Baner Grenada

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Flag of Grenada.svg
Data cyffredinol
Enghraifft o'r canlynolQ6008030 Edit this on Wikidata
CrëwrAnthony C. George Edit this on Wikidata
Lliw/iaucoch, aur, gwyrdd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu7 Chwefror 1974 Edit this on Wikidata
GenrePan-African flag Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Baner Grenada (3-2)

Mabwysiadwyd baner genedlaethol Grenada wrth iddi ddod yn wlad annibynnol oddi ar Brydain ar 7 Chwefror 1974. Mae'n genedl yn y Caribî. Dyluniwyd y faner gan Anthony C. George o Soubise ym mhlwyf Saint Andrew ar Grenada. Mae'r faner ddinesyg yr un peth, heblaw fod y cymuseredd ar raddfa 1:2 yn hytrach na 3:5. Mae faner forwrol wedi ei seilio ar yr White Ensign Brydeinig gyda'r faner genedlaethol yn y canton gan ymestyn fewn i'r groes.

Symboliaeth[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r chwe seren yn y ffrâm yn cynrychioli chwech plwyf ynys Grenada [1] gyda'r seren ganol wedi ei hamgylchynu gan ddisg goch yn cynrychioli Carriacou a Petite Martinique (dwy ynys ychydig i'r gogledd sy'n a weinyddir gan Grenada).

Y symbol a ddangosir wrth y mast yw clowsyn cneuen yr India, uun o brif gynnyrchion Grenada. Mae hefyd yn cynrychioli dolen i gyn-enw'r ynys "Isle of Spice".[2]

Mae'r lliw coch yn y faner yn sefyll am ddewrder ac egni; aur am ddoethuneb a chynhesrwydd; a gwyr am y llysdyfiant ac amaethyddiaeth.

Dolenni[golygu | golygu cod y dudalen]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. https://www.crwflags.com/fotw/flags/gd.html
  2. "FLAG OF GRENADA, CARRIACOU AND PETITE MARTINIQUE". Government of Grenada. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-02-19. Cyrchwyd 2010-08-29.