Ernest Nathaniel Bennett

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Ernest Nathaniel Bennett
Ganwyd 12 Rhagfyr 1865 Edit this on Wikidata
Bu farw 2 Chwefror 1947 Edit this on Wikidata (81 oed)
Dinasyddiaeth Y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Gwleidydd, newyddiadurwr, Ysgrifennwr, fforiwr Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 37ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 36fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 35ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Syr Ernest Nathaniel Bennett (12 Rhagfyr 18652 Chwefror 1947), yn filwr, yn fforiwr, yn academydd, yn awdur ac yn wleidydd a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Caerdydd Canolog o 1929 i 1945[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Bennett yn Colombo, Sri Lanca yn fab i George Bennett, offeiriad yn Eglwys Loegr, ac Eleiza (née Fewson) ei wraig.

Priododd Marguerite Kleinwort, merch hynaf Herman Gerverus Kleinwort ym 1915, bu iddynt dri o blant gan gynnwys Frederic Bennet (1918-2002), Aelod Seneddol Ceidwadol o 1951 i 1987 ac Arglwydd Maenor Mawddwy.

Bywyd Academaidd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Bennett ei addysgu yn Ysgol Durham a Choleg Hertford, Rhydychen lle dderbyniodd gradd dosbarth cyntaf yn y mawrion ym 1889, a gradd dosbarth cyntaf mewn Diwinyddiaeth ym 1890. Ym 1891 fe'i gwnaed yn Gymrawd o Goleg Hertford a bu yn darlithio yno ac yng Ngholegau Wadham, Penfro a Lincoln hyd ei ethol i'r Senedd am y tro cyntaf ym 1906. Parhaodd i wasanaethu fel Cymrawd Allanol hyd ei briodas ym 1915, pan orfodwyd iddo ymddiswyddo gan fod disgwyl i Gymrodyr Hertford bod yn ddibriod ar y pryd.[2]

Gyrfa filwrol[golygu | golygu cod y dudalen]

Gwasanaethodd Bennett fel Ohebydd Ryfel yn ystod Terfysg Creta, 1897; cafodd ei gofrestru fel gohebydd gan y Tyrciaid a chafodd ei gipio gan eu gelynion y Groegwyr a'i ddedfrydu i farwolaeth; cafodd ei ryddhau wedi i un o'r swyddogion ym myddin Groeg ei adnabod fel cyn cyd fyfyriwr yn Rhydychen[3]. Ym 1898 dilynodd y Cadfridog Kitchener i Khartoum fel gohebydd rhyfel gan ysgrifennu am Frwydr Omdurman lle llwyddodd byddin o 25,000 a arweiniwyd gan Brydain i oresgyn byddin o 50,000 o dderfisiaid, collodd y derfisisiaid tua 23,000 o filwyr o gymharu â 300 o golledion gan luoedd Prydain. Cwynodd Bennett am ymddygiad y lluoedd Prydeinig tuag at eu gelynion oedd wedi eu clwyfo, gan godi ymateb ffyrnig am ei ddiffyg gwladgarwch gan gefnogwyr Prydeindod.

Ym 1900 bu Bennett yn Is-gapten ar blatŵn o wirfoddolwyr o Brifysgolion Rhydychen a wasanaethodd yn Rhyfel y Bôr. Ym 1911 fe fu yn gohebu ar y rhyfel rhwng Twrci a'r Eidal. Roedd yn rhy hen i wasanaethu fel Milwr yn y Rhyfel Byd Cyntaf gan hynny fe wirfoddolodd i wasanaethu fel Comisiynydd yn y Groes Goch Brydeinig gan wasanaethu yn Ffrainc, Gwlad Belg a Serbia; tra yn Serbia llwyddodd cenhadaeth y Groes Goch, dan arweinyddiaeth Bennett dod ac epidemig colera, a oedd eisoes wedi lladd 150,000 o bobl o dan reolaeth; dyfarnwyd iddo anrhydedd Urdd yr Eryr Wen gan Serbia am ei wasanaeth.

Ym 1915 ymunodd Bennett a staff XI Uned Droedfilwyr Byddin Alldeithiol Prydain, wedi hynny cafodd ei godi'n gapten ym Mhencadlys y XI Corfflu o'r Byddin ym 1917, bu hefyd yn gweithio gydag Uned Cudd Ymchwil y Morlys, daeth ei gyfnod milwrol i ben fel swyddog ym mhencadlys Byddin Brydeinig y Rhein ym 1919.[4]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd Bennett ei ethol fel Aelod Seneddol etholaeth Woodstock yn Swydd Rydychen ym 1906 gan golli'r sedd yn Etholiad Cyffredinol 1910. Ymadawodd a'r Blaid Ryddfrydol ym 1916 gan ymuno a'r Blaid Lafur, safodd fel ymgeisydd Llafur aflwyddiannus mewn sawl etholaeth hyd gael ei ethol yng Nghaerdydd Canolog ym 1929 gan gadw'r sedd hyd ei ymddeoliad o'r Senedd yn 1945.

Ym 1932 penodwyd Bennett yn Ddirprwy Postfeistr Cyffredinol y Llywodraeth Genedlaethol dan brif weinidogaeth Ramsay MacDonald.[4]

Roedd Bennett yn gwrthwynebu Cytundeb Versailles, y cytundeb a benderfynodd telerau diwedd y Rhyfel Byd Cyntaf a'r gosb i'r Almaen am ei ran yn y Rhyfel; roedd yn gefnogol i'r achos dyhuddiad wrth i densiynau codi rhwng yr Almaen a Phrydain yn y cyfnod a arweiniodd at yr Ail Ryfel Byd. Ym 1940 cafodd Aelod Seneddol Unoliaethol o'r Alban, Archiballd Ramsey ei ddalgadw o dan Ddeddf Amddiffyn y Deyrnas oherwydd ei gefnogaeth i Hitler, Natsïaeth a hil-laddiad Iddewon; wrth ei arestio canfuwyd yn ei feddiant llyfr a oedd yn cynnwys aelodau o'r Right Club (gair mwys oedd yn awgrymu pobl oedd yn gywir eu barn wleidyddol ac ar y dde wleidyddol) clwb o bobl a oedd yn cytuno a barn Ramsey. Pan gyhoeddwyd enwau'r aelodau ym 1989 cafwyd bod enw Bennett yn eu mysg.[5]

Diddordebau amgen[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Bennett yn naturiaethwr amatur brwdfrydig, ar ymweliad i ynys Socotra ym 1896/7 canfu nifer o rywogaethau newydd o drychfilod a phryfed cop, enwyd nifer ohonynt ar ei ôl.

Roedd hefyd yn ymddiddori yn yr uwch-naturiol gan wario llawer o amser yn ymchwilio tai a oedd a thraddodiad bod ysbrydion yn eu cerdded.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu Syr Ernest farw ym 1947 a'i gladdu yn Rhydychen.

Cyhoeddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Christianity and Paganism in the Fourth and Fifth Centuries, Rivingtons, London, 1900
  • The downfall of the dervishes: being a sketch of the final Sudan campaign of 1898, London: Methuen, 1898
  • With Methuen’s Column on an Ambulance Train, Swan Sonnenshein, London, 1900
  • With the Turks in Tripoli; being some experiences in the Turco-Italian war of 1911, London: Methuen, 1912
  • Problems of village life, London: Williams and Norgate, 1914
  • The German army in Belgium, the white book of May 1915, London: Swarthmore Press, 1921.
  • Apparitions and haunted houses; a survey of evidence, London: Faber and Faber, 1939
  • Apollonius; or, The present and future of psychical research, London: Kegan Paul, [n.d.]. In the series Today and Tomorrow.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. "BENNETT, Sir Ernest Nathaniel". Who Was Who. A & C Black. 1920–2008. Cyrchwyd 16 Awst 2015.
  2. Oxford Men and their Colleges, 1880–92, Joseph Foster, 1893, James Parker & Co., Oxford
  3. Among the Cretan Insurgents, Ernest N. Bennett, Blackwood's Edinburgh Magazine, February 1898.
  4. 4.0 4.1 Roger T. Stearn, ‘Bennett, Sir Ernest Nathaniel (1865–1947)’, Oxford Dictionary of National Biography, Oxford University Press, 2004; online edn, May 2013 adalwyd 15 Awst 2015
  5. Robin Saikia, The Red Book - The Membership List of the Right Club - 1939, Foxley Books (June 30, 2010) ISBN 1905742029
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
George Herbert Morrell
Aelod Seneddol Woodstock
19061910
Olynydd:
Alfred St. George Hamersley
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Lewis Lougher
Aelod Seneddol Caerdydd Canolog
19291945
Olynydd:
George Thomas