Aubrey Herbert

Oddi ar Wicipedia
Aubrey Herbert
Aubrey Herbert (tua 1916).
Ganwyd3 Ebrill 1880 Edit this on Wikidata
Highclere Castle Edit this on Wikidata
Bu farw26 Medi 1923 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiplomydd, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o'r 32ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Geidwadol Edit this on Wikidata
TadHenry Herbert, 4ydd Iarll Caernarfon Edit this on Wikidata
MamElizabeth Howard Edit this on Wikidata
PriodMary Gertrude Vesey Edit this on Wikidata
PlantAuberon Herbert, Laura Herbert, Gabriel Herbert, Ann Herbert Edit this on Wikidata

Diplomydd, milwr, gwleidydd, a theithiwr o Sais oedd Aubrey Nigel Henry Molyneux Herbert (3 Ebrill 188026 Medi 1923).

Bywyd cynnar ac addysg[golygu | golygu cod]

Ganed Aubrey Nigel Henry Molyneux Herbert yng Nghastell Highclere, Hampshire, ar 3 Ebrill 1880, yn fab i Henry Herbert, 4ydd Iarll Caernarfon, a'i ail wraig Elizabeth neu Elisabeth Catharine. Ers ei flynyddoedd cynnar, dioddefodd Herbert o nam ar ei olwg. Aeth i Goleg Eton cyn iddo astudio hanes modern yng Ngholeg Balliol, Rhydychen. Derbyniodd radd dosbarth cyntaf o Balliol ym 1902.[1]

Gyrfa ddiplomyddol[golygu | golygu cod]

Wedi iddo adael y brifysgol, cafodd Herbert waith mygedol yn y llysgenhadaeth Brydeinig i Japan yn Tokyo. Ni chafodd erioed fawr o ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth y Dwyrain Pell. Ym Mawrth 1904 penodwyd Herbert i'r llysgenhadaeth Brydeinig i'r Ymerodraeth Otomanaidd yng Nghaergystennin, ac yno taniwyd ei ddiddordeb yn y Dwyrain Canol.[1]

Gyrfa wleidyddol[golygu | golygu cod]

Cystadlodd Herbert ddwywaith yn aflwyddiannus am sedd seneddol De Gwlad yr Haf, yn etholiadau cyffredinol Ionawr a Rhagfyr 1910, cyn iddo ennill yr etholaeth o'r diwedd mewn is-etholiad yn Nhachwedd 1911. Cafodd ei ail-ethol yn sgil ail-enwi'r etholaeth yn Yeovil ym 1918 ac eto ym 1922. Aelod o'r Blaid Geidwadol oedd Herbert nes iddo groesi'r siambr yn ystod "y bleidlais Wyddelig" ar 20 Tachwedd 1920. Tynnwyd y chwip Geidwadol oddi arno ac eisteddai yn annibynnwr am weddill ei oes.[1]

Teithiau a milwra[golygu | golygu cod]

Er gwaethaf ei safle seneddol, parhaodd Herbert i deithio yn fynych i wledydd y Balcanau a'r Dwyrain Canol. Bu'n cysylltu â phobloedd amrywiol, gan gynnwys banditiaid y mynyddoedd yn ogystal â deallusion a diwygwyr Caergystennin. Ymddiddorodd mewn gwleidyddiaeth Albania yn enwedig, a gweithiodd yn frwd dros achos y cenedlaetholwyr. Ym 1913 cynigwyd iddo orsedd Albania, ond gwrthwynebwyd y syniad gan y Prif Weinidog H. H. Asquith a'r Gweinidog Tramor Syr Edward Grey.[1]

Ar ddechrau'r Rhyfel Byd Cyntaf, dymunodd Herbert gwasanaethu yn y Fyddin Brydeinig ond roedd yn annhebygol o gael ei dderbyn oherwydd y nam ar ei olwg. Prynodd felly wisg is-lefftenant ac ymunodd â lluoedd y Gwarchodlu Gwyddelig wrth iddynt fynd ar fwrdd y llong i Ffrainc yn Awst 1914. Cafodd ei anafu yn ystod yr enciliad mawr wedi Brwydr Mons a'i ddal gan yr Almaenwyr am gyfnod cyn iddo lwyddo ffoi. Yn Rhagfyr 1914 anfonwyd Herbert i'r swyddfa gudd-wybodaeth yng Nghairo (a enwyd yn ddiweddarach yn y Biwro Arabaidd), ac yno cyfarfu â T. E. Lawrence. O ganlyniad i'w alluoedd yn yr ieithoedd Ffrangeg, Eidaleg, Almaeneg, Tyrceg, Arabeg, Groeg, ac Albaneg, bu Herbert yn swyddog cyswllt ac yn gyfieithydd yn ystod ymgyrch Gallipoli ym 1915, a threuliodd weddill y rhyfel yn asiant cudd ym Mesopotamia, Salonika, a'r Eidal. Mae'r cymeriad Greenmantle yn y nofel antur o'r un enw (1916) gan John Buchan yn seiliedig ar Aubrey Herbert.[1]

Wedi diwedd y rhyfel ac yn sgil cwymp yr Ymerodraeth Otomanaidd, bu Herbert yn hynod o weithgar wrth sefydlu gwladwriaeth annibynnol Albania. Yn Chwefror 1921, ar gais Syr Basil Thomson o Adran Arbennig yr Heddlu Metropolitan, teithiodd Herbert i'r Almaen i gwrdd yn gudd â Talaat Pasha, un o brif droseddwyr hil-laddiad Armenia.[1]

Bywyd personol a marwolaeth[golygu | golygu cod]

Priododd Aubrey Herbert â Mary Gertrude (1889–1970), unig blentyn John Vesey, 4ydd Is-iarll de Vesci, ar 20 Hydref 1910. Derbyniodd y gŵr a'r wraig ystâd Parc Pixton yng Ngwlad yr Haf ac eiddo yn Portofino, yng ngogledd yr Eidal, oddi ar fam Aubrey a thŷ 28 Stryd Bruton, Llundain, oddi ar fam Mary.[1] Cawsant dair merch, Gabriel Mary Hermione Herbert (1911–?), Anne Bridget Domenica Herbert (1914–2005), a Laura Laetitia Gwendolen Evelyn Herbert (1916–73), ac un mab, Auberon Mark Yvo Henry Molyneux Herbert (1922–74).

Gwaethygodd y nam ar olwg Herbert yn ystod ei flynyddoedd olaf ac erbyn diwedd ei oes bu bron yn gwbl ddall. Yn ystod aduniad colegol yn Rhydychen ym 1923, cafodd gyngor oddi ar ei hen diwtor, A. L. Smith, i wella'i olwg drwy dynnu dannedd. O ganlyniad, cafodd Herbert sepsis a bu farw ar 26 Medi 1923 yn 12 Stryd Beaumont, Llundain, yn 43 oed.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 (Saesneg) Auberon Waugh, "Herbert, Aubrey Nigel Henry Molyneux (1880–1923), diplomatist and traveller" yn Oxford Dictionary of National Biography (2006). Adalwyd ar 12 Ionawr 2021.