Baltimore, Maryland
| Math | dinas annibynnol |
|---|---|
| Enwyd ar ôl | Cecil Calvert, 2nd Baron Baltimore |
| Poblogaeth | 585,708 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Brandon Scott |
| Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd |
| Gefeilldref/i | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Baltimore metropolitan area |
| Sir | Maryland |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 238.411179 km² |
| Uwch y môr | 10 ±1 metr |
| Gerllaw | Afon Patapsco, Jones Falls, Chesapeake Bay |
| Yn ffinio gyda | Baltimore County, Anne Arundel County |
| Cyfesurynnau | 39.2864°N 76.615°W |
| Cod post | 21201–21298, 21201, 21202, 21203, 21205, 21206, 21209, 21210, 21211, 21212, 21213, 21214, 21215, 21216, 21217, 21218, 21223, 21224, 21229, 21230, 21231, 21233, 21235, 21239, 21240, 21241, 21250, 21251, 21263, 21264, 21270, 21273, 21275, 21278, 21279, 21281, 21287, 21289, 21290, 21297, 21298 |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Baltimore |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Baltimore |
| Pennaeth y Llywodraeth | Brandon Scott |
![]() | |
Dinas annibynnol yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America, yw Baltimore. Dyma ddinas fwyaf talaith Maryland. Lleolir Baltimore yng nghanolbarth Maryland ar lan Afon Patapsco, sy'n llifo i Fae Chesapeake. Cyfeirir at Baltimore fel Baltimore City weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Swydd Baltimore, sef yr ardal o'i chwmpas. Wedi'i sefydlu yn 1729, mae Baltimore yn un o borthladdoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.
Yn 2008, roedd 636,919 o bobl yn byw yn Baltimore, ond mae gan Ardal Fetropolitaidd Baltimore boblogaeth o tua 2.7 miliwn, yr 20fed fwyaf yn UDA.
Enwir y ddinas ar ôl yr Arglwydd Baltimore o Iwerddon, prif sefydlwr Gwladfa Maryland. Cymerodd Baltimore ei hun ei deitl o enw lle ym mhlwyf Bornacoola, yn Swydd Leitrim a Swydd Longford, Iwerddon. Seisnigiad yw 'Baltimore' o'r enw lle Gwyddeleg Baile an Tí Mhóir, sy'n golygu "Tre'r Tŷ Mawr" (nid yr un lle yw hwn â Baltimore, Swydd Corc, sef Dún na Séad yn Wyddeleg.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Cofeb Washington
- Neuadd Dinas
- Tŵr Emerson Bromo-Seltzer
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Babe Ruth (1895–1948), chwaraewr pêl fas
- Larry Adler (1914–2001), cerddor
- Frank Zappa (1940–1993), cerddor
- Tom Clancy (1947–2013), nofelydd
- Pam Shriver (g. 1962), chwaraewr tenis
Gefeillddinasoedd
[golygu | golygu cod]
Yr Aifft - Alexandria (1995)
Israel - Ashkelon (2005)
Yr Almaen - Bremerhaven (2007)
Liberia - Gbarnga (1973)
Yr Eidal - Genova (1985)
Japan - Kawasaki (1978)
Yr Aifft - Luxor (1982)
Wcráin - Odesa (1974)
Gwlad Groeg - Piraeus (1982)
Yr Iseldiroedd - Rotterdam (1985)
Tsieina - Xiamen, Gweriniaeth Pobl Tsieina (1985)
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol y ddinas
