Bleiddgi Gwyddelig
Jump to navigation
Jump to search
Bleiddgi mawr sy'n tarddu o Iwerddon yw'r Bleiddgi Gwyddelig (Gwyddeleg: Cú Faoil). Datblygodd y brîd hwn er mwyn hela bleiddiaid a rhyfela, ond heddiw anifail anwes poblogaidd ydyw.
Mae'r Gwarchodlu Gwyddelig wedi paredio bleiddgi Gwyddelig, masgot y gatrawd, ers 1902. Enwir y bleiddgwn ar ôl penaduriaid hanesyddol Iwerddon.[1]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]
- ↑ Griffin, P. D. Encyclopedia of Modern British Army Regiments (Thrupp, Sutton, 2006), t. 68.