Brych coed
| Brych coed Turdus viscivorus | |
|---|---|
| Statws cadwraeth | |
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Passeriformes |
| Teulu: | Turdidae |
| Genws: | Turdus[*] |
| Rhywogaeth: | Turdus viscivorus |
| Enw deuenwol | |
| Turdus viscivorus
| |
| Dosbarthiad y rhywogaeth | |
Aderyn a rhywogaeth o adar yw Brych coed (sy'n enw gwrywaidd; enw lluosog: brychion coed) a adnabyddir hefyd gyda'i enw gwyddonol Turdus viscivorus; yr enw Saesneg arno yw Mistle thrush. Mae'n perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae) sydd yn urdd y Passeriformes.[1] Dyma aderyn sydd i'w gael yng ngwledydd Prydain ac mae i'w ganfod yng Nghymru.
Talfyrir yr enw Lladin yn aml yn T. viscivorus, sef enw'r rhywogaeth.[2] Mae'r rhywogaeth hon i'w chanfod yn Asia ac Ewrop.
Mae Brych y Coed yn edrych yn debyg iawn i'r Fronfraith ar yr olwg gyntaf, ond mae yn aderyn mwy na'r Fronfraith ac yn edrych yn fwy llwyd ar y pen a'r cefn a llai o liw browngoch ar y fron. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar sy'n nythu yn y gogledd yn symud tua'r de yn y gaeaf. Yn y gaeaf maent weithiau yn dod at ei gilydd yn heidiau ond anaml y gwelir mwy na rhyw 30 gyda'i gilydd. Maent yn nythu mewn coed fel rheol.
Pryfed ac aeron yw eu prif fwyd. Yn y gaeaf maent yn aml yn amddiffyn coeden sy'n llawn o aeron, gan ymlid unrhyw aderyn arall sy'n ceisio eu bwyta. Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru er ei fod yn llai adnabyddus na'r Fronfraith.

Teulu
[golygu | golygu cod]Mae'r brych coed yn perthyn i deulu'r Brychion (Lladin: Turdidae). Dyma rai o aelodau eraill y teulu:
Rhestr Wicidata:
| rhywogaeth | enw tacson | delwedd |
|---|---|---|
| Brych daear Awstralia | Zoothera lunulata | |
| Brych daear Everett | Zoothera everetti | |
| Brych daear Swnda | Zoothera andromedae | |
| Brych hirbig bach | Zoothera marginata | |
| Brych mynydd cynffonhir | Zoothera dixoni | |
| Mwyalch Adeinlwyd | Turdus boulboul | |
| Mwyalchen y mynydd | Turdus torquatus | |
| Zoothera aurea | Zoothera aurea |
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ [https://web.archive.org/web/20040610130433/http://www.cymdeithasedwardllwyd.org.uk/ Archifwyd 2004-06-10 yn y Peiriant Wayback Gwefan Cymdeithas Edward Llwyd]; adalwyd 30 Medi 2016.
- ↑ Gwefan Avibase; adalwyd 3 Hydref 2016.







