Henry Griffiths

Oddi ar Wicipedia
Henry Griffiths
Ganwyd1812 Edit this on Wikidata
Tyddewi Edit this on Wikidata
Bu farw14 Awst 1891 Edit this on Wikidata
Bushey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, tiwtor Edit this on Wikidata

Roedd Henry Griffiths (1812 - 14 Awst 1891) yn weinidog Annibynnol ac yn athro Cymreig.[1]

Cefndir[golygu | golygu cod]

Roedd Griffiths y blentyn hynaf o wyth i James Griffiths[2] a Sarah (née Phillips) ei wraig, roedd ei dad yn weinidog Annibynnol Machynlleth ar adeg genedigaeth Henry, ond fe'i ganwyd yng nghartref teuluol ei fam yn Llanferan ger Tyddewi. Bu farw ei fam pan oedd Henry yn 13 mlwydd oed.[3] Fe'i haddysgwyd yn Ysgol Neuaddlwyd cyn mynd ymlaen i Coward College, coleg i ddarpar weinidogion anghydffurfiol yn Llundain[4] lle fu'n astudio mathemateg ac athroniaeth mewn cydweithrediad a Phrifysgol Llundain.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Ar ôl ymadael a'r coleg derbyniodd Griffiths alwad i fod yn weinidog ar Ynys Wyth ac wedyn yn Stroud. Ym 1842 fe'i penodwyd yn brifathro ar Goleg yr Annibynwyr yn Aberhonddu

Yn ystod ei gyfnod yn y Coleg yn Llundain daeth Griffiths dan ddylanwad Augustus de Morgan, mathemategydd amlwg a oedd wedi ceisio priodi mathemateg â rhesymeg. Roedd Lewis yn ceisio mynd a'r syniadaeth hynny cam ym mhellach trwy geisio cymodi'r holl fyd gwyddonol â byd crefydd. Daeth annog ei fyfyrwyr i ddilyn yr un trywydd yn rhan amlwg o'i genhadaeth yn ystod ei gyfnod fel prifathro. Dangosodd penodi dyn o'r fath i Brifathrawiaeth y Coleg awydd clodwiw ar ran awdurdodau'r coleg i fynd i'r afael â materion meddwl cyfoes.[5] Ysgrifennodd rhai llyfrau ar y pwnc hefyd gan gynnwys:

  • Faith, the Life-root of Science
  • Philosophy, Ethics and Religion
  • Conservation of Forces

Yn ystod cyfnod Griffiths fel prifathro bu dau ddatblygiad pwysig yn nhrefniadaeth y coleg. Y gyntaf oedd agor y coleg i nifer cyfyngedig o efrydwyr lleyg, nad oeddynt yn bwriadu dod yn weinidogion na chenhadon. Yr ail oedd y coleg yn cael ei gydnabod fel un cysylltiedig â Phrifysgol Llundain ym 1852, a thrwy hynny yn gallu cynnig cyrsiau gradd.

Yn dilyn cyhoeddi Y Llyfrau Gleision ym 1847, daeth addysg yng Nghymru yn bwnc pwysig, ac fel pennaeth coleg bu Griffiths yn chwarae rhan ganolog yn y drafodaeth. Er bod llawer o ddicter am frad y llyfrau ac annhegwch eu darluniad o'r Cymry a'u moesau, bu hefyd cydnabyddiaeth bod gwendidau amlwg yn nhrefniadaeth addysg yn y wlad a bod angen gwella. Roedd dwy farn ar sut i gael y maen i'r wal. Roedd dynion fel David Rees, Llanelli, Hugh Jones, Caerfyrddin ac Edward Roberts, Cwmafan yn ffafrio system addysg a gefnogwyd gan y wladwriaeth, tra bod S.R. a Ieuan Gwynedd yn credu y byddai rhoi dyfodol addysg plant anghydffurfiol yn nwylo wladwriaeth hollalluog yn drychineb ac mai dyletswydd blaen cymdeithasau Cristnogol rhydd oedd arolygu ac ariannu addysg eu plant eu hunain. Ym 1848, cyhoeddodd Henry Griffiths bamffled ar addysg yng Nghymru Education in Wales oedd yn rhoi ei gefnogaeth ef a chefnogaeth ei Goleg i achos yr ysgolion gwirfoddol. .[5]

Wedi anghydfod rhyngddo a rhai aelodau o fwrdd llywodraethol y Coleg, ymddiswyddodd Griffiths o brifathrawiaeth y Coleg ym 1853. Dychwelodd at wasanaethu cynulleidfaoedd Annibynnol Saesneg yn Lloegr fel gweinidog capel. Derbyniodd galwadau yn Lerpwl, Bowdon Swydd Gaerhirfryn, a High Barnet, Hampshire. Ymddeolodd o'r weinidogaeth oherwydd salwch ym 1884.[6]

Teulu[golygu | golygu cod]

Priododd merch o'r enw Mary o Hampshire tua 1840 bu iddynt ferch a mab. Eu mab oedd Ernest Howard Griffiths, ail Brifathro Prifysgol Caerdydd.[7]

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn Bushey Heath, yn 79 mlwydd oed,[8] a chladdwyd ef yn Cowes.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "GRIFFITHS, HENRY (1812 - 1891), gweinidog ac athro Annibynnol | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2021-06-05.
  2. GRIFFITHS, JAMES (1782 - 1858), gweinidog gyda'r Annibynwyr. Y Bywgraffiadur Cymreig Adalwyd 4 Mehefin 2021
  3. Y Dysgedydd Crefyddol Chwefror 1859 tud 53 "RHAGOROLION Y DDAEAR A FFYDDLONIAID Y TIR." Gan S Thomas adalwyd 4 Mehefin 2021
  4. Parker, Irene (1914). Dissenting academies in England: their rise and progress, and their place among the educational systems of the country. Cambridge University Press.
  5. 5.0 5.1 Brycheiniog Cyfrol 3, 1957 tud 54; Episodes in the History of Brecknockshire Dissent: V THE COLLEGE AT BRECON adferwyd 5 Mehefin 2021
  6. Y Dysgedydd Crefyddol Tachwedd 1884 "Crybwyllion Enwadol" adalwyd 5 Mehefin 2021
  7. GRIFFITHS, ERNEST HOWARD (1851 - 1932), ffisegwr ac addysgwr. Y Bywgraffiadur adalwyd 5 Meh 2021
  8. "ST DAVIDS - The Pembrokeshire Herald and General Advertiser". Joseph Potter. 1891-08-21. Cyrchwyd 2021-06-05.