John Henry Vivian

Oddi ar Wicipedia
John Henry Vivian
Ganwyd9 Awst 1785 Edit this on Wikidata
Bu farw10 Chwefror 1855 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 15fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 13eg Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 12fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 11eg Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
TadJohn Vivian Edit this on Wikidata
MamElizabeth Cranch Edit this on Wikidata
PriodSarah Jones Edit this on Wikidata
PlantGraham Vivian, Richard Glynn Vivian, Henry Hussey Vivian, merch anhysbys Vivian, Elizabeth Sarah Vivian, Caroline Gertrude Walker Vivian, Arthur Vivian, Henrietta Letitia Victoria Vivian Edit this on Wikidata
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Roedd John Henry Vivian (9 Awst 178510 Chwefror 1855) yn ddiwydiannwr ac yn wleidydd Chwig / Rhyddfrydol a fu'n ddylanwadol yn natblygiad y diwydiant copr yng Nghymru ac a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Dosbarth Abertawe o 1832 hyd 1855.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Ganwyd Vivian yn Truro, Cernyw yn fab i John Vivian (1750-1826) mentrwr mwyngloddio a thoddi copr a Betsy née Cranch ei wraig. Bu ei frawd Richard Hussey Vivian, Barwn 1af Vivian yn AS dros etholaethau yng Nghernyw ac etholaeth Windsor.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Ramadeg Truro ac Ysgol Lostwithiel. Yn 16 oed aeth i'r Almaen i astudio ieithoedd. Ym 1803 cofrestrodd fel efrydydd yn Sefydliad Mwyngloddio Prifysgol Freiberg fel disgybl i'r daearegwr Abraham Werner.

Ym 1816 priododd Sarah Jones (1799-1886) Merch Arthur Jones, Reigate, Surrey. Bu iddynt naw blentyn gan gynnwys Henry Hussey Vivian, Barwn 1af Abertawe.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Yn 1806, pan oedd yn un ar hugain mlwydd oed, penodwyd Vivian yn rheolwr gwaith toddi copr Penclawdd, cwmni roedd ei dad yn bartner ynddi. Ym 1809 fe sefydlodd, mewn partneriaeth a'i dad a Richard ei frawd, cwmni Vivian & Sons yn Abertawe a Chernyw a phenodwyd John yn bennaeth gwaith yr Hafod Abertawe a oedd yn rhan o'r cwmni.

Tra fo Richard Vivian yn parhau a'i fentrau milwrol a'u tad yn ymneilltuo o'r busnes, bu John Henry yn taflu pob egni i mewn i ddatblygu'r cwmni gan droi Vivian a'i meibion yn un o brif gwmnïau copr y byd. Bu hefyd yn gyfrifol am arallgyfeirio'r cwmni gan sefydlu Cwmni Glo Abertawe a datblygu diwydiant sinc a chynnyrch deunydd newydd, aloi o gopr a sinc.

Roedd gan Vivian diddordeb arbennig mewn llygredd atmosfferig a phroblemau'r mwg copr a oedd yn  gysylltiedig â smeltio. Yn ystod y 1820au cyflogodd Michael Faraday a Richard Phillips i ddatblygu dulliau o leihau allyriadau o lygryddion. Bu'r cwmni hefyd yn rhan o nifer o achosion llys yn ymwneud â llygredd.

Cyfraniad i addysg a gwyddoniaeth[golygu | golygu cod]

Vivianite (Fe3(PO4)2•8(H2O)

Roedd gan Vivian diddordeb byw mewn addysg a gwyddoniaeth.

Rhwng 1820 a 1847 bu Vivian a'i wraig yn gyfrifol am noddi a/ neu sefydlu pum ysgol yn ardal yr Hafod, Abertawe [2]

Ym 1823 cafodd ei ethol yn gymrawd y Sefydliad Brenhinol ac ym 1835 sefydlodd Sefydliad Brenhinol De Cymru [3]. Bu hefyd yn gymrawd Y Sefydliad Mwynol Brenhinol.

Ym 1817 enwyd y mwyn Vivianite ar ei ôl.[4]

Gyrfa Gyhoeddus[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd Vivian fel Ddirprwy Raglaw Sir Forgannwg ym 1820, ac fel Uchel Siryf ym 1827. Cafodd ei ethol fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol etholaeth newydd Dosbarth Abertawe o greu'r etholaeth ym 1832 hyd ei farwolaeth ym 1855 gan sefyll yn ddiwrthwynebiad mewn chwe etholiad yn olynol.

Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Abertawe ac fel un o ymddiriedolwyr Harbwr Abertawe.

Ym 1830 sefydlodd papur lleol dyddiol yng Nghernyw The Western Briton, papur Rhyddfrydol a sefydlwyd i roi barn amgen i un y papur Ceidwadol The Royal Cornwall Gazette.[1]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Abaty Singleton yn 69 mlwydd oed a rhoddwyd ei weddillion i orffwys yn Eglwys St Paul Sgeti, eglwys bu ef a'i deulu yn gyfrifol am ei sefydlu.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 Edmund Newell, ‘Vivian, John Henry (1785–1855)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, Oct 2009 adalwyd 14 Rhagfyr 2015
  2. Stephen Hughes Copperopolis: Landscapes of the Early Industrial Period in Swansea, Tud 248; Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales 2008 ISBN 9781871184327
  3. LlGC Ffotograffiaeth Gynnar Abertawe [1] adalwyd 14 rhagfyr 2015
  4. Mindat.org Vivianite [2] adalwyd 14 Rhagfyr 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Dosbarth Abertawe
18321855
Olynydd:
Lewis Llewelyn Dillwyn
Teitlau Anrhydeddus
Rhagflaenydd:
Thomas Edward Thomas
Uchel Siryf Morgannwg
1827-1828
Olynydd:
Robert Francis Jenner