Grŵp Celf Beca

Oddi ar Wicipedia

Roedd Beca yn grŵp o artistiaid a ffurfiwyd yng Nghymru tua 1974. Yr enw yn dod o Helyntion Beca, 1839 - 1844.

Ffurfiwyd y grŵp gan yr artist Paul Davies i ddod ag ymwybyddiaeth genedlaethol newydd i gelf weledol yr 20fed ganrif yng Nghymru. [1]

Er bod pwysigrwydd Beca yng nghelf Cymru yn dal i fod heb ei gydnabod yn eang, llwyddodd y mudiad dod â gwleidyddiaeth heriol i gelf yn y wlad. Cymerodd y grŵp tueddiadau a genres rhyngwladol ac yn eu cymhwyso i gyd-destun Cymru. Dylanwadwyd artistiaid y grŵp gan amrywiaeth o ffynonellau gan gynnwys Arte Povera, Fluxus a Swrealaeth. [2]

Parhaodd y grŵp i'r 21ain ganrif, dan arweiniad Peter, brawd Davies; ac ynghyd â phobl fel yr artistiaid Ivor Davies, Iwan Bala, Pete Telfer, Peter Finnemore a Tim Davies. Mae hanes y grŵp wedi ennill cryn barch o dan ailasesiadau ôl-fodern.

Defnyddiodd y grŵp gymysgedd o fynegiant artistig, gan gynnwys gosod, paentio, cerflunio a pherfformio, gan ymgysylltu â materion iaith, yr amgylchedd a hawliau tir.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam 1977 cynhaliwyd Grŵp Beca protest tu allan i’r Babell Gelf ble roedd arddangosfa o waith gan Joseph Beuys a sawl artist rhyngwladol arall. Arweiniodd y protest gan Paul Davies a oedd am ddenu sylw i’r ffaith nad oedd artistiaid o Gymru wedi cael eu gwahodd i arddangos hefyd.[3][4]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Art in Wales: Politics of Engagement or Engagement with Politics?". artcornwall.org. Cyrchwyd 23 October 2010.
  2. "Re Inventing Reinvention" (PDF). iwanbala.com. 2 March 2002. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 13 July 2011. Cyrchwyd 23 October 2010.
  3. http://www.artcornwall.org/features/Iwan_Bala_Art_in_Wales.htm
  4. https://www.walesartsreview.org/wales-the-artist-and-society-the-legacy-of-beca/