Clybiau Bechgyn a Merched Cymru

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (Boys' and Girls' Clubs of Wales - arddelir yr enw Saesneg fel rheol) yn fudiad ieuenctid cenedlaethol sy'n cynnig cymorth i bobl ifanc yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru. Sefydlwyd y mudiad yn 1922 a'i ffurfio'n swyddogol yn 1928 yng nghymoedd glofaol Morgannwg a Gwent. Agorwyd y clybiau ieuenctid cyntaf yn gynnar yn y 1920au ac roeddent â chysylltiadau agos â glowyr Cymru a wnaeth gyfraniad sylweddol i'w ddatblygiad trwy daliadau wythnosol rheolaidd.[1] Mae pencadlys y mudiad yng Nghaedydd. Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn elusen gofrestredig (1009142) ac yn aelod-sefydliad Cyngor Cymru o Wasanaethau Ieuenctid Gwirfoddol (CWVYS) sy'n ein galluogi i ddylanwadu ar y polisi cyfredol. Prif bwrpas y sefydliad, fel y nodir yn y cyfansoddiad yw “cynorthwyo yn y broses o ddatblygiad moesol, diwylliannol, meddyliol a chorfforol pobl ifanc, er mwyn sicrhau trosglwyddiad esmwyth i oedolaeth a'i gyfrifoldebau."

Cennad[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae Clybiau Bechgyn a Merched Cymru yn darparu gwaith ieuenctid drwy 170 o glybiau ac yn ymgymryd â phrosiectau mewn cydweithrediad â gwahanol bartneriaid.

Mae chwaraeon wedi bod yn rhan bwysig o Glybiau Bechgyn a Merched Cymru ers dros 80 mlynedd ac mae'r clybiau yn ei ddefnyddio fel ffordd o ddatblygu pobl ifanc i'w helpu i ennill profiadau newydd, hunanhyder, cymhelliant a sgiliau cyfathrebu. Mae aelodau'n cymryd rhan mewn nifer o wahanol chwaraeon, mewn cystadleuaethau a twrnameintiau rhyngwladol.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

David Davies, y Barwn 1af Davies, tua 1905

Sefydlwyd y sefydliad gan y Capten John Glynn-Jones ('Capten Glynn') a David Davies, Barwn 1af Davies, ŵyr y diwydiannwr enwog, David Davies, Llandinam. Diddorol yw nodi i'r sefydliad gychwyn yn yr un flwyddyn â sefydlu Urdd Gobaith Cymru er nad oes cysylltiad uniongyrchol.

Bu Capten Glynn sy'n gweithio fel swyddog lles yn yr Ocean Group, sef, grŵp Glofeydd Davies oedd â phyllau glo ledled de Cymru. Wrth ystyried y problemau a wynebai “meibion y cloier” dechreuodd ddatblygu'r syniad o glwb lle gallai'r bechgyn fwynhau ymarfer corff iach, gweithgareddau diwylliannol, disgyblaeth a datblygu cyfrifoldeb i'w cymuned eu hunain.

Agorwyd y Clwb Bechgyn cyntaf yn swyddogol yn Nhreharris yn 1923 gyda Clybiau Bechgyn eraill ledled Cymoedd y De a chynhaliwyd y cyfarfod cyffredinol blynyddol cyntaf ym mis Mai yng Nghaerdydd lle cytunwyd ar gynlluniau ar gyfer y 12 mis nesaf.

Roedd grŵp o fechgyn o Ardal Coalfield Ocean yn cymryd rhan mewn gwersyll a drefnwyd gan HRH The Duke of York bob blwyddyn. Creodd yr ymweliad hwn y syniad o wersyll tebyg yn ne Cymru.

Ar ôl cyfnod arbrofol o bythefnos yn 1925, yng Ngwersyll Sain Tathan, agorwyd y gwersyll i aelodau o bob Clwb Bechgyn. Yr enw swyddogol oedd “Gwersyll Glan y Môr Pwyllgor Cronfa Les y Glowyr” oherwydd rhoddion o gronfa lles y plant dan oed. Roedd Capten Glynn yn gobeithio gorfodi'r undod rhwng y gwahanol glybiau gyda chymorth y gwersyll. (Gwerthwyd safle'r gwersyll, oedd wedi mynd yn adfail, i gwmni datblygu tir a thai yn hydref 2012.[2])

Ym mis Gorffennaf 1928 cynheliwyd y gynhadledd flynyddol gyntaf gydag arweinwyr clybiau, aelodau'r pwyllgor rheoli ac ysgrifenyddion y chwe chlwb bechgyn cyntaf ym Mhentref Sain Tathan. Ddeufis yn ddiweddarach, bu i'r clybiau presennol uno fel Ffederasiwn Clybiau Bechgyn De Cymru ('The South Wales Federation of Boys’ Clubs').

Yn 1947 ymestynodd Ffederasiwn De Cymru i ddod yn Cymdeithas Clybiau Bechgyn Cymru (The Welsh Association of Boys’ Clubs). Wedi cryfhau amodau aelodaeth, lleihaodd nifer y clybiau cysylltiedig i 107, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u lleoli yn yr ardaloedd Glofaol.

Yn 1958 agorwyd Canolfan Antur Abercraf (Abercrave Adventure Centre), ail wersyll bechgyn ac yn 1960 newidiwyd enw'r sefydliad i ''Clybiau Bechgyn Cymru (The Boys’ Clubs of Wales).

Tranc ac Ail-enedigaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn 1990 oherwydd anawsterau ariannol eithafol bu'n rhaid i Glybiau Bechgyn Cymru roi'r gorau i weithredu.

Yn 1991 bu i'r sefydliad ganiatáu merched yn swyddogol o fewn y clybiau (er bod merched wedi bod yn dod i'r clybiau cyn hynny) ac ailddechreuwyd ar weithrgareddau'r mydiad. Yn 1996 dechreuodd y sefydliad ymledu i'r gogledd gyda chynllun i ehangu clybiau ac agorwyd swyddfa yno yn 1999.

Yn 1998 newidiodd y sefydliad ei henw eto i Clybiau Bechgyn a Merched Cymru (The Boys' and Girls' Clubs of Wales). Yn 2006 newidiwyd yr enw unwaith eto i Clubs for Young People Wales, ond wedi peth amser, dychwelwyd at yr enw flaenorol, sef, Clybiau Bechgyn a Merched Cymru.[3]

Heddiw mae dros 170 o glybiau ieuenctid a chwaraeon o bob cwr o Gymru yn aelodau o'r sefydliad, gyda dros 30,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau a 3,500 o wirfoddolwyr.

Chwareon[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae chwaraeon wedi chwarae rhan bwysig yng ngweithgaredd y Clybiau.

Yn 1956 bu i dîm pêl-droed Clybiau Bechgyn Cymru chwarae gêm ryngwladol yn erbyn yr Almaen, yn Abertawe. Yn 1974 cystadlodd tîm Clybiau Cymru mewn cystadleuaeth pêl-fasged yng Ngwlad Pwyl.

Mae'r gymdeithas yn cynnal gweithgareddau megis taith canŵio 100 milltir.

Ceir hefyd gwyliau cyfnewid megis gyda clybiau o'r Almaen.[4] lle ceir perthynas arbennig gyda chlybiau yn ardal Stuttgart.[5]

Cyn-aelodau[golygu | golygu cod y dudalen]

John Hartson, bu'n cynrychioli Cymru gyda'r Clybiau

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.bgc.wales/about-us
  2. https://www.walesonline.co.uk/news/wales-news/site-former-boys-village-earmarked-2022896
  3. Edwards, Dave (21 February 2013). "Boys and Girls Clubs of Wales chief says movement will keep its identity despite buildings opening to other organisations".
  4. https://www.bgc.wales/youth-exchanges
  5. https://www.bgc.wales/a-guide-to-bgc-wales
  6. 6.0 6.1 6.2 Clubs for Young People Wales (2009). "Timeline 28–08: A history of the Boy's Club Movement in Wales" (PDF).