob deiliad tŷ gwrywaidd yn cael bwrw pleidlais.
Fe fu yn gefnogol i achos amaethwyr a drowyd allan o'u ffermydd am wrthod cefnogi eu landlordiaid yn ystod ymgyrch etholiad 1868 ac i'r amaethwyr a oedd yn dioddef oherwydd eu rhan yn Rhyfel y Degwm yn yr 1880au. Roedd yn gefnogwr brwd dros achos ymreolaeth i'r Iwerddon ond yn llugoer tuag at ei gyd Ryddfrydwyr Cymreig oedd yn galw am ymreolaeth debyg i Gymru.
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ar 18 Mehefin 1892 mynychodd Dillwyn cyfarfod yng Nghlwb Rhyddfrydol Abertawe gan roddi araith i gefnogi ail enwebu David Randell fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth Gŵyr, yn ddiweddarach yn y noson mynychodd gyfarfod i gynllunio ei ymgyrch ei hun, ond fe'i cymerwyd yn sâl a fu farw'r diwrnod canlynol yng Ngwesty'r Royal, Abertawe.[5]
Cafodd ei gladdu yng nghladdgell y teulu yn eglwys y Sgeti[6]. Un o'r pethau nodweddiadol am y gwasanaeth a achosodd cryn sylw yn y wasg oedd bod ei merch Amy wedi torri ar drefn yr oes o wisgo dillad galar du drom, gan fynychu'r cynhebrwng mewn dillad pob dydd[7]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Morgan, Kenneth O. (1960). "Democratic Politics in Glamorgan, 1884–1914". Morgannwg 4: 5–27. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewobject/llgc-id:1170138/article/000042465. Adalwyd 2015-06-27.
- Rees, Ivor Thomas (Autumn 2004). "Whatever happened to young William?". Gwent Local History 97: 58–66. http://welshjournals.llgc.org.uk/browse/viewobject/llgc-id:1340775/article/000018092.[dolen farw]
- Lewis Llewelyn Dillwyn, JP, MP, Mayor of Swansea (1847) - BBC Your Paintings [8] Archifwyd 2015-06-27 yn archive.today
- Rhyfel y Degwm yng Nghymru - Casgliad y Werin [9]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur arlein DILLWYN , DILLWYN-LLEWELYN , (DILLWYN) VENABLES-LLEWELYN [1] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ David Painting, ‘Dillwyn, Lewis Llewelyn (1814–1892)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004 [2], adalwyd 27 Mehefin 2015 trwy docyn darllen LLGC
- ↑ Weekly Mail 25 Mehefin 1892 Sudden Death of Mr L L Dillwyn MP [3] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Cardiff Times - 2 Ebrill 1881 Mr Dillwyn MP [4] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Aberdare Times 25 Mehefin 1892 Death of Mr Dillwyn MP [5] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Tarian Y Gweithiwr 30 Mehefin 1892 Claddedigaeth Mr Dillwyn AS [6] adalwyd 27 Mehefin 2015
- ↑ Drych 21 Gorffennaf 1892 Galar Miss Dillwyn [7] adalwyd 27 Mehefin 2015
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: John Henry Vivian |
Aelod Seneddol Dosbarth Abertawe 1855 – 1885 |
Olynydd: Henry Hussey Vivian |
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
Rhagflaenydd: etholaeth newydd |
Aelod Seneddol Abertawe 1885 – 1892 |
Olynydd: Robert John Dickson Burnie |