Coch dan adain
Coch dan adain Turdus iliacus
|
|||
---|---|---|---|
Statws cadwraeth | |||
Dosbarthiad gwyddonol | |||
Teyrnas: | Animalia | ||
Ffylwm: | Chordata | ||
Dosbarth: | |||
Urdd: | Passeriformes | ||
Teulu: | Turdidae | ||
Genws: | Turdus[*] | ||
Rhywogaeth: | Turdus iliacus | ||
Enw deuenwol | |||
Turdus iliacus |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Coch dan adain (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: cochion dan adain) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus iliacus; yr enw Saesneg arno yw Redwing. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. iliacus, sef enw'r rhywogaeth.[2]
Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru yn y gaeaf, ond nid ymddengys fod cofnod iddo nythu yma, er fod nifer fychan o barau yn nythu yn Yr Alban ar brydiau. Mae'r Coch Dan-aden yn aderyn mudol, sy'n symud tua'r de a thua'r gorllewin yn y gaeaf. Maent yn nythu mewn fforestydd, ond yn adeiladu'r nyth mewn llwyni neu ar lawr.
Mae'n nythu trwy rannau gogleddol Ewrop ac Asia ac yn aderyn cyfarwydd ymhellach i'r de yn y gaeaf.
Gellir ei adnabod o'r cefn brown a bol wyn gyda rhesi neu smotiau tywyll, y lliw coch ar yr ochrau ac o dan yr adenydd a'r llinell wen amlwg uwchben y llygad. Mae tua'r un faint a Bronfraith. Ei brif fwyd yw pryfed yn yr haf ac aeron yn y gaeaf. Yn y gaeaf mae'n aml yn ymgasglu'n heidiau mawr, weithiau yn gymysg gyda'r Socan Eira.
Teulu[golygu | golygu cod y dudalen]
Mae'r coch dan adain yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
---|---|---|
Brych crafog | Psophocichla litsitsirupa | |
Brych daear Abysinia | Geokichla piaggiae | |
Brych daear adeinfannog | Geokichla spiloptera | |
Brych daear cefnllwyd | Geokichla schistacea | |
Brych daear Crossley | Geokichla crossleyi | |
Brych daear mannog | Geokichla guttata | |
Brych daear Molwcaidd | Geokichla dumasi | |
Brych daear Oberlaender | Geokichla oberlaenderi | |
Brych daear Siberia | Geokichla sibirica | |
Brych daear ystlysoren | Geokichla peronii | |
Geokichla cinerea | Geokichla cinerea | |
Geokichla dohertyi | Geokichla dohertyi | |
Geokichla erythronota | Geokichla erythronota | |
Geokichla interpres | Geokichla interpres |
Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.