Cynhadledd Tehran
Enghraifft o'r canlynol | cynhadledd, uwchgynhadledd |
---|---|
Label brodorol | Tehran Conference |
Gwlad | UDA Undeb Sofietaidd Prydain Fawr |
Dechreuwyd | 28 Tachwedd 1943 |
Daeth i ben | 1 Rhagfyr 1943 |
Rhagflaenwyd gan | Cynhadledd Cairo (1943) |
Olynwyd gan | Cynhadledd Yalta |
Lleoliad | Tehran, Embassy of Russia in Iran |
Enw brodorol | Tehran Conference |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfarfod rhwng Joseph Stalin, Franklin Roosevelt a Winston Churchill oedd Cynhadledd Tehran a gynhaliwyd yn Llysgenhadaeth Sofietaidd Tehran, prifddinas Iran, rhwng 28 Tachwedd a 1 Rhagfyr 1943 ar adeg dyngedfennol o'r Ail Ryfel Byd wrth i'r rhod ddechrau troi yn erbyn yr Almaen.
Hon oedd y gynhadledd ryfel gyntaf i Stalin ei mynychu. Pwrpas y trafodaethau yn y gynhadledd hon oedd pennu strategaeth y Cynghreiriaid yn erbyn yr Almaen Natsïaidd. Roedd y drafodaeth am agor ail ffrynt yng Ngorllewin Ewrop yn ganolog i hyn. Er mwyn cadw cymorth Stalin, aberthodd pwerau'r Gorllewin wladwriaethau dwyrain Ewrop. Nodwyd y gynhadledd mewn dogfennau gyda'r codename "Eureka".
Prif Ddeilliannau'r Gynhadledd
[golygu | golygu cod]Lluniwyd cynlluniau milwrol a gwleidyddol. Y casgliadau yng nghynhadledd Tehran oedd:
- Daethpwyd i gytundeb y dylai'r Partisaniaid Iwgoslafaidd gael eu cefnogi gyda nwyddau, offer a gweithredoedd comando milwrol. Cyhoeddodd Churchill i Stalin ei fwriad i gefnogi'r Partisaniaid comiwnyddol o dan Tito yn Iwgoslafia yn hytrach na’r grŵp asgell dde, y Chetniks, oedd yn ufudd i lywodraeth alltud cydnabyddiedig Iwgoslafia yn Llundain, dan gyfarwyddyd Draža Mihailović. Gwnaeth Churchill y penderfyniad hwn ar sail adroddiadau a ddaeth i'r casgliad bod y Partisaniaid wedi achosi llawer mwy o ddifrod i'r Almaenwyr na'r Chetniks (gan gynnwys niwed i'r gwahanol grwpiau eraill, yn Bosnia-Herzegovina, Croatia a Dalmatia) oedd yn ymladd gyda'r Almaenwyr.[1][2] Doedd Churchil heb amau bod yr adroddiadau hyn wedi gorliwio nifer y grwpiau gwrthwynebol i raddau helaeth ac wedi lleihau grymoedd a llwyddiant Mihailović, diolch i ddylanwad "Five of Cambridge", grŵp o asiantau cudd-wybodaeth SIS Prydain oedd yn gweithio mewn gwirionedd i heddlu cudd y Sofietiaid, yr NKVD.[3]
- Ystyriwyd ei bod yn ddymunol i Dwrci ymuno â'r ar ochr y Cynghreiriaid cyn diwedd 1943.
- Pe bai Twrci yn datgan rhyfel ar yr Almaen Natsïaidd, byddai'r Undeb Sofietaidd yn cefnogi'r wlad.
- Derbyniodd Brydain a'r Unol Daleithiau fwriad yr Undeb Sofietaidd i goncro ac amlyncu gwledydd y Baltig - Estonia, Latfia, a Lithwania a Bessarabia oedd yn rhan o Rwmania.
- Mynnodd Stalin sefydlu cymal gyfrinachol ar ffiniau newydd ar ôl y rhyfel newydd ar gyfer Gwlad Pwyl, hynny yw, ar hyd Llinell Oder-Neisse a llinell Curzon. I'r Almaen, byddai hyn yn golygu colli Dwyrain Prwsia, Pomerania gyda Stettin a Silesia a hefyd Dinas Rydd Danzig. Dim ond yng Nghynhadledd Yalta y byddai'r mater yn cael ei gadarnhau'n gyhoeddus.
- Byddai Rwsia yn datgan rhyfel ar Siapan ar ôl y rhyfel yn Ewrop. Datganodd ei bwriad i feddiannu ynysoedd Sakhalin ac Ynysoedd Kuril oddi ar Siapan.
- Addawodd arweinwyr milwrol y tri phwer y byddent mewn cysylltiad agos â'i gilydd o hyn ymlaen.[4]
- Roedd Roosevelt a Stalin eisiau rhannu'r Almaen yn nifer o daleithiau bychain. Galwodd Churchill am "Ffederasiwn De Almaenig y Donaw" i fod ar wahân i Prwsia. Gohiriwyd setliad olaf problem yr Almaen.
- Addawyd i Iran, a feddiannwyd wedyn gan y Prydeinwyr a'r Sofietiaid, y byddai'r lluoedd meddiannol yn gadael ar ôl y rhyfel. Addawodd y Prydeinwyr hefyd aildrafod y cytundeb olew.
- Addawodd Prydain a'r Unol Daleithiau anfon milwyr i Orllewin Ewrop yng ngwanwyn 1944. Yn benodol, trafodwyd - ar 30 Tachwedd - y byddai "Operation Overlord" yn cael ei lansio ym mis Mai 1944, ynghyd â ymgyrch filwrol yn erbyn Ffrainc Vichy. Byddai hyn yn tynnu peth o'r pwysau oddi ar luoedd yr Undeb Sofietaidd yn y Dwyrain, rhywbeth oedd yn hynod o bwysig i Stalin, yn naturiol.[5]
Ysgrifennodd Andrei Gromyko, llysgennad yr Undeb Sofietaidd i'r Unol Daleithiau rhwng 1943 a 1948, tyst yng Nghynhadledd Tehran, y canlynol yn ei gofiannau ym 1988:
Yn Tehran, anogodd Stalin yn gryf y Cynghreiriaid i agor ail ffrynt yng Ngorllewin Ewrop cyn gynted â phosibl. Ceisiodd dro ar ôl tro gael Churchill i ymrwymo i ddyddiad ar gyfer glanio milwyr y Cynghreiriaid yn Ewrop, ond yn ofer. Ar un adeg, yn methu â rheoli ei hun, cododd o’i gadair a dywedodd wrth Voroshilov a Molotov: “Mae gennym lawer i’w wneud gartref i fod yn gwastraffu amser fan hyn. Felly nid ydym yn mynd i unman. Yn aflonyddu ac yn amlwg yn ofni y gallai'r gynhadledd fethu, dywedodd Churchill yn frysiog, "Mae'r Marshal wedi fy nghamddeall. Gallaf roi union ddyddiad: Mai 1944.»
—Andréi Gromyko, Memorias (1988) p. 102[6]
O ran cynghreiriau a chysylltiadau rhyngwladol, trafodwyd Iran a Thwrci. Cytunodd Roosevelt, Churchill a Stalin i gefnogi llywodraeth Iran, fel y nodir yn y datganiad a ganlyn:
Mae'r tair llywodraeth wedi sylweddoli bod y rhyfel wedi achosi anawsterau economaidd arbennig i Iran, a'n bod ni i gyd yn cytuno y dylai cymorth fel cymorth economaidd barhau i fod ar gael i Lywodraeth Iran, gan ystyried y galwadau mawr a wneir gan weithrediadau milwrol ledled y byd, yn ogystal â phrinder cludiant, deunyddiau crai, a chyflenwadau i'w bwyta gan sifiliaid ledled y byd.
Ar ddiwedd y gynhadledd, Stalin oedd yr unig un i wneud ymddangosiad gyda Mohammad Shah, ymerawdwr ifanc Iran, a oedd wedi cael ei sarhau gan y Prydeinwyr a'r America.
Y duedd filwrol
[golygu | golygu cod]Roedd y gynhadledd yn cyd-daro, er gwaethaf tuedd gyffredinol y Rhyfel yn amlwg o blaid y Cynghreiriaid, gyda'r Tri Phŵer yn cael eu trechu mewn brwydrau lleol: ar y ffrynt ddwyreiniol yn Iwcrain roedd gwrth-gyrch "Žitomir" yr Almaen ar ei hanterth a oedd yn bygwth arwain at yr ailgipio Kiyv, oedd ond newydd ei rhyddhau gan y Fyddin Goch ar 6 Tachwedd; ar ffrynt yr Eidal roedd y byddinoedd Eingl-Americanaidd wedi cael eu rhwystro’n llwyr gan amddiffyniad medrus yr Almaen a baratowyd ar "Linell Gustav", ac yn ynysoedd y Dodecanese roedd y Prydeinwyr wedi dioddef cyfres o orchfygiadau ac wedi colli’r holl ynysoedd pwysicaf.[7]
Cynadleddau Pwysig Eraill
[golygu | golygu cod]- Cytundeb Heddwch Paris, 29 Gorffennaf - 15 Hydref 1946
- Cynhadledd Potsdam, 17 Gorffennaf - 2 Awst 1945
- Cynhadledd Yalta, 4 - 11 Chwefror 1945
- Cynhadledd Quebec (1944), 12 - 16 Medi 1944
- Cynhadledd Tehran, 28 Tachwedd - 1 Rhagfyr 1943
- Cynhadledd Cairo (1943), 22 - 26 Tachwedd 1943
- Cynhadledd Quebec (1943), 17-24 Awst 1943
- Cynhadledd Casablanca, 14 - 24 Ionawr 1943
Dolenni
[golygu | golygu cod]- 'The Big Three In Tehran' ffilm Pathe Gazette
- 'Tehran Conference' ffilm British Movietone
- 'Cold War: Tehran, Yalta, and Potsdam Conferences', ffilm fer syml ar brif bwyntiau Cynhadledd Tehran, Yalta a Potsdam
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Branko Miljuš (1982). La révolution yougoslave. L'Âge d'homme. tt. 119–133. Unknown parameter
|chapter title=
ignored (help) - ↑ Dusan-T Batakovic (2005). Histoire du peuple serbe. L'Âge d'homme. Text "pages337" ignored (help)
- ↑ Christopher Andrew et Oleg Gordievsky, (Saesneg) Le KGB dans le monde, 1917-1990, Fayard 1990, ISBN 2213026009 et Christopher Andrew, (Saesneg) Le KGB contre l'Ouest (1917-1991) : les archives Mitrokhine, Fayard, 2000, 982 p.
- ↑ Winston Churchill, The second world war, Volume X, capitolo 2°, pp. 60-69
- ↑ Winston Churchill, The second world war, Volume X, capitolo 2°, pp. 35-41
- ↑ Gromyko 1989, t. 102.
- ↑ R.Cartier, La seconda guerra mondiale, pp. 218-219.