Ardal Wyre Forest
| Math | ardal an-fetropolitan |
|---|---|
| Ardal weinyddol | Swydd Gaerwrangon |
| Prifddinas | Kidderminster |
| Poblogaeth | 101,062 |
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Swydd Gaerwrangon (Sir seremonïol) |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 195.4038 km² |
| Cyfesurynnau | 52.389°N 2.255°W |
| Cod SYG | E07000239 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | council of Wyre Forest District Council |
![]() | |
- Erthygl am yr ardal llywodraeth leol yn Swydd Gaerwrangon yw hon. Am yr ardal yn Swydd Gaerhirfryn gweler Bwrdeistref Wyre.
Ardal an-fetropolitan yn Swydd Gaerwrangon, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Ardal Wyre Forest.
Mae gan yr ardal arwynebedd o 195.4 km², gyda 101,062 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2018.[1] Mae'r ardal yn cynnwys rhan ogleddol ganolog Swydd Gaerwrangon. Mae'n ffinio â thair ardal arall Swydd Gaerwrangon, sef Ardal Malvern Hills, Ardal Wychavon ac Ardal Bromsgrove, yn ogystal â siroedd Swydd Amwythig a Swydd Stafford.

Ffurfiwyd yr ardal dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Cyfunodd nifer o hen awdurdodau lleol, sef bwrdeistrefi Bewdley a Kidderminster ynghyd ag Ardal Wledig Stourport-on-Severn ac Ardal Wledig Kidderminster.
Ers 2011 mae pencadlys yr awdurdod yn nhref Kidderminster. Cyn hynny fe'i lleolwyd yn nhref Stourport-on-Severn. Bewdley yw'r drydedd dref bwysig yr ardal.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ City Population; adalwyd 15 Mawrth 2020
