Ardal Wychavon

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ardal Wychavon
Math ardal an-fetropolitan Edit this on Wikidata
Ardal weinyddol Swydd Gaerwrangon
Prifddinas Pershore Edit this on Wikidata
Poblogaeth 121,500 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Swydd Gaerwrangon
Gwlad Baner Lloegr Lloegr
Arwynebedd 663.5418 km² Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 52.114°N 2.081°W Edit this on Wikidata
Cod SYG E07000238 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaethol Cyngor Ardal Wychavon Edit this on Wikidata

Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Wychavon.

Mae gan yr ardal arwynebedd o 663.5 km², gyda 127,340 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn ymestyn o gornel dde-ddwyreiniol Swydd Gaerwrangon i'r gogledd a'r gorllewin. Mae'n ffinio â phum ardal arall Swydd Gaerwrangon, yn ogystal â siroedd Swydd Gaerloyw a Swydd Warwick.

Wychavon yn Swydd Gaerwrangon

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o hen awdurdodau lleol, sef bwrdeistrefi Droitwich ac Evesham ynghyd ag Ardal Wledig Evesham a'r rhan fwyaf o Ardal Wledig Droitwich a'r rhan fwyaf o Ardal Wledig Pershore.

Mae enw'r ardal, a ddyfeisiwyd ym 1973, yn cynnwys dwy elfen. Mae "Wych" yn cyfeirio at Hwicce, teyrnas Sacsonaidd hynafol, ac mae "Avon" yn cyferio at Afon Avon.

Pencadlys yr awdurdod yw Pershore. Droitwich Spa ac Evesham yw trefi eraill yr ardal.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. City Population; adalwyd 15 Mawrth 2020