Dorothy Edwards (nofelydd Cymreig)

Oddi ar Wicipedia
Dorothy Edwards
Ganwyd18 Awst 1902 Edit this on Wikidata
Cwmogwr Edit this on Wikidata
Bu farw6 Ionawr 1934 Edit this on Wikidata
Gorsaf reilffordd Caerffili Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethnofelydd Edit this on Wikidata

Nofelydd Cymreig oedd Dorothy Edwards (18 Awst 19025 Ionawr 1934), a ysgrifennai yn yr iaith Saesneg.

Roedd Edwards yn dod o Dyffryn Ogwr, addysgwyd yn Ysgol Howell's yn Llandaf a Phrifysgol Caerdydd. Roedd yn hyddysg yn llenyddiaeth llawer iaith fel Rwsieg, yr Almaeneg a'r Eidaleg. Treuliodd beth amser yn Wien, Firenze a Llundain ond roedd ei chartref parhaol yng Nghaerdydd. Bu'n weithredol yn y byd gwleidyddiaeth, dros achosion sosialaidd a chenedlaetholdeb Cymreig. Roedd hefyd yn gantores amatur galluog. Ar 6 Ionawr 1934, lladdodd ei hun gan daflu ei hun o flaen trên ger gorsaf reilffordd Caerffili. Gadawodd nodyn hunanladdiad yn datgan: "I am killing myself because I have never sincerely loved any human being all my life. I have accepted kindness and friendship and even love without gratitude, and given nothing in return".[1]

Gweithiau[golygu | golygu cod]

  • Rhapsody (1927) (straeon byrion)
  • Winter Sonata (1928)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. The Daily Mirror, 10 Ionawr 1934, tud 5

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]


Eginyn erthygl sydd uchod am lenor neu awdur Cymreig. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.