Baner Cernyw

Oddi ar Wicipedia
Baner Cernyw.

Baner cenedlaethol Cernyw yw Baner Cernyw neu Baner Sant Piran. Mae Sant Piran (neu Sant Peran) yn un o ddau nawddsant Cernyw: ar y cyd â Petroc. Dethlir ei ŵyl mabsant ar 5 Mawrth. Abad oedd Piran, o'r chweched ganrif, o dras Gwyddelig (fel Ciarán - y 'P' Gymraeg yn troi yn 'C' Gwyddeleg).

Bechgyn yn gwisgo baner Cernyw amdanynt ar ddiwrnod cenedlaethol St Piran.

Mae baner Piran yn groes wen ar gefndir du, gyda'r gwyn yn cynrychioli alcam/tun. Mewn chwedloniaeth Cernyweg, dywedir i'r Sant ddarganfod sut i greu tun, ac mai'r metal tawdd yw'r lliw du sydd yn y faner.

Cariwyd y faner hon gan filwyr o Gernyw ym Mrwydr Agincourt yn 1415.