Henffordd a Chaerwrangon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Henffordd a Chaerwrangon
Math sir an-fetropolitan, cyn endid gweinyddol tiriogaethol Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1 Ebrill 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Lloegr Lloegr

Sir yn rhanbarth Gorllewin Canolbarth Lloegr oedd Henffordd a Chaerwrangon (Saesneg: Hereford and Worcester). Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o'r hen siroedd gweinyddol Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1998.

Lleoliad Henffordd a Chaerwrangon yn Lloegr

Rhennid y sir yn naw ardal an-fetropolitan:

HerefordWorcester 1974 Numbered.png
  1. Ardal Wyre Forest
  2. Ardal Bromsgrove
  3. Ardal Redditch
  4. Ardal Wychavon
  5. Dinas Caerwrangon
  6. Ardal Malvern Hills
  7. Ardal Leominster
  8. Dinas Henffordd
  9. Ardal De Swydd Henffordd

Nod y Ddeddf oedd gwneud llywodraeth leol yn fwy effeithlon: roedd y ddwy sir ymhlith y lleiaf poblog yn Lloegr, yn enwedig ar ôl i'r un Ddeddf drosglwyddo rhai o ardaloedd mwyaf trefol yn Swydd Gaerwrangon (sef Halesowen, Stourbridge a Warley) i Orllewin Canolbarth Lloegr.

Nid oedd y sir newydd erioed yn boblogaidd, a chafodd wrthwynebiad ffyrnig yn Swydd Henffordd yn benodol. Roedd gan Swydd Henffordd boblogaeth o tua 140,000, llawer llai na phoblogaeth Swydd Gaerwrangon, gyda thua 420,000. Felly gwelwyd y newid yn Swydd Henffordd fel trosfeddiant yn hytrach nag uno

Yn y diwedd, ailsefydlwyd yr hen siroedd ym 1998. Daeth Swydd Henffordd yn awdurdod unedol o fewn ei hen ffiniau, a diflannodd ardaloedd an-fetropolitan Leominster, De Swydd Henffordd a Dinas Henffordd. Bu rhywfaint o ailddosbarthu'r ardaloedd an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon hefyd. Mae rhai gweddillion o Henffordd a Chaerwrangon yn dal i fodoli, yn arbennig Gwasanaeth Tân ac Achub Henffordd a Chaerwrangon.