Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch

Mudiad dyngarol gyda'r amcan o warchod bywyd dynol a lleihau dioddefaint yw Mudiad Rhyngwladol y Groes Goch a'r Cilgant Coch (Ffrangeg: Mouvement international de la Croix-Rouge et du Croissant-Rouge, Saesneg: International Red Cross and Red Crescent Movement), neu gan amlaf ar lafar, y Groes Goch. Mae'r mudiad yn cynnwys nifer o sefydliadau, sydd yn gyfreithiol ar wahân ond yn cydweithredu a'i gilydd. Trwy'r byd, mae gan y mudiad tua 97 miliwn o wirfoddolwyr.
Sylfaenwyd y mudiad gan ŵr busnes o'r Swistir, Henry Dunant. Ym mis Mehefin 1859, teithiodd i'r Eidal a bu'n dyst i Frwydr Solferino. Lladdwyd neu clwyfwyd tua 40,000 o filwyr yn y frwydr, a gwelodd Dunant mai ychydig iawn o ofal oedd ar gael i'r clwyfedigion. Ar 9 Chwefror 1863, sefydlodd bwyllgor yn ninas Genefa, a ddatblygodd i fod yn fudiad rhyngwladol.
Ar draws y byd
[golygu | golygu cod]Mewn gwledydd nad ydynt yn Gristnogol, neu'n swyddogol Gristnogol, ceir gwasanaethau tebyg sy'n rhan o'r un corff rhyngwladol ond yn gwasanaethu o dan symbolau nad ydynt yn Gristnogol.
Gwledydd Islamaidd
[golygu | golygu cod]Mabwysiadwyd y groes goch ar gefndir gwyn fel symbol, sef baner y Swistir gyda'r lliwiau wedi eu gwrthdroi. Yn y 1870au, dechreuwyd defnyddio'r cilgant coch fel symbol mewn gwledydd Mwslimaidd.
Israel
[golygu | golygu cod]Gwraidd y syniad o sefydlu Magen David Adom ("Seren Goch Dafydd"; Hebraeg: מגן דוד אדום, yn gryno: MDA, yngenir yn MAH-dah megis ei acronym Hebraeg, מד"א) oedd Dr. Erlanger yn Lucerne, yn y Swistir yn 1915 er mwyn cynorthwyo milwyr Iddewig yn y Rhyfel Byd Cyntaf.[1] Gyda diwedd y Rhyfel dadfeiliodd y mudiad nes ailgychwyn arni, ymddengys yn 1930 yn dilyn gwrthdrawiadau gwrth-Iddewig ym Mhalestina yn 1929. Dywedir mai nyrs, Karen Tenenbaum yn Tel Aviv bu'r prif sbardun. Tyfodd o'r un gangen wreiddiol i gorff gwirfoddol sy'n gweithredu ar draws Israel gan gynnwys i rai nad sy'n Iddewon megis Mwslimiaid, Druize a Christnogion. Mae amcanion Magen David yn cynnwys cynnal gwasanaethau cymorth cyntaf; cynnal gwasanaeth storio gwaed, plasma a'u sgil-gynhyrchion; cyfarwyddyd mewn cymorth cyntaf a meddygaeth frys cyn-ysbyty; gweithredu rhaglen wirfoddoli lle caiff gwirfoddolwyr eu hyfforddi mewn cymorth cyntaf, cymorth bywyd sylfaenol ac uwch gan gynnwys unedau gofal dwys symudol; cludo cleifion, menywod wrth esgor, a gwacáu'r rhai sydd wedi'u hanafu a'u lladd mewn damweiniau ffordd; cludo meddygon, nyrsys a heddluoedd ategol meddygol.
Bu gwrthwynebiad rhyngwladol i gydnabod Magen David Adom ond ers mis Mehefin 2006, mae'r MDA wedi cael ei gydnabod yn swyddogol gan Bwyllgor Rhyngwladol y Groes Goch (ICRC) fel cymdeithas cymorth genedlaethol gwladwriaeth Israel o dan Gonfensiynau Genefa, ac yn aelod o Ffederasiwn Rhyngwladol o Gymdeithasau'r Groes Goch a'r Cilgant Coch. Mae gan MDA rif ffôn brys meddygol penodol yn Israel, 101. Ond mae'n gweithredu yn fyd-eang.
Persia
[golygu | golygu cod]Bu hefyd Gymdeithas y Llew a'r Haul Coch yn gwasanaethu Ymerodraeth Persia (Iran) gan mae'r cilgant oedd symbol baner Ymerodraeth yr Otomaniaid prif elyn Persia a'r Groes oedd symbol Ymerodraeth Rwsia, gelyn arall Persiaid i'r gogledd. Gyda llwyddiant y Chwyldro Islamaidd yn Iran 1979 daeth y symbol Cilgant Mwslimaidd yn fwy poblogaidd a prin gwelir symbol y Llew a'r Haul Coch bellach, er bod Iran yn dal yr hawl i'w defnyddio.