Lewis Lougher

Oddi ar Wicipedia
Lewis Lougher
Ganwyd1 Hydref 1871 Edit this on Wikidata
Llandaf Edit this on Wikidata
Bu farw28 Awst 1955 Edit this on Wikidata
Radur Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethdiwydiannwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 34ydd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata

Roedd Syr Lewis Lougher (1 Hydref 1871 - 28 Awst 1955) yn ddyn busnes a gwleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol etholaethau Dwyrain Caerdydd a Chaerdydd Canolog yn y 1920au.[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod]

Roedd Lougher yn ail fab i Thomas Lougher o Landaf a Charlotte née Lewis, ei wraig.

Cafodd ei addysgu yn Ysgol Uwchradd Caerdydd a Choleg Technegol Caerdydd[2]

Ni fu’n briod.

Gyrfa[golygu | golygu cod]

Wedi gadael y coleg fe’i prentisiwyd i fasnachwyr ŷd, cyn sefydlu ei fusnesau ei hun yn y diwydiant llongau, gan sefydlu busnesau llwyddiannus ar adeg pan oedd Caerdydd yn brif borthladd glo'r byd. Ym 1910 sefydlodd cwmni llongau Lewis Lougher and Co. Ltd. a bu ganddo lynges o longau yn nociau Bute. Bu'n gadeirydd nifer o gwmnïau llongau yng Nghaerdydd, Penarth a'r Barri. Roedd yn cael ei gyfrif fel yn arbenigwr ar broblemau allforio a thrin glo, gan wasanaethu fel aelod o’r Bwrdd Trimio Glo Cenedlaethol rhwng 1918 a 1919.

Bu’n weithredol ym maes ddatblygu tai fel cyfarwyddwr cwmnïau Whitehouse Precast Concrete Limited, a Danybryn Estates Limited. Roedd hefyd yn gyfarwyddwr ar Ben Evans & Co. Ltd, siop adrannol yn Abertawe.[3]

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod]

Bu'n aelod o Gyngor Sir Forgannwg o 1922-1949 ac yn aelod a chadeirydd Cyngor Dosbarth Gwledig Caerdydd.

Safodd fel ymgeisydd Plaid yr Unoliaethwyr (Ceidwadwyr) yn etholaeth Ddwyrain Caerdydd yn etholiad 1922 gan gipio’r sedd oddi wrth y Rhyddfrydwr William Henry Seager. Collodd y sedd i’r rhyddfrydwr Syr Henry Webb yn etholiad 1923. Cafodd ei ddewis fel ymgeisydd yn etholaeth Caerdydd Canolog wedi trafferthion ariannol James Childs Gould gan gadw’r sedd i’r Unoliaethwyr yn etholiad 1924. Collodd y sedd i’r ymgeisydd Llafur, Syr Ernest Nathaniel Bennett yn etholiad 1929[4][5]

Y peth mwyaf nodedig am ei yrfa seneddol oedd iddo lwyddo i basio deddf aelod preifat trwy’r Senedd - Deddf Goleuo Trafnidiaeth (1927). Deddf a oedd yn mynnu bod gan bob cerbyd modur golau gwyn ar ei ochr blaen a golau coch ar ei ochr ôl; rheol sy’n bodoli hyd heddiw.

Roedd yn frwd wrth gefnogi achos gwneud Caerdydd yn brifddinas Cymru.[6]

Fe’i hurddwyd yn farchog am ei wasanaeth gwleidyddol ym 1929.[7]

Gyrfa gyhoeddus amgen[golygu | golygu cod]

Gwasanaethodd fel cadeirydd ffederasiwn perchnogion llongau Môr Hafren ym 1919 ac fel cadeirydd Siambr Fasnach Caerdydd. Cynrychiolodd y siambr masnach mewn cynadleddau i siambrau masnach yr Ymerodraeth Brydeinig yn Toronto, Canada ym 1920; Yn Cape Town, De Affrica ym 1927 ac yn Wellington, Seland Newydd ym 1936. Gwasanaethodd fel aelod o’r llys ymchwil i oriau gwaith tipwyr a thrimwyr glo a sefydlwyd o dan Ddeddf Llysoedd Diwydiannol (1919).

Bu'n ynad heddwch dros Sir Forgannwg. Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Morgannwg ym 1931[8].

Marwolaeth[golygu | golygu cod]

Bu farw yn ei gartref, Dan-y-Bryn Park, Radur, yn 83 mlwydd oed.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Y Bywgraffiadur LOUGHER , Syr LEWIS ( 1871 - 1955 ), diwydiannwr a gwleidydd adalwyd 21 Awst 2017
  2. ‘LOUGHER, Sir Lewis’, Who Was Who, A & C Black, an imprint of Bloomsbury Publishing plc, 1920–2016; online edn, Oxford University Press, 2014 ; online edn, April 2014 adalwyd 21 Awst 2017
  3. Obituary: ‘’Sir L. Lougher, Cardiff Shipowner". The Times. 30 Awst 1955. tud. 11.
  4. James, Arnold J a Thomas, John E. Wales at Westminster - A History of the Parliamentry Representation of Wales 1800-1979 Gwasg Gomer 1981 ISBN 0 85088 684 8
  5. The Scotsman 01 Mehefin 1929 Socialists Gain Cardiff Central
  6. The Scotsman 04 Chwefror 1925 Capital for Wales – deputation to Home Secretary
  7. The London Gazette:26 Chwefror 1929 Atodiad:33472 tudalen:1436 adalwyd 21 Awst 2017
  8. The London Gazette 20 Mawrth 1931 Atodiad:33700 tudalen:1879 adalwyd 21 Awst 2017
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Syr Henry Webb
Aelod Seneddol Dwyrain Caerdydd
19221923
Olynydd:
William Henry Seager
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
James Childs Gould
Aelod Seneddol Caerdydd Canolog
19241929
Olynydd:
Ernest Nathaniel Bennett