Cyngor Celfyddydau Lloegr
Enghraifft o'r canlynol | corff cyhoeddus anadrannol, arts council |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1994 |
Lleoliad | Llundain |
Gweithwyr | 488, 492, 618, 522, 539 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Rhanbarth | Llundain |
Gwefan | http://www.artscouncil.org.uk/ |
Ffurfiwyd Cyngor Celfyddydau Lloegr (Saesneg: Arts Council England) ym 1994 pan ranwyd Cyngor Celfyddydau Prydain Fawr yn dair corff ar wahân ar gyfer Lloegr, yr Alban a Chymru. Mae'n gorff cyhoeddus heb fod yn rhan o'r llywodraeth, o dan Adran Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon. Cafodd system ariannu'r celfyddydau ei ail-wampio yn Lloegr yn 2003, pan wnaethpwyd yr holl Fyrdd Celfyddydau Rhanbarthol yn rhan o Gyngor Celfyddydau Lloegr.
Ariannir y corff gan y llywodraeth, a cysegrir i hybu celfyddydau perfformio, gweledol a llenyddol yn Lloegr. Mae'r Cyngor wedi bod yn gyfrifol am ddosbarth arian loteri ers 1994. Mae'r buddsoddiad hwn wedi trawsnewid adeiladau sefydliadau celf a chreu'r cyfle i gynnal nifer o ddigwyddiadau celfyddydol.