David Davies, Barwn 1af Davies

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad oddi wrth David Davies, 1af Arglwydd Davies)
Neidio i: llywio, chwilio
David Davies, Barwn 1af Davies
David Davies MP.jpg
David Davies c. 1905.
Ganwyd 11 Mai 1880 Edit this on Wikidata
Llandinam Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Mehefin 1944 Edit this on Wikidata (64 oed)
Llandinam Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth gwleidydd Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig a chymwynaswr cyhoeddus oedd David Davies, Barwn 1af Davies (11 Mai 188016 Mehefin 1944). Roedd yn ŵyr i'r diwydiannwr David Davies, Llandinam. Cafodd y farwniaeth ei chreu ar ei gyfer ym 1932.

Cafodd ei eni yn Llandinam, Sir Drefaldwyn, ac yno y bu farw. Ei dad, Edward Davies, oedd unig fab David Davies, Llandinam. Daeth ei ddwy chwaer, Gwendoline a Margaret, yn adnabyddus fel noddwyr y celfyddydau.

Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Castell Merchiston a Choleg y Brenin, Caergrawnt, gan raddio ym 1903.[1]

Yn wleidyddol ac yn bersonol, bu David Davies yn dilyn yr arweiniad a osodwyd gan ei daid. Rhwng 1906 a 1929 roedd yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol dros etholaeth Sir Drefaldwyn. Ar ôl 1929 pan safodd i lawr fel AS i dderbyn sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi, parhaodd i gefnogi'r Blaid Ryddfrydol swyddogol drwy gydol y tridegau. Daeth yn Llywydd Cymdeithas Ryddfrydol Sir Drefaldwyn ond bu peth anghydfod rhyngddo â'i olynydd fel AS, Clement Davies. Ym 1931 ymunodd Clement Davies â'r Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a pharhau i gefnogi'r Llywodraeth Genedlaethol ar ôl i'r Blaid Ryddfrydol swyddogol droi'n wrthblaid ym 1933. Ym 1938, gydag etholiad cyffredinol yn debygol o ddigwydd yn y dyfodol agos, rhoddodd yr Arglwydd Davies bwysau ar Clement Davies drwy berswadio Cymdeithas Ryddfrydol Sir Drefaldwyn i geisio eglurhad gan eu haelod seneddol ar ei farn ynghylch y Llywodraeth Genedlaethol a'i pholisi o ddyhuddiad o safbwynt yr Almaen. O dan y fath bwysau penderfynodd Clement Davies ymwrthod â chwip y Rhyddfrydwyr Cenedlaethol a gwrthwynebu dyhuddiad.[2]

Roedd yn gefnogwr brwd o waith Cynghrair y Cenhedloedd. Ym 1932 sefydlodd Gymdeithas y Gymanwlad Newydd er mwyn 'hyrwyddo cyfraith a threfn ryngwladol', gan ysgrifennu nifer o lyfrau ar y defnydd cywir o rym; y mwyaf nodedig oedd The Problem of the Twentieth Century (1930), a gafodd ei gyfieithu i'r Almaeneg a nifer o ieithoedd eraill. Cafodd ei syniadau effaith ar gynnwys Siarter y Cenhedloedd Unedig, yn enwedig mewn perthynas â sancsiynau a'r newid o fyddinoedd cenedlaethol i heddlu rhyngwladol. Ef oedd noddwr Cadair Prifysgol gyntaf y byd mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol, a sefydlwyd ym 1919 i anrhydeddu Woodrow Wilson, a hynny yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth,[3] sydd hefyd bellach yn gartref i Sefydliad Coffa David Davies mewn Astudiaethau Rhyngwladol.

Mae ei archif, sydd yn cynnwys cofnodion Gymdeithas y Gymanwlad Newydd a Chymdeithas Coffa Brenin Edward VII Cenedlaethol Cymru, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae'r archif yn cynnwys cofiant iddo sydd wedi cael ei ddigido.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. A Cambridge Alumni Database. University of Cambridge.[1] adalwyd 19 Ebrill 2015
  2. Dutton, David (2008). Liberals in Schism: A History of the National Liberal Party. London: Tauris. ISBN 1845116674. 
  3. Gweledigaeth Un Gŵr- a'r stori wedyn Gwefan Prifysgol Aberystwyth [2] adalwyd 19 Ebrill 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Arthur Humphreys-Owen
Aelod Seneddol Maldwyn
19061929
Olynydd:
Clement Davies


Society.svg Eginyn erthygl sydd uchod am wleidyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.