Pluen fer

Milwyr y Gatrawd Wyddelig Frenhinol yn gwisgo caubeens ar eu pennau gyda phlu byrion gwyrddion.
Mae nifer o luoedd milwrol yn gwisgo pluen fer (Saesneg: hackle) ar eu penwisg fel rhan o'u gwisg filwrol. Gall plu toredig ffurfio siobyn bychan, neu ellir clymu nifer o blu byrion i wneud pluen hir.[1] Yn y Fyddin Brydeinig heddiw gwisgir plu byrion ar berets y ffiwsilwyr, bonedau'r catrodau o Ucheldiroedd yr Alban, a caubeens y catrodau Gwyddelig.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
