Calvert Jones

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Calvert Richard Jones a dynes (Portia Smith o bosib, ei ail wraig) o flaen adeilad colofnog; Mehefin 2004.
Ch-Dde: Calvert Richard Jones, y Ledi Brewster, Mrs Jones, Syr David Brewster and Miss Parnell (yn eistedd).

Roedd Calvert Jones (4 Rhagfyr 18047 Tachwedd 1877) yn enedigol o Abertawe ac yn ffotograffydd, yn fathemategydd ac yn arlunydd a arbenigai mewn tirluniau o'r arfordir. Dywedir mai ef oedd y cyntaf i dynnu llun 'ffotograff' yng Nghymru: math 'Daguerreotype' a hynny o Gastell Margam yn 1841. Roedd hefyd yn arlunydd dyfrlliw medrus ac y mae ei waith yn dangos 'teimlad cryf am liw a ffurf' yn ôl Iwan Meical Jones.

Roedd ei rieni'n gyfoethog iawn, ac yn hanu o Abertawe. Fe'i addysgwyd yng Ngholeg Eton ac yng Ngholeg Oriel, Rhydychen lle graddiodd yn y dosbarth cyntaf mewn mathemateg. Wedi gadael y coleg, aeth yn rheithor yng Gasllwchwr ac yn y Rhath am gyfnod. Roedd yn gyfaill i John Dillwyn Llewelyn y botanegydd a'r ffotograffydd cynnar; cyfaill arall iddo o'i ddyddiau coleg oedd Christopher Rice Mansel Talbot, etifedd ystad fawr Margam a Phen-rhys. Drwy'r cyfeillgarwch hwn y daeth i wybod am ddarganfyddiadau eu cefnder William Henry Fox Talbot o Abaty Lacock, Wiltshire, dyfeisiwr y dull positif-negatif o wneud ffotograff.[1]

Llun a dynnwyd gan Cavlert Jones o'r Colosseum yn Rhufain yn Ionawr 1846.

Ffotograffiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Gan nad oedd proses Talbot wedi'i berffeithio, trodd yn gyntaf at y dull daguerrotype gan berffeithio'r grefft erbyn 1841. Drwy'r 1840au cydweithiodd gyda Talbot a chyda Ffrancwyr fel Hippolyte Bayard a bu'n ddolen gyswllt anhepgor rhwng arloeswyr Ffrainc a gwledydd Prydain. Erbyn 1846 yr oedd wedi troi at broses calotype Talbot. A dyma'i waith mwyaf nodedig, y ffotograffau calotype a dynnodd ddiwedd yr 1840au ar Ynys Malta, yn yr Eidal ac o gwmpas gwledydd Prydain. Danfonai'r negyddion at Talbot i'w hargraffu a'u gwerthu.[1]

Ewrop ac yn ôl[golygu | golygu cod y dudalen]

Teithiodd yn helaeth, gan gynnwys Ffrainc a'r Eidal gan ddatblygu techneg ei hun i greu llun ar ffurf panorama. Ymddiddorai hefyd mewn cerddoriaeth.

Yn 1847 etifeddodd llawer o diroedd ac Ystad Heathfield yn ardal Abertawe yn 1847 a dychwelodd adref. Adeiladodd strydoedd yng nghanol y ddinas, gan goffáu ei hanner brawd yn enw "Stryd Mansel" a'i ail wraig yn enw "Stryd Portia". Gadawodd Abertawe yn 1853 a byw ym Mrwsel.

Bu iddo un ferch o'i briodas gyntaf a dwy o'r ail briodas â Portia.

Marwolaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Enwyd 'Stryd Mansel' ar ôl ei frawd. Symudodd i Frwsel yn 1853 ac yna i Gaerfaddon lle bu farw ar 7 Tachwedd 1877. Yng nghapel y teulu yn Eglwys y Santes Fair, Abertawe, fodd bynnag, y cafodd ei gladdu, cyn difa'r eglwys yn llwyr yn yr Ail Ryfel Byd.

Darllen pellach[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Rollin Buckman, The photographic work of Calvert Richard Jones , Llundain, 1990 ( 1990 )
  • Adran Llawysgrifau LlGC
  • MSS 2.839 Caerdydd (achau teuluol)
  • Casgliad Abaty Lacock
  • Bath City Reference Library MSS 1010-1012 (dyddiadur ei wraig gyntaf)
  • I. M. Jones , Trafodion Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1990 , 117-72.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 ['Y Bywgraffiadur Cymraeg Arlein'; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: