Neidio i'r cynnwys

Fluxus

Oddi ar Wicipedia

Roedd Fluxus yn fudiad celf arbrofol yn y 1960au a 1970au. Roedd yn grŵp anffurfiol o artistiaid, beirdd a cherddorion ar draws y byd. Cynhaliwyd amrywiaeth fawr o weithgareddau, cyngherddau a digwyddiadau anffurfiol Happenings.

Roedd y gwaith a digwyddiadau’r grŵp yn aml yn brofoclyd, chwyldroadol ac am herio’r byd celf sefydliadol. Ysbrydolwyd y mudiad Fluxus gan Marcel Duchamp a’r mudiad celfyddydol Dada yn y 1920au, yn arbennig gan eu syniad o ‘anti-art’. [1]

Mae’r enw Fluxus yn adlewyrchu’r syniad bod eu gweithgareddau heb fod yn llonydd, ond yn llifo mewn newid parhaus.

Ymhlith yr aelodau amlwg oedd y Cymro John Cale, y cyn Beatle Yoko Ono a Joseph Beuys.

Ffurfiwyd Fluxus yn 1960 gan yr arlunydd George Maciunas. Daeth yr enw o gylchgrawn am gerddoriaeth arbrofol ac artistiaid wedi’u hysbrydoli gan y cyfansoddwr John Cage.

Roedd digwyddiad cyntaf Fluxus mewn oriel gelf yn Efrog Newydd yn 1960, gyda gwyliau Fluxus yn cael eu cynnal yn Ewrop yn 1962. Yn ystod y pymtheg mlynedd nesaf daeth Efrog Newydd, Yr Almaen a Japan yn ganolfannau gweithgareddau’r grŵp.

Doedd dim un steil penodol yn gysylltiedig â Fluxus, yn hytrach roedd y grŵp yn nodweddiadol am amrywiaeth eang o gyfryngau yn aml gydag agwedd a ‘DIY’ gan ddefnyddio pa bynnag anodau, pobl a lleoliad oedd digwydd bod ar gael ar y pryd ac yn agored i bawb. Y cymryd rhan, creadigrwydd, proses a chreu trwy ddamwain yn cael eu hystyried yn bwysicach na’r canlyniad terfynol bwriadol. [2][3]

Roedd Fluxus hefyd yn nodweddiadol am hiwmor, fod yn wrth-fasnachol, democrataidd ac yn annog cydweithrediad rhwng pobol o ffurfiau gwahanol o gelfyddydau.

  • Celfwaith Dieter Reick "Self-driving toothbrush" (1968)
  • Joseph Beuys, 1978

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]