Y Gwarchodlu Gwyddelig

Oddi ar Wicipedia
Y Gwarchodlu Gwyddelig
Enghraifft o'r canlynolcatrawd, gwarchodlu troedfilwyr Edit this on Wikidata
Rhan oAdran y Gwarchodluoedd Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1 Ebrill 1900 Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Gwarchodluwyr Gwyddelig yn gorymdeithio i'r Senotaff yn Llundain, mewn gwasanaeth er cof am filwyr Gwyddelig.

Catrawd o droedfilwyr yn y Fyddin Brydeinig yw'r Gwarchodlu Gwyddelig (Saesneg: Irish Guards; IG) sy'n rhan o Adran y Gwarchodluoedd. Mae ganddi un fataliwn. Mae'r fyddin yn recriwtio Gwarchodluwyr Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a'r gymuned Wyddelig ym Mhrydain Fawr. Ni cheir hawl i recriwtio yng Ngweriniaeth Iwerddon, ond mae rhai dinasyddion Gwyddelig yn listio â'r gatrawd ar liwt eu hunain.

Sefydlwyd y gatrawd gan y Frenhines Fictoria ar 1 Ebrill 1900 i ddangos ei gwerthfawrogiad i filwyr Gwyddelig a ymladdodd yn Ail Ryfel y Boer.[1] Yr Arglwydd Roberts oedd cyrnol cyntaf y gatrawd, ac oddi arno ef daeth yr hen lysenw "Bob's Own".[2] Llysenw modern y Gwarchodlu Gwyddelig yw'r "Micks".[1][3]

Gwisg[golygu | golygu cod]

Y Gwarchodlu Gwyddelig, gan gynnwys pibyddion, yn Cyflwyno'r Faner yn 2012.

Mae'r wisg gyflawn yn dilyn patrwm y Gwarchodluoedd Troedfilwyr, sef ysgarlad gyda ffesin glas. Trefnir y botymau mewn grwpiau o bedwar, ac maent wedi eu stampio gyda symbol o delyn a choron. Gwisgir pluen las Sant Padrig ar ochr dde'r cap croen arth, a bathodyn coler gwyn mewn siâp meillionen ar y tiwnig ysgarlad.[1][2] Mae pibyddion yn gwisgo caubeen gwyrdd gyda phluen fer las, dwbled werdd, cilt o liw saffrwn, a sannau gwyrdd.[2]

Bathodyn cap y Gwarchodlu Gwyddelig

Mae cap y Gwarchodluwyr Gwyddelig yn las gyda band a gwaltas werdd.[2] Seren Urdd Sant Padrig, sy'n dangos meillionen yn ei chanol, yw'r bathodyn cap. Yn debyg i gatrodau troedfilwyr eraill yn Adran yr Osgordd, mae defnydd o'r bathodyn yn amrywio yn ôl rheng y milwr.[4]

Traddodiadau[golygu | golygu cod]

Conmeal, masgot y gatrawd, yn 2009.

Rhoddir meillionen i bob aelod o'r gatrawd ar Ŵyl Sant Padrig, sef 17 Mawrth. Gorchmynodd y Frenhines Fictoria y seremoni hon, a ddechreuwyd gan y Frenhines Alexandra ym 1901. Cyflwynodd Elisabeth y Fam Frenhines y feillionen pob blwyddyn o 1968 hyd ei marwolaeth. Mae'r Gwarchodlu Gwyddelig wedi paredio bleiddgi Gwyddelig, masgot y gatrawd, ers 1902. Enwir y bleiddgwn ar ôl penaduriaid hanesyddol Iwerddon.[5]

Anrhydeddau brwydrau[golygu | golygu cod]

Swyddog o'r Bataliwn 1af yn dal baner y gatrawd.
Milwr o'r Bataliwn 1af ym Mrwydr Basra, Ebrill 2003.
  • Y Rhyfel Byd Cyntaf: Mons, Enciliad Mons, Marne 1914, Aisne 1914, Ypres 1914 a 1917, Langemarck 1914, Brwydr Gheluvelt, Nonne Bosschen, Festubert 1915, Loos, Somme 1916 a 1918, Flers-Courcelette, Morval, Pilckem, Poelcapelle, Passchendaele, Cambrai 1917 a 1918, St. Quentin, Lys, Hazebrouck, Albert 1918, Bapaume 1918, Arras 1918, Scarpe 1918, Drocourt-Quéant, Llinell Hindenburg, Canal du Nord, Selle, Sambre, Ffrainc a Fflandrys 1914–18
  • Yr Ail Ryfel Byd:
    • Gogledd-orllewin Ewrop: Pothus, Norwy 1940, Boulogne 1940, Cagny, Mont Pincon, Neerpelt, Nijmegen, Aam, Y Rheindir, Hochwald, Y Rhein, Bentheim, Gogledd-orllewin Ewrop 1940 a 1944–45
    • Gogledd Affrica: Gwastadedd Medjez, Djebel bou Aoukaz, Gogledd Affrica 1943
    • Yr Eidal: Anzio, Aprilia, Carroceto, Yr Eidal 1943–44
  • Al Basrah 2003, Iraq 2003

Catrodau cynghreiriol[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Chant, Christopher. The Handbook of British Regiments (Llundain, Routledge, 1988), t. 81.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 66.
  3. McMahon, Sean ac O'Donoghue, Jo. Brewer's Dictionary of Irish Phrase and Fable (Llundain, Weidenfeld & Nicolson, 2004), t. 541.
  4. Ward, Arthur. British Army Cap Badges of the Twentieth Century (Ramsbury, The Crowood Press, 2007), t. 68.
  5. Griffin, t. 68.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: