Joseph Beuys

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Joseph Beuys
Beuys-Feldman-Gallery.jpg
Ganwyd12 Mai 1921 Edit this on Wikidata
Krefeld Edit this on Wikidata
Bu farw23 Ionawr 1986 Edit this on Wikidata
o methiant y galon Edit this on Wikidata
Düsseldorf Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethcerflunydd, coreograffydd, arlunydd, academydd, darlunydd, ffotograffydd, conceptual artist, artist sy'n perfformio Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Hochschule für bildende Künste Hamburg Edit this on Wikidata
Arddullcelf gysyniadol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolThe Greens Edit this on Wikidata
MudiadFluxus Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.beuys.org Edit this on Wikidata

Roedd Joseph Heinrich Beuys (12 Mai 192123 Ionawr 1986) yn gerflunydd avant-garde a pherfformiwr, ei waith yn nodweddiadol am fod yn anghonfensiynol a phrofoclyd. Roedd yn aelod amlwg o'r mudiad celf arbrofol Fluxus o'r 1960au i'r 1970au.[1]

Bywyd cynnar[golygu | golygu cod y dudalen]

Joseph Beuys, 1978

Ganwyd yn Krefeld, Yr Almaen. Pam roedd yn ifanc daeth y Natsïwyr i’r grym ac yn 1940, yn 19 oed, ymunodd a llu awyr i ymladd yn yr Ail Ryfel Byd. Dywedodd Beuys pan roedd yn ymladd yn Rwsia cafodd ei awyren ei saethu i lawr a wnaeth bobl nomadiaid Tatar ei ddarganfod yn gorwedd yn anymwybodol yn yr eira. Dywedodd sut cafodd ei achub ganddynt a’i nyrsio gan lapio ei gorff mewn ffelt a saim anifeiliaid. Defnyddiodd Beuys y stori nes ymlaen gan ddweud roedd y profiad yn ysbrydoliaeth i lawr o’i waith celf. Mae cofnodion swyddogol, beth bynnag, yn gwrth-ddweud y stori gan ddweud cafodd Beuys ei arbed gan filwyr Almaeneg. Cafodd ei anafu sawl tro arall yn ystod y rhyfel a chafodd ei gadw mewn gwersyll carcharorion Prydeinig.[1]

O 1947 i 1951 astudiodd gelf yn Düsseldorf ac yn 1961 fe'i benodwyd yn athro cerfluniaeth yn Academi Gelf y dref ond gollodd ei swydd yn 1972 ar ôl iddo gadael faint bynnag o bobl oedd eisiau dod i’w ddosbarthiadau – ac am ddim. Roedd hefyd yn weithgar mewn gwleidyddiaeth.

Gwaith[golygu | golygu cod y dudalen]

Joseph Beuys Felt TV

Yn 1962 cyflwynwyd Beuys i gelf perfformio (Performance art) a daeth yn rhan o'r mudiad celf arbrofol Fluxus, rhwydwaith anffurfiol o artistiaid, beirdd a cherddorion ar draws y byd oedd am herio syniadau celf traddodiadol. Roedd yr aelodau yn cynnwys John Cage, Yoko Ono a John Cale. Ysbrydolwyd Fluxus gan Marcel Duchamp a'r mudiad celfyddydol Dada yn y 1920au, yn arbennig gan eu syniad o anti-art.[2]

Mae'r enw Fluxus yn adlewyrchu'r syniad o'u gweithgareddau heb fod yn llonydd, ond yn llifo mewn newid parhaus. Roedd Fluxus yn aml yn pwysleisio agwedd 'D-I-Y gwneud eich hun' a bod y cymryd rhan mewn proses greadigol yn bwysicaf na'r canlyniad terfynol. Ceisiodd Fluxus dorri'r arferiad o gelf ond yn cael ei ystyried fel rhywbeth sy’n cael ei hongian ar wal mewn oriel ffurfiol er mwyn i’r cyhoedd ei barchu.

Roedd y syniad o weithgareddau celf byw Happenings yn ysbrydoliaeth fawr i Beuys. Gwahoddodd nifer o artistiaid Fluxus i berfformio yn Düsseldorf a pherfformiodd ddau Action ei hun.

Yn 1965 perfformiodd un o'i weithfeydd enwocaf wie man dem toten Hasen die Bilder erklärt (sut mae eglurio lluniau i'r sgwarnog) – gan gerdded o amgylch oriel gelf gyda sgwarnog marw yn ei ddwylo fel parodi am yr arferiad o 'egluro celf i'r cyhoedd'.[3][4]

Yn I Like America and America Likes Me, 1974 Efrog Newydd perfformiodd yn un arall o’i Actions enwogaf. Y teitl yn dangos gwrthwynebid cryf Beuys i fateroliaeth a rhyfelgarwch America. Fe’i lapiodd ei hun mewn ffelt wrth gyrraedd maes awyr Efrog Newydd a gyrrwyd mewn cefn ambiwlans heb gyffwrdd tir Americanaidd. Wedyn treuliodd dri diwrnod mewn caetsh gyda choyote gwyllt. Ar ddiwedd y tri diwrnod fe’i ail lapiwyd mewn ffelt a gyrrwyd yn ôl i’r maes awyr. Defnyddiodd y metaffor o’r coyote mewn sawl darn arall o waith, gan geisio cyfleu sut roedd yr anifail yn cael ei barchu gan bobl gynhenid America ond yn cael ei erlid gan bobl ‘wareiddiedig’ wyn.

Yn y 1970au ymddiddorodd ym fwy mewn siamaniaeth a dewiniaeth pobloedd gynhenid gan adrodd stori ei achubiaeth gan nomadiaid Tartar a sut lapion nhw ei gorff mewn ffelt a saim i arbed i fywyd fel metaffor am yr angen i ofalu, maethu a pharchu’r cyd-ddyn a’r natur. Teithiodd ac arddangos yn aml yn Iwerddon a’r Alban gan ymddiddori yn draddodiadau'r hen Geltiaid.[5]

Mae Bueys bellach yn cael ei weld fel un o artistiaid mwyaf dylanwadol Ewrop wedi’r ail ryfel byd. Fel llawer o Almaenwyr eraill y cyfnod roedd yn ceisio dod i delerau a deall troseddau’r Natsïwyr ac erchylltra’r rhyfel. Trwy ei waith ceisiodd Beuys annog trawsnewid cymdeithas i fod yn fwy heddychol a chreadigol trwy herio syniad traddodiadol a materol trwy ei amrywiaeth eang o gerfluniau, perfformiadau, darlithiodd a gweithredodd.[1]

Yn Eisteddfod 1977 cynhaliwyd protest tu allan i’r Babell Gelf ble roedd arddangosfa o waith gan Beuys a sawl artist rhyngwladol arall. Arweiniodd y protest gan Paul Davies ac aelodau eraill y Grŵp Celf Beca a oedd am ddenu sylw i’r ffaith nad oedd artistiaid o Gymru wedi cael eu gwahodd i arddangos hefyd. [6][7]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]