Mary Dillwyn
| Mary Dillwyn | |
|---|---|
Mary Dillwyn. Hunan-bortread, c. 1853 | |
| Ganwyd | 1816 Cymru, Abertawe |
| Bu farw | Rhagfyr 1906 Cymru |
| Dinasyddiaeth | |
| Galwedigaeth | ffotograffydd |
| Tad | Lewis Weston Dillwyn |
| Mam | Mary Adams |
| Priod | Montague Earle Welby |
| Perthnasau | Thereza Dillwyn Llewelyn |
Ffotograffwraig o Gymru oedd Mary Dillwyn (1816–1906). Mae lle i gredu mai hi oedd y fenyw gyntaf yng Nghymru i dynnu ffotograffiau, a hynny yn y 1840au a'r 1850au. Mae ei gwaith ffotograffeg yn fwy naturiol na gwaith ei chyfoeswyr. Ei hoff bynciau oedd blodau, anifeiliaid, ei theulu a'i chyfeillion. Mae Dillwyn yn ffigwr allweddol yn hanes ffotograffwyr benywaidd o ran ei phortread o fywyd y cartref. Oherwydd hynny, rhoddodd hi gipolwg i fywydau domestig menywod a phlant yn byw mewn y 19g, Prydain. Roedd hi'n chwaer i'r ffotograffydd John Dillwyn Llewelyn (1810-1882), arloeswr yn y maes, a'r Aelod Seneddol Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892). Roedd hi'n byw ym mhentref Penlle'r-gaer, ger Abertawe.
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Roedd hi'n un o chwech blant gan Lewis Weston Dillwyn (1778–1855) a Mary Adams (1776-1865), merch y Cyrnol John Llewelyn o Penlle'r-gaer, Llangyfelach. Hi oedd y chwaer iau o'r ffotograffydd John Dillwyn Llewelyn (1810-1882), datblygwr technegau ffotograffig newydd, a Lewis Llewelyn Dillwyn, tad Amy Dillwyn. Hefyd, mae'r teulu Dillwyn Llewelyn yn gysylltiedig trwy briodas i William Henry Fox Talbot, a honnai iddo ddarganfod ffotograffiaeth yn 1839.
Roedd Mary o flaen ei hamser am ei diddordeb mewn technoleg chwyldroadol newydd: mae'r rhan fwyaf o'r ffotograffau a dynnwyd ganddi yn calotypes (proses ffotograffig a gyflwynwyd gan William Henry Fox Talbot), a hynny yn y 1840au a'r 1850au, felly y ffotograffydd benywaidd cyntaf yng Nghymru oedd hi. Yn wahanol i'w cymheiriaid gwrywaidd, defnyddiodd Mary camera bach, oherwydd doedd dim angen i amseroedd amlygiad hir, ar yr amod ei gyfle o gymryd lluniau mwy digymell sy'n dal y munudau agos o'r teulu a ffrindiau yn ei bywyd Fictoraidd.
Daeth ei diddordeb mewn ffotograffiaeth i ben yn 1857 pan briododd y Parchedig Montague Earle Welby. Bu farw Mary yn Arthog, Sir Feirionnydd, yn Rhagfyr 1906.
Lluniau nodedig
[golygu | golygu cod]Mae Mary wedi cael y clod am gymryd y ffotograff gyntaf o berson yn gwenu,[1] sy'n nodweddiadol o'i thriniaeth o ffotograffiaeth, sy'n fwy hamddenol na'r rhan fwyaf o ffotograffau yn y cyfnod hwnnw. Credir hefyd mai ei llun hi o ddyn eira yw'r ffotograff cyntaf o'i fath yn y byd.[2]
Ceir casgliad o ffotograffau Mary Dillwyn yn archifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru, sy'n cynnwys yr albwm Llysdinam, sy'n bwysig am ei fod yn gofnod o brosesau cynnar ffotograffiaeth, megis printiau halen a phrintiau gwynnwy.
- Ffotograffau gan Mary Dillwyn (c.1853)
- Willy
- Mrs Vivian and Little Ernest
- The Snowman
- Sally and Mrs Read
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ John Ezard, "First smile captured on film in Britain", The Guardian, 26 Chwefror 2003; adalwyd 24 Chwefror 2026
- ↑ Bohata, K (2018). "Pioneers and Radicals: The Dillwyn Family's Transatlantic Tradition of Dissent and Innovation.". Transactions of the Honourable Society of Cymmrodorion 24: 47–63. https://cronfa.swan.ac.uk/Record/cronfa50203/Download/0050203-19092019095522.pdf. Adalwyd 2026-02-24.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Albwm Llysdinam Mary Dillwyn, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
