Catherine Merriman

Oddi ar Wicipedia
Catherine Merriman
Ganwyd1949 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Nofelydd a llenor straeon byrion Prydeinig yw Catherine A. Merriman, sy'n ysgrifennu yn yr iaith Saesneg. Er na'i ganwyd yng Nghymru mae wedi byw yn ne-ddwyrain Cymru ers 1973 a chysidrir hi i fod yn Gymraes.

Mae Merriman wedi cyhoeddi pump nofel a tair casgliad o straeon byrion. Enillodd ei nofel gyntaf, Leaving the Light On, Wobr Goffa Ruth Hadden ym 1992. Enwyd ei chasgliad o straeon byrion, Silly Mothers, ar restr fer Llyfr y Flwyddyn 1992, ac mae wedi ennill gwobr stori fer Rhys Davies ddwywaith, ym 1991 ac 1998. Mae nifer o'i straeon byrion wedi cael au darlledu ar BBC Radio 4.

Golygodd antholeg Laughing, Not Laughing: Women Writing on 'My Experience of Sex', o ferched Cymru'n ysgrifennu am ryw, a enillodd y categori cyhoeddiadau yng Ngwobrau Erotig 2004.

Mae ei llenyddiaeth yn aml yn cyfeirio at brofiadau merched; mae Broken Glass yn canolbwyntio ar gancr y fron a State of Desire yn cyfeirio at ail-ddefro rhywioldeb wedi profedigaeth. Dywed Merriman fod dwy o'i nofelau (Leaving The Light On a Fatal Observations), yn trafod pŵer a thrais yn y cartref, ac wed ieu seilio ar unarddeg mlynedd o brofiad fel gwirfoddolwr gydag elusen Women's Aid.>

Mae Merriman yn dysgu ysgrifennu ym Mhrifysgol Morgannwg. Mae'n Gymrawd o'r Academi a chyd-gadeirydd eu pwyllgor aelodau. Bu'n olygydd ffuglen y New Welsh Review am sawl blynedd, ac mae wedi beirniadu mewn nifer o gystadlaethau straeon byrion.

Gweithiau[golygu | golygu cod]

Nofelau[golygu | golygu cod]

  • Leaving the Light On (1992)
  • Fatal Observations (1993)
  • State of Desire (1996)
  • Broken Glass (1998)
  • Brotherhood (2003)

Straeon byrion[golygu | golygu cod]

  • Silly Mothers (1991)
  • Of Sons and Stars (1997)
  • Getting a Life (2001)

Golygydd[golygu | golygu cod]

  • Laughing, Not Laughing: Women Writing on 'My Experience of Sex' (Honno; 2004)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]