Baneri Promenâd Aberystwyth

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Baneri Promenâd Aberystwyth - baneri Un o nodweddion Promenâd Aberystwyth yw ei baneri o wledydd ac ieithoedd lleiafrifol. Maent yn cyhwfan yn ystod misoedd y gwanwyn a'r haf ac wedi dod yn un o nodweddion y dref.

Nodweddion[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r baneri a chwifir yn cynnwys cenhedloedd nad sydd sy'n annibynnol a hefyd cymunedau ieithyddol lleiafrifol yn Ewrop. Ceir hefyd rhai gweldydd annibynnol megis Estonia, ond nad oedd yn annibynnol pan chwifiwyr y baneri am y tro cyntaf yn 1990.

Dewisir y baneri drwy awgrymiad gan Ganolfan Mercator, sefydliad sy'n arbenigo mewn hawliau ieithoedd lleifrifiedig Ewrop. Awgrymir y baneri i Gyngor Tref Aberystwyth.

Bu'r Promenâd yn chwifio baneri gwledydd Estonia, Latfia a Lithwania ar adeg pan nad oeddynt yn annibynnol. Yn 2015 cafwyd penderfynodd Gyngor Tref Aberystwyth ail-lunio'r rhestr o faneri i'w chwifio ac fel cydnabyddiaeth o statws y gwledydd hynny fel rhai annibynnol penderfynwyd eu symud a rhoddwyd lle i gymunedau ieithyddol eraill.[1]

Y Baneri sy'n Cyhwfan[golygu | golygu cod y dudalen]

Baneri Promenâd Aberystwyth - arwydd 2

Y baneri sy'n cyhwfan yn 2018 oedd:

  • Cymru
  • Llydaw
  • Cernyw
  • Ynys Manaw
  • Yr Alban
  • Fflandrys
  • Friesland
  • Sorbiaid
  • Kashubia
  • Sami
  • Corsica
  • Occistan
  • Sardinia
  • Friuli
  • Ikurrina Gwlad y Basg
  • Catalwnia
  • Galisia
  • Asturias
  • Romani
  • Arabesh

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Baneri Promenâd Aberystwyth - arwydd

Sefydlwyd yr arfero chwifio'r baneri arbenig yma gan gynghorydd Plaid Cymru ar hen Cyngor Dosbarth Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth, Gareth Butler. Bydd rhai ar lafar yn dal i alw'r baneri yn 'Baneri Butler'.[2]

Hynodrwydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Er bod chwifio baneri rhyngwadol mewn llefydd cyhoeddus yn arfer cyffredin ar draws Ewrop, o bosib Aberystwyth yw'r unig dref sy'n chwifio baneri gwledydd di-wladwriaeth ac ieithoedd lleiafrifol Ewrop.

Fe chwifir baneri 'cenedl-wladwriaethau' sefydliedig, megis Ffrainc, Sbaen, Yr Eidal, Gwlad Belg ag ati, ar Promenâd y De, oddi tan i Gastell Aberystwyth.

Er bod rhai ar draws y blynyddoedd wedi cwestiynu chwifio baneri llai amlwg ym man canolog tref twristaidd fel Aberystwyth, gan neilltuo baneri trigolion mwy niferus sy'n ymweld â'r dref, mae'r baneri yn pahau i'w chwifio.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. http://bronglais.blogspot.com/2015/06/a-renewal-of-aberystwyths-small-nation.html
  2. https://twitter.com/MarchGlas/status/1005822606707253248