Christoph Schlingensief
| Christoph Schlingensief | |
|---|---|
Schlingensief, Hydref 2009 | |
| Ganwyd | 24 Hydref 1960 Oberhausen, Gorllewin yr Almaen |
| Bu farw | 21 Awst 2010 (49 oed) Berlin, Yr Almaen |
Cyfarwyddwr theatr, artist perfformio a gwneuthurwr ffilmiau o'r Almaen oedd Christoph Maria Schlingensief (24 Hydref 1960 – 21 Awst 2010)[1][2] .
Roedd Schlingensief yn ffigwr pryfoclyd meddylgar gan greu nifer o ddarnau theatr a ffilmiau dadleuol.
Yn dechrau fel gwneuthurwr ffilmiau tanddaearol annibynnol, llwyfannodd Schlingensief gynyrchiadau ar gyfer theatrau a gwyliau yn ddiweddarach, yn aml gyda dadleuon cyhoeddus.
Yn y blynyddoedd olaf cyn ei farwolaeth, llwyfannodd Parsifal Wagner yng Ngŵyl Bayreuth a gweithiodd mewn sawl tŷ opera.
Mae gwaith Schlingensief wedi’u cymharu gyda nifer eang o wneuthurwyr ffilm, o Jean-Luc Godard, Derek Jarman a Luis Buñuel i Russ Meyer. Ymhlith ei ddylanwadau roedd Joseph Beuys a'i syniad o gerflunio cymdeithasol, a'r artistiaid Allan Kaprow a Dieter Roth.
Bywyd cynnar ac addysg
[golygu | golygu cod]Ganwyd Schlingensief yn 1960 yn Oberhausen. Roedd ei dad yn fferyllydd a'i fam yn nyrs . Yn blentyn, cymrodd rhan mewn gwasanaethau eglwys fel bachgen allor ac eisoes yn gwneud ffilmiau byr gyda chamera llaw a threfnu digwyddiadau celf yn seler tŷ ei rieni.
Methodd ddwywaith â chael mynediad i Brifysgol Teledu a Ffilm Munich. O 1981 ymlaen dechreuodd astudio iaith a llenyddiaeth Almaeneg, athroniaeth a hanes celf ym Mhrifysgol Munich, cyn rhoi'r gorau iddi ym 1983 i weithio fel cynorthwyydd i'r gwneuthurwr ffilmiau arbrofol Werner Nekes .[3] Ar ôl gweithio fel athro yng ngholegau celf yn Offenbach am Main a Düsseldorf, daeth yn rheolwr cynhyrchu ar gyfres deledu boblogaidd.[4]
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ffilm a theledu
[golygu | golygu cod]
Cafodd ffilm gyntaf Schlingensief, y swreal, abswrd arbrofol Tunguska – Die Kisten sind da! (1984) dderbyniad da gan feirniaid.
Dylanwadwyd yn ddwfn ar Schlingensief gan ffilmau Almaeneg y 60au a 70au fel Rainer Werner Fassbinder. Daeth llawer o aelodau o’i gwmni stoc o actorion fel Udo Kier, Margit Carstensen, Irm Hermann neu Volker Spengler yn selogion yn ffilmiau Schlingensief.
Cydweithoidd gyda'r awdur, athronydd, academydd a chyfarwyddwr ffilm Alexander Kluge.
Daeth Schlingensief i'r amlwg gyda’i “Drioleg yr Almaen” sy'n delio gyda thri throbwynt yn hanes yr Almaen yn yr 20fed ganrif: mae'r ffilm gyntaf Hundert Jahre Adolf Hitler ("Can Mlynedd o Adolf Hitler", 1989) am oriau olaf Adolf Hitler, yr ail The German Chainsaw Massacre (1990), am grŵp o ddwyrain yr Almaen sy’n croesi’r ffin i ymweld â Gorllewin yr Almaen ac yn cael eu lladd gan deulu seicopathig o Orllewin yr Almaen gyda llifiau cadwyn, ac mae trydydd Terror 2000 (1992) yn canolbwyntio ar drais senoffobig ar ôl ailuno'r wlad.
Un o weithiau mwyaf profoclyd oedd y gyfres teledu Please Love Austria (teitau eraill: Foreigners out! Schlingensiefs Container ). Darlledwyd o contianer lori ar sgwâr yn nghanol dinas Fienna. Daeth y gyfres yn fuan ar ôl llwyddiant Jörg Haider a'i blaid asgell-dde yn etholiad Awstria gan sefyll ar blatffom o bolisiau yn erbyn tramorwyr a mewnfudwyr. Gan gopio steil y gyfres hynod o boblogiadd Big Brother, roedd y gwylwyr yn gallu gwylio bywydau dwsin neu fwy o geiswyr lloches go iawn tu mewn y contianer a phleidleisio ar ba un oedd i'w daflu o'r wlad nesaf.
Daeth Schlingensief yn ffigwr o gryn enwogrwydd a drwg-enwog yn yr Almaen, diolch i nifer o brosiectau teledu poblogaidd. Wedi'i darlledu yn 1997, roedd Talk 2000 yn sioe siarad gyda gwesteion enwog gyda Schlingensief weithiau'n torri ar draws cyfweliadau i drafod ei broblemau personol ei hun.[5]
Yn U3000 (2000) ffilmwyd cyfweliadau ‘sioe siarad’ anhrefnus mewn trên U-Bahn Berlin.
Yn Freakstars 3000 (2003), parodi chwe rhan ar ffurf American Idol, gyda dau ddwsin o bobl o gartref byw â chymorth i bobl ag anabledd meddwl yn cystadlu.[5]
Celf
[golygu | golygu cod]Ym 1997, cynhaliodd Schlingesief weithred gelf yn arddangosfa documenta X yn Kassel.Yn ystod y perfformiad, arestiwyd Schlingensief am gario placard gyda'r geiriau "Lladd Helmut Kohl !" .
Yn 2006 gwrthodwyd ei arddangosfa The Last Hour, gyda'i waith metel troellog o ddamwaih gar, lluniau o dwnnel hir a lluniau paparazzi o'r Dywysoges Diana, gan Ffair Gelf Frieze yn Regent's Park yn Llundain ac roedd rhiad arddangos mewn oriel anhysbys yn Bethnal Green.[6] Yn ddiweddarach ymunodd ag oriel Hauser & Wirth . Yn 2007, cynhaliodd arddangosfa o waith Schlingensief ym Munich; cyflwynodd African Twin Towers a ffilmiau byrion sydd wedi’u saethu tra yn cyfarwyddo The Flying Dutchman yn y Teatro Amazonas ym Manaus, Brasil.[7]
Theatr
[golygu | golygu cod]
Yn y 1990au, cyfarwyddodd Schlingensief gyfres o gynyrchiadau anhrefnus, dychanol yn theatr Volksbühne yn Berlin.
Cyfarwyddodd hefyd fersiwn o Hamlet, gydag is-deitl, This is your Family, Nazi~Line, gyda chyn-aelodau o grwpiau Neo Natsïaidd ac yna eu castio fel actorion i chwarae cymeriadau yn y ddrama ar y llwyfan fel ffordd o ailintegreiddio'r cyn-aelodau. Neo-Natsïaid gyda gweithlu cyffredin y theatr.
Yn Passion Impossible, Wake Up Call for Germany 1997 neu Chance 2000, Pleidleisiwch drosoch eich Hun ffurfiodd Schlingensief y Blaid Cyfle Olaf lle gallai unrhyw un ddod yn ymgeisydd ei hun yn y cyfnod cyn etholiad ffederal 1998 yn yr Almaen.[5]
Yr un flwyddyn gwnaeth brosiect perfformio ar gyfer Gŵyl Awstria o'r enw Chance 2000 for Graz : adeiladwyd wyth piler yn sgwâr canolog Marienplatz, lle gwahoddwyd pobl ddigartref i eistedd arnynt, a'r cytundeb oedd bod yr un a eistedd yno hiraf allai ennill 7,000 swllt, a phob dydd yr artist taflu 20,000 swllt ar bobl oedd yn mynd heibio.[8] Amharwyd ar y prosiect gyda chymorth plaid asgell dde Awstria, a gasglodd 10,000 o lofnodion yn ei erbyn.
Pentref Opera Affrica
[golygu | golygu cod]Yn 2004, llwyfannodd Parsifal Wagner ar gyfer Gŵyl Bayreuth.[9]
Un o brioseictau olaf ei fywyd oedd i ciesio adeiladu tŷ opera yn Burkina Faso.[10] Roedd y prosiect, a dderbyniodd arian gan lywodraeth yr Almaen,[11] hefyd i gynnwys ysgol theatr a ffilm, ac ysbyty.[3] Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Ionawr 2010, ger Ouagadougou, Bu farw Schlingensief o ganser un fuan wedyn ac fe'i parhawyd yn ddiweddarach o dan arweiniad gwraig a'i gynorthwyydd hir-amser Aino Laberenz.[4]
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Ar ôl dysgu bod ganddo ganser yr ysgyfaint yn gynnar yn 2008,[11] ysgrifennodd Schlingensief am ei salwch ac yn 2009 cyhoeddodd Heaven Could Not Be as Beautiful as Here: A Cancer Diary.[3] Bu farw ar 21 Awst 2010 yn Berlin, yr Almaen yn 49 oed[12]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Neue Walisische Kunst - Grŵp 'Celf Newydd Cymru' - sydd wedi'u dylanwdau gan waith Christoph Schlingensief
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Christoph Schlingensief ist tot". Süddeutsche Zeitung. 21 Awst 2010. Cyrchwyd 24 Awst 2010.
- ↑ Zachary Woolfe (27 Gorffennaf 2014). "Operatic Heart of a Chaotic Career: The German Gadfly Christoph Schlingensief at MoMA PS1". New York Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 28 Gorffennaf 2014.
- 1 2 3 William Grimes, Christoph Schlingensief, Artistic Provocateur, Dies at 49, New York Times, 25 Awst 2010
- 1 2 Hugh Rorrison (24 Awst 2010). "Christoph Schlingensief obituary". The Guardian. Cyrchwyd 6 Mai 2012.
- 1 2 3 Ken Johnson, Former Auteur in Love With Outrage, New York Times, 1 Mai 2014
- ↑ Christoph Schlingensief obituary, Daily Telegraph, 31 Hydref 2010.
- ↑ Christoph Schlingensief, "18 Images a Second", May 25 – September 16, 2007 Haus der Kunst, Munich.
- ↑ Christoph Schlingensief Chance 2000 für Graz, Offsite Graz
- ↑ John Rochwell, The Weird Twilight of a Wagner New York Times, 22 Mehefin 2003
- ↑ Till Briegleb (7 Mehefin 2012). "Halleluja der Ambivalenz". Süddeutsche Zeitung. Cyrchwyd 26 Tachwedd 2014.
- 1 2 Shirley Apthorp (23 Awst 2010), Schlingensief, Who Put Putrid Bunny on Bayreuth Stage, Is Dead, Bloomberg
- ↑ Apthorp, Shirley (22 Awst 2010). "Schlingensief, Who Put Putrid Bunny on Bayreuth Stage, Is Dead". Bloomberg. Cyrchwyd 24 Awst 2010.