Jean-Luc Godard

Oddi ar Wicipedia
Jean-Luc Godard
FfugenwHans Lucas Edit this on Wikidata
Ganwyd3 Rhagfyr 1930 Edit this on Wikidata
7fed arrondissement Paris, Paris Edit this on Wikidata
Bu farw13 Medi 2022 Edit this on Wikidata
Rolle Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc, Y Swistir Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr ffilm, actor, sgriptiwr, sinematograffydd, cynhyrchydd ffilm, golygydd ffilm, ysgrifennwr, beirniad ffilm, cyfarwyddwr teledu, cynhyrchydd teledu, artist fideo, sgriptiwr ffilm, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Cahiers du cinéma Edit this on Wikidata
Adnabyddus amBreathless, Le Mépris, Pierrot le Fou, Sauve Qui Peut, Le Petit Soldat Edit this on Wikidata
ArddullY Don Newydd Ffrengig Edit this on Wikidata
Taldra1.7 metr Edit this on Wikidata
MudiadY Don Newydd Ffrengig Edit this on Wikidata
TadPaul Godard Edit this on Wikidata
MamOdile Monod Edit this on Wikidata
PriodAnne Wiazemsky, Anne-Marie Miéville, Anna Karina Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Theodor W. Adorno, Praemium Imperiale, Gwobr Sutherland, Y Llew Aur, Y César Anrhydeddus, Gwobr Louis Delluc, Y César Anrhydeddus, Gwobr Anrhydeddus yr Academi, Jury Prize, Yr Arth Aur, Leopard of Honour, Gwobr Cyflawniad Oes yr Academi Ffilm Ewropeaidd, Gwobr yr Arth Arian i'r Cyfarwyddwr Gorau, Silver Lion, Gwobr y Llew Aur am Gyflawniadau Gydol Oes, Palme d'Or, Silver Bear for Outstanding Artistic Contribution, Silver Bear Edit this on Wikidata
llofnod

Roedd Jean-Luc Godard (3 Rhagfyr 193013 Medi 2022) yn gyfarwyddwyr ffilm o Ffrainc a fagwyd yn y Swistir. Daeth yn un o wneuthurwyr ffilm enwocaf a mwyaf dylanwadol yn y byd fel rhan o’r symudiad La Nouvelle Vague (y don newydd) arloesol yn ystod y 1960au.[1]

Mae ei ffilmiau enwocaf yn cynnwys A Bout de Souffle, Weekend, Alphaville, Bande à part, Le Mépris ac One Plus One – Sympathy for the Devil.[2]

Ganwyd Godard yn Paris yn 1930 i deulu bourgeois, ei dad yn ddoctor preifat, ei fam o deulu o fancwyr. Treuliodd ei blentyndod yn y Swistir cyn dychwelyd i Paris yn 1948 i fynd i Brifysgol y Sorbonne.

Fel myfyriwr mynychodd glybiau sinema ble daeth yn ffrindiau gyda François Truffaut a Jacques Rivette. Yn 1954 dychwelodd Godard i’r Swistir i weithio fel adeiladwr. Gyda’r arian a enillodd gwnaeth ei ffilm fer gyntaf Opérion béton am adeiladu cronfa dŵr.

Yn ôl yn Paris, daeth yn amlwg fel beirniad sinema, yn ysgrifennu erthyglau i’r cylchgrawn dylanwadol Cahiers du cinéma. Roedd yn feirniadol o wneuthurwyr ffilm sefydledig a thraddodiadol ond yn gefnogol i arloeswyr.

Yn 1959 wnaeth ei ffilm hir gyntaf A bout de souffle (Breathless oedd y teitl Saesneg). Roedd y ffilm yn llwyddiant enfawr ac enillodd Godard glod mawr am ei syniadau arloesol a radicalaidd o ffilmio a sgriptio. Gyda ffilm Truffaut o'r un flwyddyn Les Quatre cents coups (400 Blows ) roedd A bout de souffle yn sylfaen i fudiad La Nouvelle Vague ac un o gyfnodau mwyaf cyffroes sinema Ffrainc.[2][3]

Derbyniodd ei ffilmiau nesaf dderbyniad cymysg. Cafodd Le Petit soldat (1960) ei wahardd tan 1963 gan sensor ffilmiau Ffrainc am iddi ddelio gyda rhyfel annibyniaeth Algeria. Nid oedd ei ffilmiau lliw cyntaf Une femme est une femme (1961) a Les Carabiniers (The Carabineers - 1963) yn llwyddiannau mawr gyda’r cyhoedd. Ond roedd Vivre sa vie: film en douze tableaux (My Life to Live – 1962) gyda'i wraig Anna Karina yn y brif ran yn llwyddiant gyda’r cynulleidfaoedd a’r beirniaid.

Anna Karina

Roedd Anna Karina hefyd yn chwarae un o’r prif rannau yn Bande à part (Band of Outsiders - 1964) Pierrot le Fou (1965), ac Alphaville (1966).[3][4]

Ei lwyddiant masnachol mwyaf oedd Le Mépris (Contempt – 1963) gyda’r seren ddisglair Brigitte Bardot.

Yn ystod 1960au aeth ffilmiau Godard ar drywydd arbrofol a gwleidyddol. Roedd Godard yn rhan o wrthdystiadau Paris 1968 a daeth yn gefnogwr i syniadaeth gomiwnyddol radicalaidd Mao-aidd. Cyfeirir at ffilmiau o’r cyfnod 1967-1973 fel rhai années Mao (blynyddoedd Mao). Trodd ei gefn ar sinema masnachol gan gydweithio gyda grwpiau o weithredwyr goleddol i gynhyrchu ffilmiau gwleidyddol ei hun.

Dychwelodd i fyd sinema boblogaidd gyda Sauve qui peut (1979). Wrth i sinema boblogaidd droi fwyfwy at ffilmiau fformiwla saff a sicrwydd elw, roedd Godard yn dal i greu ffilmiau profoclyd yn ymdrin â themâu gwleidyddol, seicolegol a dynol. Roedd yn derbyn clod gan rhai beirniaid a dilynwyr ffilm cyfoes, ac nid oedd Godard yn poeni bod ei ffilmiau'n cael eu hystyried yn anfasnachol ac yn ‘rhy gymhleth’ ar gyfer cynulleidfa eang.

Dyfyniadau Jean-Luc Godard[golygu | golygu cod]

  • Mae sinema yn wirionedd 24-waith pob eiliad.[5]
  • Mae ffilmiau Hollywood nawr, am y 20 neu 30 o flynyddoedd diwethaf, wedi’u gwneud gan gyfreithwyr neu asiantwyr.[5]
  • Y cwbl sydd eisiau i wneud ffilm yw gwn a merch.[5]

Prif ffilmiau Jean-Luc Godard[golygu | golygu cod]

Jean-Luc Godard, André S. Labarthe, Alain Fleischer a Kingsley Ng yn National Studio France, 2005

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]