Dwysiambraeth

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Deusiambriaeth)
     Gwladwriaethau â deddfwrfa deusiambr.     Gwladwriaethau â deddfwrfa unsiambr     Gwladwriaethau â deddfwrfa unsiambr ond corff cynghori hefyd.     Gwladwriaethau heb ddim deddfwrfa.

Dwysiambraeth yw'r arfer o gael dwy siambr ddeddfwriaethol fel rhan o ddeddfwrfa gwladwriaeth neu dalaith. Yn yr ystyr hwn, senedd dwysiambr [1] yw senedd neu gyngres sydd â dwy siambr: y "siambr isaf, a elwir fel arfer yn "Gynulliad Cenedlaethol", a "senedd", "siambr dirprwyon", ac ati, a "siambr uchaf", a elwir fel arfer yn senedd. Mae Iwerddon a San Steffan yn esiamplau o hyn.

Gelwir y system lle nad oes ond un siambr (fel Senedd Cymru) yn unsiambraeth.

Esblygiad[golygu | golygu cod]

Y Bundestag, siambr isaf yr Almaen sy'n cwrdd yn Berlin a chanddi 709 aelod wedi eu hethol drwy system Cynrychiolaeth gyfrannol
Bundesrat yr Almaen sydd wedi ei lleoli yn Bonn. 67 sedd i'r taleithiau gyda pheth amrywiaeth i gydnabod gwahanol maint y boblogaeth

Er y gellir olrhain gwreiddiau dwysiambraeth yn ôl i amser Gwlad Groeg Glasurol a'r Ymerodraeth Rufeinig, ymddangosodd seneddau deusiambriog eu hunain yn Ewrop yn ystod yr Oesoedd Canol, pan oedd yn gysylltiedig â chynrychiolaeth gwahanol daleithiau teyrnas.

Mae dwysiambraeth gyfoes yn dyddio nôl i'r 17g a'r 18g.[2] Gwrthododd sylfaenwyr Unol Daleithiau America unrhyw syniad o gynrychiolaeth ar wahân ar gyfer pendefigaeth gymdeithasol, ond fe wnaethant dderbyn creu Deddfwrfa dwysiambr, Cyngres yr Unol Daleithiau ("The United States Congress"). Ceir yma dau siambr:

siambr isaf - cynrychiolaeth pob talaith yn gymesur â'r boblogaeth, Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau (United States House of Representatives), 435 aelod.
siambr uchaf - lle mae pob talaith yn y tŷ uchaf Senedd yr Unol Daleithiau (Senate of the United States) yn cael ei chynrychioli’n gyfartal gydag on 100 aelod (2 i bob un o'r 50 talaith).

Ers hynny, mae gwladwriaethau ffederal wedi dewis dwysiambraeth, yn enwedig pan fydd yn angenrheidiol, yn dibynnu ar wahaniaethau rhanbarthol, bod pob rhanbarth neu diriogaeth y wlad yn cael ei gynrychioli'n ddigonol. Fodd bynnag, arhosodd yr hen gyfiawnhad dros fodolaeth siambr isaf yn y syniad o gyfle newydd i gael ail farn ar faterion deddfwriaethol.

Mae'r perthnasoedd rhwng y ddau siambr yn amrywio. Mewn rhai achosion mae ganddyn nhw bwerau cyfartal ond mewn eraill mae siambr yn amlwg yn rhagori. Yn y systemau ffederal ac arlywyddol mae cydraddoldeb y siambr yn ymddangos yn bennaf. Cyflwynir goruchafiaeth siambr yn systemau llywodraeth seneddol.

Rheswm dros Dwysiambraeth[golygu | golygu cod]

Esboniodd yr newyddiadurwr, Walter Bagehot, y ddadl dros Ddeddfwriaeth deusiambriog:

A formidable sinister interest may always obtain the complete command of a dominant assembly by some chance and for a moment, and it is therefore of great use to have a second chamber of an opposite sort, differently composed, in which that interest in all likelihood will not rule.

Cyflwynwyd nifer o resymeg o blaid dwysiambraeth.

Ffederaliaeth - Mae taleithiau ffederal wedi ei fabwysiadu yn aml, ac mae'r datrysiad yn parhau i fod yn boblogaidd pan fydd gwahaniaethau neu sensitifrwydd rhanbarthol yn gofyn am gynrychiolaeth fwy eglur, gyda'r ail siambr yn cynrychioli'r taleithiau cyfansoddol. Serch hynny, mae'r cyfiawnhad hŷn dros ail siambrau - darparu cyfleoedd ar gyfer ail feddyliau am ddeddfwriaeth - wedi goroesi. Ar gyfer gwladwriaethau sy'n ystyried trefniant cyfansoddiadol gwahanol a allai symud pŵer i grwpiau newydd, gellid mynnu deusiambriaeth gan grwpiau hegemonig ar hyn o bryd a fyddai fel arall yn atal unrhyw newid strwythurol (ee unbenaethau milwrol, pendefigion).
Cymdeithas Amrywiol a Amryiwaeth Barn Eang - Efallai bod yr ymwybyddiaeth gynyddol o gymhlethdod y syniad o gynrychiolaeth a natur aml-swyddogaethol deddfwrfeydd modern yn rhoi rhesymeg newydd ddechreuol ar gyfer ail siambrau, er bod y rhain yn gyffredinol yn parhau i fod yn sefydliadau a ymleddir mewn ffyrdd nad yw'r siambrau cyntaf. Enghraifft o ddadlau gwleidyddol ynghylch ail siambr fu'r ddadl dros bwerau 'Senate' neu ethol Sénat Ffrainc. [3]
Rhannu Grym - Mae'r berthynas rhwng y ddwy siambr yn amrywio; mewn rhai achosion, mae ganddyn nhw bwer cyfartal, ond mewn eraill, mae'n amlwg bod un siambr yn rhagori ar ei phwerau. Mae'r cyntaf yn tueddu i fod yn wir mewn systemau ffederal a'r rhai â llywodraethau arlywyddol. Mae'r olaf yn tueddu i fod yn wir mewn gwladwriaethau unedol gyda system seneddol. Mae dwy ffrwd o feddwl: Mae beirniaid yn credu bod deusiambriaeth yn ei gwneud yn anoddach cyflawni diwygiadau gwleidyddol ystyrlon ac yn cynyddu'r risg o gloi grid - yn enwedig mewn achosion lle mae gan y ddwy siambr bwerau tebyg - tra bod gwrthwynebwyr yn dadlau rhinweddau'r "checks and balancesg" a ddarperir gan y model deusiambr, y maent yn credu sy'n helpu i atal deddfwriaeth heb ei hystyried yn gyfraith.

Y gwahanol fathau o Ddwysiambraeth[golygu | golygu cod]

Cyngor Cenedlaethol y Swistir (y siambr isaf) yn cwrdd. Mae'r ddwy siambr yn Palas Ffederal yn y briffinas, Bern

Ffederaliaeth[golygu | golygu cod]

Mae rhai gwledydd, megis Awstralia, yr Ariannin, Mecsico, Unol Daleithiau America, India, Brasil a'r Almaen, yn cysylltu eu systemau dwysiambriog â'u strwythur gwleidyddol ffederal.

Felly, yn yr Unol Daleithiau, Awstralia, Brasil a Mecsico mae gan bob gwladwriaeth nifer penodol o seddi yn y siambr uchaf waeth beth yw'r boblogaeth sydd gan y dalaith honno. Gwnaethpwyd hyn i sicrhau nad yw taleithiau llai yn cael eu goddiweddyd gan rai mwy poblog. Yn y tŷ isaf mae'r seddi'n cael eu dosbarthu ar sail poblogaeth pob gwladwriaeth yn unig.

Dwysiambraeth Tirfeddiannol[golygu | golygu cod]

Mewn rhai gwledydd mae dwysiambraeth yn cynnwys cyfosod elfennau democrataidd ac aristocrataidd. Yr enghraifft fwyaf adnabyddus yw'r Deyrnas Unedig, lle mae Tŷ'r Arglwyddi yn cynrychioli olion o'r system aristocrataidd a fu unwaith yn bennaf yng ngwleidyddiaeth Prydain tra bod Tŷ'r Cyffredin yn cynnwys ASau etholedig.

Achosion eraill[golygu | golygu cod]

Sénat Ffrainc (yr ail siambr) sydd ym Mhalas Luxembourg ym Mharis

Nid yw llawer o systemau deusiambriog yn gysylltiedig â ffederaliaeth na'r uchelwyr. Yng ngwledydd De America, Japan, Ffrainc, Ynysoedd y Philipinau neu Gweriniaeth Iwerddon y system deusiambriog sy'n bodoli, er eu bod yn wladwriaethau unedol. Mewn gwledydd fel y rhain, dim ond at ddibenion goruchwylio ac, yn eithriadol, rhoi feto ar benderfyniadau'r tŷ isaf, y mae'r tŷ uchaf yn bodoli. Maent yn gyffredinol gyfartal yn wleidyddol, ac eithrio wrth baratoi'r gyllideb genedlaethol. Rhaid i'r gangen weithredol anfon y gyllideb ddrafft i'r siambr isaf, sy'n ei thrafod a'i chymeradwyo yn ei gweithdrefn gyntaf, gan ei hanfon i'r siambr uchaf i'w hadolygu a'i chymeradwyo wedi hynny.

Refferendwm Iwerddon[golygu | golygu cod]

Yn 2013 cafwyd refferendwm yng Ngweriniaeth Iwerddon ar symud oddi ar system dwysiambriog i un unsiambriog gan gael gwared ar Seanad Éireann (yr ail siambr). Pleidleisiodd y dinasyddion o blaid cadw'r system dwysiambriog.[4]

Deddfwrfeydd Dwysiambr Gwledydd Annibynnol Ewrop[golygu | golygu cod]

Noder y siambr isaf yn gyntaf ac yna'r ail siambr yn ail:

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]