Eiluned Lewis
Gwedd
Eiluned Lewis | |
---|---|
Ffugenw | Eiluned Lewis |
Ganwyd | 1 Tachwedd 1900 Penystrywaid |
Bu farw | 15 Ebrill 1979 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, newyddiadurwr, llenor |
Nofelydd, bardd a newyddiadurwraig Gymreig oedd Jane Eiluned Lewis (1 Tachwedd 1900 – 15 Ebrill 1979), a ysgrifennai yn Saesneg.
Ganwyd yn y Drenewydd, Sir Drefaldwyn. Addysgwyd yn Ysgol Levana, Wimbledon, a Westfield College Llundain.Gweithiodd am gyfnod hir ar y Sunday Times, gan ddod yn olygydd cynorthwyol. Ysgrifennodd hefyd ar gyfer y cylchgrawn Country Life o 1944 tan 1979.
Priododd Graeme Hendrey ym 1937 a chawsont ferch, Katrina. Ysgrifennwyd rhai o'i llyfrau ar y cyd gyda'i brawd, Peter. Bu'ngyfaill i'r nofelydd Charles Langbridge Morgan.
Gweithiau
[golygu | golygu cod]- Dew On The Grass (1934)
- December Apples (1935) cerddi
- The Land Of Wales (1937) gyda Peter Lewis
- The Captain's Wife (1943)
- Morning Songs and other poems (1944)
- In Country Places (1951) casgliad o'i newyddiaduriaeth ar gyfer cylchrawn Country Life
- The Leaves of the Tree (1953)
- Honey Pots and Brandy Bottles (1954)
- Selected Letters of Charles Morgan (1967) gol.
- The Old Home (1981) cofiant
- A Companionable Talent: stories, essays & recollections (1996)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- Catherine Reilly (1984) Chaos of the Night