Neidio i'r cynnwys

Neue Walisische Kunst

Oddi ar Wicipedia
Neue Walisische Kunst
NWK
(Celf Newydd Cymru)
Sefydlwyd2020
SylfaenyddSarah Pogoda
MathGrŵp celfyddydol
Lleoliad
  • Cymru a’r Almaen
Iaith/Ieithoedd swyddogol
Almaeneg, Cymraeg, Saesneg
Gwefanhttps://deutsch-walisische-freundschaft.jimdosite.com/neue-walisische-kunst/

Mae Neue Walisische Kunst (NWK) (Celf Newydd Cymru) yn grŵp celf a sefydlwyd yn 2020.

Mae’r grŵp yn cynnal digwyddiadau celfyddydol profoclyd, gwneud ffilmiau byrion, cyhoeddi maniffestos ac yn rhannu cerdiau aelodaeth.

Mae’r grŵp wedi’i hysbrydoli gan y mudiad celf arbrofol 1960au-70au Fluxus ac artistiad avant-garde fel Joseph Beuys a'r cyfarwyddwyr ffilm brofoclyd Christoph Schlingensief. Y ddau yn Almaenwyr ac mae’r grŵp yn defnyddio’r iaith Almaeneg ar eu henw ac yn eu gweithgareddau, ynghyd â Chymraeg a Saesneg.[1][2] [3]

Mae’r enw yn tarddu o Neue Slowenische Kunst – NSK (Almaeneg: Celfyddyd Newydd Slofenaidd), mudiad celf yn gysylltiedig gyda Laibach y band cerddorol avant-garde o Slofenia.

Anthem y grŵp yw Afon Gâd, cân gan y grŵp Cymraeg Pysgod Melyn ar Draws. "Deutsch-Walisische Freundschaft" ("Cyfeillgarwch Cymru a’r Almaen") yw ei arwyddair.

Gweithgareddau

[golygu | golygu cod]

Esiampl o un o weithgareddau'r grŵp oedd dychanu'r modd maen nhw’n meddwl bod artistiaid yn gorfod iselhau eu hun i sicrhau grantiau. Darllenodd y bardd Rhys Trimble barddoniaeth Gymraeg tra’n sefyll at ei ganol mewn dŵr oer y môr, taflwyd rhai bunnoedd o arian papur go iawn i’r dŵr, gan ei orfodi i’w sgramblo trwy’r dŵr i’w casglu cyn i’r arian cael ei sgubo i ffwrdd gan y llanw.

Llyfrau

[golygu | golygu cod]
Cyfieithiad Cymraeg o'r llyfr Metamorffosis (2021)
Cyfieithiad Cymraeg o'r ddrama Woyzeck (2025).

Mae aelodau'r grŵp wedi gweithio ar nifer o brosiectau i addasu gweithfeydd llenyddol Almaeneg i'r Gymraeg, yn cynnwys:

Maniffestos

[golygu | golygu cod]
Maniffesto Cymraeg/Almaeneg
  • Ja Manifesto Ja – Wir sagen Ja auch Walisisch (Maniffesto Ie, rydan ni’n dweud Ie yn Gymraeg Hefyd), 2020
  • Fluxus – Gramadeg a Thiepograffiaeth, 2020

Ffilmiau

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]