Ardal Malvern Hills
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Gaerwrangon |
| Prifddinas | Malvern |
| Poblogaeth | 81,024 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 577.071 km² |
| Cyfesurynnau | 52.0837°N 2.3437°W |
| Cod SYG | E07000235 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Malvern Hills District Council |
![]() | |
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Malvern Hills.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 577.1 km², gyda 78,113 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cwmpasu'r rhan fwyaf o hanner gorllewinol Swydd Gaerwrangon. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerwrangon, sef Ardal Wyre Forest, Ardal Wychavon a Dinas Caerwrangon, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig, Swydd Henffordd a Swydd Gaerloyw.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 fel rhan o sir newydd Henffordd a Chaerwrangon. Pan ddiddymwyd y sir honno ym 1998, ac ailgyhoeddwyd hen ffiniau sirol Swydd Henffordd a Swydd Gaerwrangon, collodd Malvern Hills ran sylweddol o'i arwynebedd gorllewinol i Swydd Henffordd, ond ychwanegodd Tenbury Wells i'r gogledd, ac roedd yr ardal gyfan wedi'i chyfyngu o fewn ffiniau Swydd Gaerwrangon.

Pencadlys yr awdurdod yw Great Malvern. Tenbury Wells ac Upton-upon-Severn yw trefi eraill yr ardal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 15 Mawrth 2020
