Arthur Humphreys-Owen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Arthur Humphreys-Owen
Humphrey-Owen.jpeg
Ganwyd 9 Tachwedd 1836 Edit this on Wikidata
Bu farw 9 Rhagfyr 1905 Edit this on Wikidata (69 oed)
Dinasyddiaeth Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaeth Bargyfreithiwr, Cyfreithiwr, Gwleidydd Edit this on Wikidata
Swydd Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddol Plaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Arthur Charles Humphreys-Owen (9 Tachwedd 18369 Rhagfyr 1905) yn fargyfreithiwr, tirfeddiannwr a gwleidydd Rhyddfrydol Cymreig[1]

Bywyd Personol[golygu | golygu cod y dudalen]

Ganwyd Arthur Charles Humphreys ym 1836 yn fab i Erskine Humphreys, bargyfreithiwr ac Eliza, merch Dr Edward Johnes MD, Garthmyl, ei wraig. Ym 1876 etifeddodd ystâd Glanhafren gan ei hen hen fodryb Ann Warburton Owen, a newidiodd ei enw i Humphreys-Owen. Roedd ystâd Glanhafren yn cynnwys tua 8,000 erw o dir ym mhlwyfi Aberriw, Castell Caereinion, a Llangurig.

Cafodd ei addysg yn Ysgol Harrow a Choleg y Drindod, Caergrawnt lle graddiodd BA ac MA.

Ym 1874 priododd Maria, merch James Russell QC, bu iddynt un mab a thair merch.

Gyrfa[golygu | golygu cod y dudalen]

Cafodd ei alw i'r Bar yn Lincoln's Inn ym 1864 gan weithio wedyn fel Bargyfreithiwr yn y Llys Siawnsri.

Fe fu yn gyfarwyddwr cwmni rheilffordd y Cambrian ac fe fu yn gadeirydd y cwmni hwnnw a chwmni rheilffordd Canolbarth Cymru[2]

Gwasanaethodd fel is-gadeirydd Llysoedd Chwarter Sir Drefaldwyn

Gyrfa Wleidyddol[golygu | golygu cod y dudalen]

Pan ffurfiwyd cynghorau sir Cymru ym 1888 cafodd Humphreys Owen ei hethol fel Cadeirydd Cyngor Sir Drefaldwyn. Arhosodd yn y gadair hyd ei farwolaeth ym 1905.

Pan gafodd Stuart Rendel ei ddyrchafu i Dŷ'r Arglwyddi ym 1894 dewiswyd Humphreys-Owen i fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol i sefyll yn yr is etholiad i ethol olynydd iddo; llwyddodd i gadw'r sedd i'r Rhyddfrydwyr ac i gadw'r sedd hyd ei farwolaeth.

Bywyd cyhoeddus[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd gan Humphreys-Owen diddordeb mawr mewn addysg. Yn y 1860au fe fu yn ymgyrchu i ddiddymu profion a oedd yn eithrio Anghydffurfwyr rhag cael mynediad i Brifysgolion Rhydychen a Chaergrawnt gan nad oeddynt yn cefnogi erthyglau Eglwys Lloegr.

Fe fu yn aelod o Fwrdd Canolog Cymru, y corff oedd yn arolygu darpariaeth addysg ganolradd yng Nghymru.

Roedd yn aelod o Gyngor Colegau Prifysgol Aberystwyth a Bangor ac yn aelod o Lys Prifysgol Cymru.

Fe fu yn dirpwy Arglwydd Raglaw Sir Drefaldwyn[3]

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu farw yn ei gartref Glanhafren ym 1905 a chafodd ei gladdu ym Mynwent Eglwys Trefaldwyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. HUMPHREYS-OWEN, ARTHUR CHARLES yn y Bywgraffiadur arlein [1] adalwyd 9 Chwefror 2015
  2. DEATH OF MR HUMPHREYS-OWEN, M.P. yn Welsh Coast Pioneer, 15 Rhagfyr 1905 [2] adalwyd 9 Chwefror 2015
  3. Death of Mr Humphreys-Owen MP yn Cambrian News and Merionethshire Standard, 15 Rhagfyr 1905 [3] adalwyd 9 Chwefror 2015
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Stuart Rendel
Aelod Seneddol Maldwyn
18941905
Olynydd:
David Davies