Brwydr Ffrainc

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Milwyr Almaenig yn gorymdeithio heibio'r Arc de Triomphe wedi ildiad Paris, 14 Mehefin 1940

Goresgyniad Ffrainc, yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, a Lwcsembwrg gan luoedd yr Almaen yn yr Ail Ryfel Byd oedd Brwydr Ffrainc. Dechreuodd ar 10 Mai 1940 a daeth â therfyn i'r Rhyfel Ffug. Bu dwy brif ymgyrch i'r frwydr. Yn yr ymgyrch gyntaf, Achos Melyn (Fall Gelb), symudodd lluoedd yr Almaen trwy'r Ardennes, i ynysu ac amgylchynu lluoedd y Cynghreiriaid yng Ngwlad Belg. Yn ystod y brwydro, achubwyd y Fyddin Alldeithiol Brydeinig (BEF) a nifer o filwyr Ffrengig o Dunkirk yn Ymgyrch Dynamo.

Yn yr ail ymgyrch, Achos Coch (Fall Rot), o 5 Mehefin ymlaen, gorystlysodd lluoedd Almaenig Llinell Maginot a symudasant ymhell i mewn i diriogaeth Ffrainc. Gwnaed datganiad rhyfel gan yr Eidal yn erbyn Ffrainc ar 10 Mehefin a symudodd llywodraeth Ffrainc i ddinas Bordeaux. Meddiannwyd y brifddinas Paris ar 14 Mehefin. Tridiau'n ddiweddarach datganodd Philippe Pétain y byddai Ffrainc yn gofyn am gadoediad. Ar 22 Mehefin, arwyddodd Ffrainc a'r Almaen gadoediad, a ddaeth i rym ar 25 Mehefin. Roedd yr ymgyrch yn fuddugoliaeth hynod i Bwerau'r Axis.

Rhannodd Ffrainc yn rhanbarth a feddiannwyd gan yr Almaen yn y gogledd a'r gorllewin a rhanbarth bach a feddiannwyd gan yr Eidal yn y de ddwyrain, a rhanbarth na chafodd ei feddiannu, y zone libre, yn y de. Gweinyddodd ôl-wladwriaeth Llywodraeth Vichy y tri rhanbarth hyn yn ôl termau'r cadoediad. Yn Nhachwedd 1942, meddiannodd lluoedd yr Axis y zone libre yn ogystal, a bu Ffrainc fetropolitanaidd dan feddiannaeth yr Axis nes glanio'r Cynghreiriaid ym 1944. Arhosodd yr Iseldiroedd, Gwlad Belg, a Lwcsembwrg dan feddiannaeth yr Almaen tan 1944 a 1945.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: ôl-wladwriaeth o'r Saesneg "rump state". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.