Neidio i'r cynnwys

Baner Fflandrys

Oddi ar Wicipedia
Baner Fflandrys, cymesuredd 2:3

Baner Fflandrys, a elwir fel arfer y Llew Fflemeg neu Llew Fflandrys (Iseldireg: Vlaamse Leeuw), yw baner y Gymuned Fflandrys (Cultuurraad voor de Nederlandse Cultuurgemeenschap) a Rhanbarth Fflandrys (sef y rhan Iseldireg ei hiaith sy'n rhan o Wlad Belg). Mabwysiadwyd y faner yn swyddogol fel baner Cyngor Cymuned Ddiwylliannol yr iaith Iseldireg ym 1973, ac yn ddiweddarach, ym 1985, fel baner senedd Cymuned Fflandrys.[1][2][3][4] Seiliwyd y faner ar hen arfbais sir Fflandrys ac mae'n faner i rheini sy'n uniaethu â hanes a hunaniaeth Iseldireg ei hiaith Fflandrys ac i genedlaetholwyr Fflemeg.

Dyluniad

[golygu | golygu cod]

Disgrifiad y faner:

Or, a lion rampant armed and langued Gules; Geel met een zwarte leeuw, rood geklauwd en getongd (Llain melyn gyda llew du rhemp, crafanc a thafod goch) [3][4]

Mae'r llew yn cael ei ddarlunio yn sefyll ar ei goesau ôl ac wedi'i grafangu, yn wynebu'r mast ar y faner. Cymhareb agwedd y faner yw 2:3 (fel un Iseldiroedd, mae hyn yn wahanol i faner Gwlad Belg (sydd yn siâp fwy sgwâr, cymesuredd, 13:15), ond mae'r fformat arferol ledled y byd (yn ymarferol, mae baner Gwlad Belg hefyd fel arfer yn cael ei harddangos yn yr un fformat).

Ysbrydolwyd y faner swyddogol gan ddarlun o law herald arfau anhysbys a drafftiwr mewn llyfr arfau o'r cyfnod 1560-1570. Hyd yn oed yn fwy nag yn y Gelre Wapenboek, mae'n amlwg y gellir adnabod y ddelwedd fel llew, gyda manau datblygedig. Gwnaed y dyluniad mewn cydweithrediad â'r Cyngor Heraldaidd Fflandrys, (Vlaamse Heraldische Raad).[5]

Mae lliw y crafangau a'r tafod ar y faner a'r arfbais swyddogol, fel y dywedwyd, yn goch (neu'r gules mewn herodraeth). Fodd bynnag, mae llawer o fewn mudiad cenedlaethol Fflandrys dim ond yn arddel baner gyda llew ddu yn unig.[6] Mae'n well gan y mudiad Fflandrys faner yma gyda thafod du a chrafangau du ond arddelir hefyd gan fudiadau a grwpiau anghenedlaetholgar megis cymdeithas foduro Fflandrys, y Vlaamse Tooeristenbond / Vlaamse Automobilistenbond.[7] Gelwir y fersiwn hon o faner y Llew hefyd yn faner frwydr, neu cad-faner, (Vlaamse strijdvlag) Fflandrys.

Er y cysylltir baner y llew du gan nifer gyda'r asgell dde genedlaetholaidd, ond nid yw hynny' gywir, ac fe arddelir y faner gan ystod eang o'r Vlaamse Beweging, y mudiad cenedlaethol.[8]

Poblogeiddio'r Faner Du a Melyn

[golygu | golygu cod]

Sefydlwyd grŵp "Vlaanderen Vladgt" gan Ivan Mertens yn 2001 er mwyn poblogeiddio baner blaen llew ddu ar gefndir melyn ac er mwyn "rhoi Fflandrys ar y map".[9]

Wedi ei hysbrydoli gan gefnogwyr a gwladgarwyr gwledydd eraill fel Llydaw ac Iwerddon oedd yn chwifio eu baneri cenedlaethol mewn digwyddiadau torfol a chwaraeon, penderfynodd Mertens fabwysiadu'r un arfer ar gyfer baner Fflandrys. Teimlai hefyd, wedi gweithio dramor, bod nifer o Fflemiaid yn dawedog neu'n swil o ddweud mai Fflemiaid oeddynt (yn hytrach na Belgiaid) a bod angen newid hyn.

Daeth y baneri llew du yn digwyddiad poblogaidd a chyson ar ddigwyddiadau fel y Tour de France a'r Proms yn Llundain wrth i griw o VV chwifio'r faner. Beirniadwyd hwy ar y cychwyn am iddynt guddio golwg pobl a chamerâu teledu o'r digwyddiad a hefyd achosi niwed anfwriadol. Ond, yn ôl Mertens newidiodd yr awyrgylch yn 2006 a daeth pobl i dderbyn y faner. Mae Vlaanderen Vlagdt fel mudiad bellach wedi dod i ben yn ffurfiol yn 2010, er bod Mertens yn teimlo ei fod wedi llwyddo yn ei gennad i hybu a hyrwyddo'r Vlaamse strijdvlag gan werthu 110,000 o faneri.[9]

Protocol y faner

[golygu | golygu cod]

Rhaid arddangos y faner Fflemeg bob amser ar adeiladau gweinyddol mawr Gweinyddiaeth y Gymuned Fflandrysaidd a sefydliadau cyhoeddus a gwyddonol Fflandrys. Rhaid arddangos y faner hefyd ar bob adeilad cyhoeddus ar ychydig o ddyddiadau bob blwyddyn.[10] Yn ogystal, caiff unrhyw ddinesydd chwifio'r faner pryd bynnag y mae ef neu hi eisiau.[11]

Amrywiaethau

[golygu | golygu cod]
Baner Swyddogol y rhanbarth hunanlywodraethol Fflandrys
Amrywiaeth o'r faner a ddefnyddir gan Fudiad Cenedlaethol Fflandrys sy'n hepgor y crafangau a thafod goch (sef lliwiau Gwlad Belg). Adnebir fel y strijdvlag ("cad-faner").
Baner département 'Nord' yn Ffrainc sy'n cynnwys rhan a elwir yn Fflandrys Ffrengig ac a oedd, yn hanesyddol, yn rhan o Fflandrys.
Baner Talaith Fflandrys (862 — 1795)

Baner Fflandrys yng Nghymru

[golygu | golygu cod]
Baner Fflandrys ar Bromenâd Aberystwyth

Gellir gweld baner Fflandrys yn chwifio'n flynyddol fel un faneri Promenâd Aberystwyth. Mae yno fel casgliad o faneri cenhedloedd a chymunedau ieithyddol di-wladwriaeth annibynnol, ynghyd â baneri gwledydd megis Gwlad y Basg, Cernyw a Llydaw. Caiff y baneri eu codi dros gyfnod gwanwyn a haf, a'u tynnu i lawr yn ystod y gaeaf.

Mae'r faner yn debyg i fersiwn wreiddiol rfbais Ceredigion, neu'n hytrach Llew Gwaithfoed, oedd yn dylunio llew ddu ar lain felyn. Bellach mae'r baner Ceredigion wedi ei newid i fod yn lew felyn ar lain ddu.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Flandres - Vlaanderen" (yn french). Cyrchwyd October 16, 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
  2. Istasse, Cédric (July 10, 2014). "Histoire et mémoire(s): de la bataille des Éperons d'or du 11 juillet 1302 à la fête de la Communauté flamande" (PDF). Les @nalyses du Crisp en ligne (yn french). Cyrchwyd October 16, 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. 3.0 3.1 "Flanders (Belgium)". Flags of the World. Cyrchwyd October 16, 2018.
  4. 4.0 4.1 "Bandera de Flandes". Historiadores histéricos (yn spanish). March 23, 2012. Cyrchwyd October 16, 2018.CS1 maint: unrecognized language (link)
  5. Vlaamse Overheid. Het wapen van de Vlaamse Gemeenschap
  6. https://www.knack.be/nieuws/belgie/wanneer-herovert-de-vlaamse-beweging-de-strijdvlag-uit-klauwen-van-uiterst-rechts/article-opinion-1174533.html?cookie_check=1566983315
  7. https://www.crwflags.com/fotw/flags/be-vlg.html
  8. https://www.crwflags.com/fotw/flags/be%7Dvvb.html
  9. 9.0 9.1 https://www.nieuwsblad.be/cnt/gse2qgkhg
  10. Vlaamse Overheid. Bevlagging van de openbare gebouwen Archifwyd 2019-08-17 yn y Peiriant Wayback, geraadpleegd op 17 augustus 2019.
  11. Flags of the World (2006): Flanders (Belgium), geraadpleegd op 17 Gorffennaf 2007.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]