Wicipedia:Y Caffi: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
GerardM (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1,151: Llinell 1,151:


:Cytuno'n llwyr. (A dweud y gwir, mi gredais ei fod eisioes yn weinydwr!) [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 23:43, 11 Chwefror 2009 (UTC)
:Cytuno'n llwyr. (A dweud y gwir, mi gredais ei fod eisioes yn weinydwr!) [[Defnyddiwr:Llywelyn2000|Llywelyn2000]] 23:43, 11 Chwefror 2009 (UTC)

==Translatewiki.net update==
* [http://translatewiki.net Translatewiki.net] formerly known as Betawiki is where the Internationalisation and Localisation of MediaWiki is concentrated. Over 300 languages are supported, issues with MediaWiki programs are dealt with. We need all the help we can get to ensure that we can maintain this service in the face of an increasing workload.

*Currently 92.91% of the MediaWiki messages and 15.10% of the messages of the extensions used by the Wikimedia Foundation projects have been localised. Please help us help your language by localising and proof reading at [[betawiki:Special:LanguageStats/{{CONTENTLANGUAGE}}|Betawiki]]. This is the [http://translatewiki.net/w/i.php?title=Special:RecentChanges&translations=only&trailer=/{{CONTENTLANGUAGE}} recent localisation activity] for your language. Thanks, [[Defnyddiwr:GerardM|GerardM]] 13:59, 13 Chwefror 2009 (UTC)

Fersiwn yn ôl 13:59, 13 Chwefror 2009

Coffi
Coffi

Croeso i Gaffi y Wicipedia Cymraeg. Dyma dudalen i chi ofyn cwestiynau ynglŷn â Wicipedia, yn Gymraeg neu Saesneg, a bydd rhywun yn trio rhoi ateb i chi. Os yw'r cwestiwn yn un ieithyddol, ewch â hi draw i Wicipedia:Cymorth iaith os gwelwch yn dda.

I ychwanegu cwestiwn, cliciwch yma i ddechrau pennawd newydd, a teipiwch eich neges. Cofiwch lofnodi'r neges drwy ychwanegu pedair tilde (~~~~) ar y diwedd, os gwelwch yn dda.

Welcome to Welsh Wikipedia's Cafe. This is a page for you to ask questions about Wikipedia, in Welsh or English, and someone will try to answer you. If you need help on Welsh language usage, please ask in Wicipedia:Cymorth iaith. See also the learners' corner.

To pose a question, click here to start a new section, and type your message. Remember to sign your message with four tildes (~~~~) at the end, please.

Archifau'r Caffi __


Betawiki update

Amlygrwydd

Ga'i dynnu sylw at y cwestiwn gododd Ben Bore am yr erthygl am Annette Strauch? Mae'r drafodaeth ar fy nhudalen sgwrs. Anatiomaros 18:58, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Ond efallai ei bod hi'n well rhoi o yma:
Dw i'n siwr mai Annette ei hun sydd wedi ysgrifennu'r erthygl yma. Mae hi wedi cyflawni llawer mwy na fi yn ei bywyd, ond dwi ddim yn siwr os yw bod ag MA yn ddigon i fod ag erthygl amdani ar Wicipedia. Mae hi'n amlwg yn frwd iawn dros Gymru a'r Gymraeg a hoffwn i ddim ei phechu - dyna pam dwi'n pass the buck ac yn codi'r peth fan hyn! Yn amlwg does dim rhaid i ni gadw atyr un canllawiau notability â'r wici Saesneg, ond ble mae bennu llinell?--Ben Bore 10:12, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Ia, roeddwn i'n amau fod rhywbeth reit od am yr erthygl - llawer gormod o fanylion "personol" ac ati. Dwi'n cyfadde hefyd yr oeddwn, fel ti, yn amheus am "amlygrwydd" Annette (gyda phob parch iddi). Lle mae tynnu'r llinell, dyna'r cwestiwn. Ac os ydy'n wir mai hi ei hun a ysgrifenodd yr erthygl a ydy hynny'n dderbyniol? Go bron brin bod hi'n erthygl ddiduedd felly. Wnes i ddim gwneud llawer o ddiwygio ar yr erthyl ar y pryd, jest rhoi'r categoriau ac ambell beth arall, ond dydy'r arddull ddim yn wrthrychol, a deud y lleia. Wn i ddim be dy'r gorau i wneud, ei chadw neu ei dileu? Rydym ni angen erthyglau yn sicr, ond ydy hynny'n rheswm dros dderbyn safonau is na'r disgwyl? Mae'r un peth yn wir am rai o'r erthyglau am gerddorion a bandiau Cymraeg hefyd, ond o leia mae 'na siawns bydd rhywun wedi clywed amdanyn nhw yn y lle cyntaf. Hyd y gwelaf i dydy hi ddim wedi cyhoeddi llawer, jest gwneud gwaith ymchwil, ac mae 'na ddwsinau o bobl tebyg yn y wlad 'ma. Bw wnawn ni felly? Dwi mewn tipyn o benbleth am hyn ac felly dwi am "basio'r byc" fel ti a rhoi nodyn yn y Caffi yn cyfeirio at ein trafodaeth bach yma, yn y gobaith bydd gan rywun arall farn am hyn. Anatiomaros 18:55, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Rydw i braidd yn amheus hefyd. Ydi hi wedi cyhoeddi rhywbeth? Mae hi'n eithaf amlwg ar Google, ond blogiau a phethau tebyg ydyn nhw. Rhion 20:45, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn gwybod a ydyw hi wedi cyhoeddi unrhyw beth o gwbl. Dim llyfr o leiaf; erthyglau efallai. Dwi'n tueddu i feddwl mai tipyn o hunan-gyhoeddusrwyd yw hyn yn y bôn. Mae 'na lawer o academyddion mwy amlwg heb erthyglau amdanynt, a buasech chi'n disgwyl i rywun fod yn adwur un llyfr safonol adnabyddus o leiaf i haeddu erthygl mewn gwyddoniadur. Anatiomaros 20:56, 26 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Dylwn fod wedi codi'r peth yma yn y lle cyntaf. Fy rheswm dros beidio oedd achos dwi wedi bod mewn cyswllltiad âg Annette dros y we ynglŷn a rhywbeth arall (ni'n dau yn flogwyr a defnyddiwyr gwefan o'r enw QYPE), felly teimlais braidd yn lletwith yn codi'r peth. Byddw'n i'n cynnig ei ddileu, neu fe allai greu cansail i eraill wneud rhywbeth tebyg. O ran bandiau Cymraeg - mae hwn yn annoddach fyth. Roeddwn am gynnig bod ymddangosiad ar Bandit, neu cael cân ar Radio Cymru efallai'n ffon fesur o amlygrwydd - ond eto (a dwi'n ffan mawr o fandiau Cymraeg bach a mawr), gall unrhywun bron ddechrau boand Cymraeg a bod ar y radio o fewn 6 mis! - sori os ydy hynny'n swnio'n greulon.--Ben Bore 09:50, 27 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno nad yw'r erthygl ar Annette Strauch yn egluro pam ei bod hi'n ddigon nodedig i haeddu erthygl amdani ar Wicipedia. Beth am gynnwys nodyn tudalen amheus ar yr erthygl a rhoi cyfle (gwedwch mis) i'r cyfrannwr, neu rywun arall, i ychwanegu tystiolaeth o amlygrwydd A Strauch i'r erthygl neu i'r dudalen sgwrs. Os oes ‘tystiolaeth’ yn cael ei ychwanegu ond bod amheuaeth a ydy e’n ddigonol gallem gynnal pleidlais dros y cynnig i ddileu.
Ar yr un pryd byddai'n werth i ni fynd ati, fel yr awgryma Ben Bore, i ddatblygu polisïau a chanllawiau ar ddileu erthyglau a'u cyfuno ac ar benderfynu a ydy rhywbeth yn ddigon nodedig ar gyfer Wicipedia. Ynta’ y bydd ein polisïau a’n canllawiau ni yn ddigon tebyg i’r rhai ar wiciau eraill ond eu bod efallai yn rhoi ystyriaeth i’r ffaith ein bod yn griw bach o olygwyr yma ar Wicipedia, ac hefyd bod yr hyn sydd o ddiddordeb i siaradwyr un iaith ddim o reidrwydd yr un mor ddiddorol i siaradwyr iaith arall.
Da gweld pwnc amlygrwydd y bandiau Cymraeg yn cael ei godi eto. Dwi’n cynnig y canlynol:
  • Dechrau tabl y bandiau a’r cantorion unigol sy’n canu yn Gymraeg. Gallem gael un tabl ar gyfer pawb o’r bandiau a’r cantorion unigol neu eu rhannu’n dablau llai yn ôl math y gerddoriaeth (canu gwlad, canu gwerin, roc, opera, ayb). Yn wahanol i’r canllaw ar Wikipedia, ni byddai’n rhaid dangos bod y band yn nodedig cyn ei roi yn y tabl. Petai amheuaeth ai ffug yw rhyw fand yn y tabl gallem holi am gyfeiriad at ffynhonnell sy’n sôn am y band. Beth am roi’r wybodaeth canlynol yn y tabl:
    • Enw’r band/canwr ac enwau’r aelodau mewn rhestr o dan enw’r band
    • Os mai un tabl ar gyfer pob math o fand fydd, yna’r math o gerddoriaeth
    • Dyddiad ffurfio’r band
    • Dyddiad gorffen y band
    • Cyswllt at wefan y band?
    • Nodiadau ychwanegol
  • Os am greu rhestr y bandiau Cymraeg yna gallem ystyried creu rhestr o fandiau a chantorion o Gymru sy’n canu yn Saesneg (neu ieithoedd heblaw Cymraeg), yn unig.
  • Gosod canllaw ar gyfer creu erthygl ar ryw ganwr neu fand. Mae rhai syniadau gennyf am amodau y gallem eu gosod, a bod angen i fand gyrraedd o leiaf un o’r amodau cyn cael erthygl amdanynt:
    • Bod band wedi cyhoeddi o leiaf (gwedwch) 2 CD/LP. O bosib gallem gyfyngu’r amod hwn ymhellach drwy osod amod bod angen bod adolygiadau o un o’r CDs wedi ymddangos yn y wasg genedlaethol.
    • Bod adolygiadau o gigs y band wedi ymddangos yn y wasg genedlaethol a bod y band/canwr wedi bod yn perfformio am rhagor na dwy flynedd.
    • Bod y band/canwr yn ymddangos mewn bywgraffiadur (ond nid cyfeiriadur).
    • Bod y band/canwr yn cael eu cydnabod yn ddylanwad ar bobl eraill (e.e. Meic Stephens am ei ddylanwad ar gerddorion eraill, Dafydd Iwan am ei ddylanwad politicaidd).
    • Bod y band/canwr yn cael eu trafod mewn erthyglau, mewn llyfrau, mewn rhaglenni teledu, ayb. Nid yw hyn yn cynnwys cyfeiriadau atynt wrth fynd heibio.
    • Os yw’r tystiolaeth ysgrifenedig yn brin, neu ei bod hi’n anodd cael gafael ar gyfeiriadau ysgrifenedig, yna bod cytundeb deg (gwedwch) o gyfranwyr â chyfrifon ganddynt ar Wicipedia, bod y band yn nodedig.
    • Bod y band/canwr wedi ennill gwobr nodedig. Ni fyddai hyn yn cynnwys gwobrau eisteddfodau lleol, eisteddfod yr Urdd na gwobrau ar gyfer newydd-ddyfodiaid.
  • Rhoi nodyn 'nodedig?' ar dudalennau’r bandiau di-nod sydd ar Wicipedia eisoes, fel ag a ddisgrifir isod. Ar y rhai na fydd yn cyrraedd y safon 'nodedig' gallem droi'r tudalen yn dudalen ail-gyfeirio at y tabl bandiau. Petai'r band yn datblygu i fod yn nodedig yn y dyfodol, digon rhwydd creu erthygl amdanynt eto.

Mae canllaw Wikipedia yn trafod nad yw poblogrwydd nac enwogrwydd ar eu pennau eu hunain yn ddigon i gyrraedd y safon ‘nodedig’ ar gyfer cynnwys pobl yn Wikipedia. Mae hefyd yn trafod bod angen defnyddio synnwyr cyffredin wrth drafod hyn oll. Rwy’n cynnig bod ein canllaw ninnau’n cynnwys hyn.

Os y gwnawn ddatblygu rhyw system tebyg i’r hyn a drafodir uchod yna rwy’n cynnig y gallem ddefnyddio nodyn tebyg i’r nodyn a ddefnyddir ar Wikipedia i nodi bod amheuaeth a yw erthygl yn ddigon nodedig i’w gynnwys ar Wicipedia. Gallem roi cyfnod penodedig i ychwanegu tystiolaeth bod erthygl yn cyrraedd y safon o fod yn ‘bwnc nodedig’. Os cwyd anghydfod gallem gynnal pleidlais ar y dudalen ‘Tudalennau amheus’ ynglŷn â’r erthygl.

Lloffiwr 21:51, 28 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]

Dw i'n meddwl yn sicr bod angen creu nodyn 'nodedig?/amheuaeth amlygrwydd', ac yna ei osod ar dudalen A Strauch (ac un neu ddau arall mae'n siwr). Mae'r syniad rhestru bandiau yn syniad da, ac mae'r meini prawf uchod ar gyfer creu erthygl am artist/fand wedyn yn swnio'n rhesymol. Mae erthygl Bandiau ar ffurf rhestr (cymysgedd o Cymraeg, Cymreig a rhyngwladol), categori Bandiau Cymreig (canu'n Gymraeg a Saesneg) ac erthygl Rhestr cantorion enwog (Cymraeg, Cymreig a rhyngwladol) i gyd yn bodoli'n barod, fyddai eisiau cael gwared neu uno rhai o'r rhain efallai?
Gol. Hefyd, dylai na fod polisi am hunan-gyhoeddusrwydd? Dwi'n siwr bod yr erthygl Paul Griffiths wedi ei ysgrifennu gannodo fo ei hun. Er, mae'n debyg iddo fod wedi cyflawni tipyn, ac mae hefyd mae wedi cyfrannu tipyn o erthyglau eraill.--Ben Bore 08:26, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Yn fy marn i, bydd yn dda iawn greu polisi addas, ond does dim rhaid ddisgwyl tan fydd y polisi wedi ei berffeithio yn lawn cyn gwneud rhywbeth gyda'r erthygl. Rhaid jest defnyddio'r nodyn sy gyda ni eisoes, a symud neu gopio'r drafodaeth hon i Wicipedia:tudalennau amheus. Alan012 18:14, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
P.S. (a sori am y Saesneg) - re Paul Griffiths, there is no doubt at all. See his blog - note the URL and his username. Alan012 19:29, 30 Mehefin 2008 (UTC)[ateb]
Cafodd pedair dolen gwe am Annette Strauch eu dympio uchod yng nghanol y drafodaeth, heb nodyn o esboniad. (dyma nhw, wedi'u tacluso: "[1]; [2]; [3]; [4]; [5] a.y.y.b."). Hyd y gwelaf i dydyn nhw'n profi ddim byd ond bod Annette Strauch wedi gwneud gwaith ymchwil/archifio. Dwi'n digwydd nabod sawl person sydd wedi gwneud gwaith o'r fath, ond dwi'n siwr buaswn i ddim yn brifo eu teimladau taswn i'n deud bod nhw ddim yn haeddu erthygl yma am nad ydynt yn ddigon "amlwg". Anatiomaros 18:40, 19 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]


Nifer y Defnyddwyr = ymgyrch am nawdd?

Oes 'na ddata wedi'i gasglu dros y blynyddoedd diwetha ynglŷn â niferoedd defnyddwyr Wici Cym?

Yn ail, Oni ddylai'r brifysgol / Bwrdd yr Iaith ayb gyflogi Anatiomaros, Rhion, Alan, Deb, Lloffiwr ayb i wneud hyn yn broffesiynol? Mae Wici am ddim i'r byd mawr crwn ond mae'r Gwyddoniadur diweddar yn gyfyng ei wybodaeth a'i apêl... ac yn £75!!! Llywelyn lll 21:43, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Mae 'na restr o ddefnyddwyr cofrestredig yn y Tudalennau arbennig (gwaelod y blwch offer ar y chwith <<<<). Siwr gen i fod na ystadegau ar gael trwy metawici neu yn ein meddalwedd ni hefyd. Buasai'n braf yn wir tasai'n bosibl cael un o'n cyrff mawr i dalu rhai o ni am wneud y gwaith, ond yn anffodus dwi ddim yn meddwl fod hynny'n debyg o ddigwydd (buasai yn erbyn rheolau'r wicipedia hefyd). Ar y llaw arall mae pawb yn rhydd i gyfrannu'n ariannol i'r wicipedia.... Gair bach yng nghlust pwy bynnag sy'n rhedeg y Bwrdd Iaith erbyn hyn? A dwi'n cytuno'n llwyr am y Gwyddoniadur Cymreig, er ei fod yn braf gweld cyhoeddiad o'r fath dydi hi ddim fel tasa ni'n brin o ddeunydd academaidd am Gymru - beth am BOPETH ARALL? (gweler hefyd fy "rant" bach uchod yn yr adran am gyhoeddusrwydd ayyb!). Ond fel 'na mae hi yng Nghymru bach, mae'n debyg. Anatiomaros 22:03, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diddorol. Tua 2000 wedi trafferthu i gofrestr fel defnyddiwr! Faint sydd wedi darllen / defnyddio Wici felly? Pum gwaith gymaint? Mi af am dro i chwilio. Yn y cyfamser efallai y dylai'r Academi ddefnyddio Wici i ryddhau'r testun gyda grant gan Y Loteri Genedlaethol, Y Cyngor Celfyddydau fel yr awgrymi - i Wici. A grant arall i'w farchnata yn y Steddfod, ar y teledu ayb (gweler uchod). Llywelyn lll 22:26, 21 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
O feddwl cyn lleied sy'n cyfrannu, dw i'n amau pa mor gywir ydy'r ffigwr aelodau cofrestredig, a'i botiau ydy nifer sylweddol ohonynt dybed? Sgwn i oes modd gweld faint o wahnol ddefnyddiwyr (cofrestredig neu beidio, ac eithrio botiau) sy'n gwneud golygiadau pob mis.
Efallai bod modd clymu sefydliadau addysg mewn i'r peth heb fynd yn groes i reolau talu am olygu.
  • Er mai prinder erthyglau yn yr iaith sydd yn hytrach nag am yr iaith, dw i'n meddwl byddai'n syniad holi pob adran Gymraeg/Hanes Cymru prifysgolion Cymru a gofyn beth am grybwyll i'w myfyrwyr eu bod yn cyfrannu o leaif un erthygl at y Wici Cymraeg yn seiliaedig ar eu gwaith cwrs
  • Soniodd athro TG wrthai ('Duw' ar maes-e) ei fod yn ystyried gosod erthygl ar wicipedia (ar bwnc fel gwyddoniaeth/daearyddiaeth) fel rhan o waith cwrs myfyrwyr 6ed dosbarth, gany byddai'n ticio sawl blwch (TG, iaith Cymraeg + pwnc dan sylw)
  • Gan bod prinder adnoddau dysgu yn Gymraeg, beth am ofyn i CBAC neu aelodau UCAC i weld os oes mod cyd-lynu ehangiad erthyglau/erthyglau newydd yn ymwneud â beth sy'n cael eu dysgu (gwyddoniaeth, hanes, daearyddiaeth ayyb). Efallai gelli'r cael slot mewn cynhadledd neu rhywbeth?
Y gamp cyntaf yw dod o hyd i rhywun yn y sefydliadau hyn fyddai'n gweld a deall gwerth y peth yn gyntaf, ac iddyn nhw wedyn berswadio aelodau eraill o'u seydliadau.--Ben Bore 10:09, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am yr awgrymiadau adeiladol, Ben Bore. Rwyt ti'n iawn am y ffigurau am gyfranwyr cofrestredig; mae nifer yn dod yma ac yn cofrestru ond am ryw reswm neu'i gilydd yn cyfrannu dim wedyn ac mae 'na fots a phobl o wicipedau iaith eraill hefyd (dod yma i roi dolenni ayyb, heb fedru Cymraeg). Y gwir ydyw does gennym ni ddim byd llawer i'w frolio ar hyn o bryd am nifer y cyfranwyr, ond y posibiliadau sy'n bwysig. Dwi'n meddwl ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae'r sylfeini wedi eu gosod yn bur gadarn, ond rwan mewn gwirionedd y mae'r gwaith go iawn yn dechrau. Yn anffodus dwi ddim yn nabod neb yn bersonol a allai helpu yn y cyfeiriadau uchod, h.y. sy'n aelodau dylanwadol o gyrff addysg ayyb. Wyt ti'n nabod rhywun? Fyddet ti'n fodlon cysylltu ag un o'r sefydliadau, fel athrawon.com, ar ran y wicipedia? Braf gweld y drafodaeth yma'n datblygu a gobeithio y daw rhywbeth ohoni. Ar lefel fwy syml, beth am bob un ohonom ni ysgrifennu llythyr byr at ei bapur bro lleol yn deud beth ydy'r wicipedia ac annog cyfraniadau? Mae pob cyhoeddusrwydd, mawr a bach, yn faen i'r wal. Anatiomaros 16:40, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Gadewch i ni wneud dau beth: 1. Cyd-lunio llythyr addas ag gyfer y cyrff. 2. Rhanu'r gwaith fel a ganlyn (newidiwch y tabl!!!):



Corff Gwirfoddolwr Canlyniad / Adborth]])
Papurau Bro Llywelyn2000 ____
Arall ____ ____
Arall ____ ____
UCAC Ben Bore ____
Awdurdodau Addysg ____ ____
Yr Eisteddfod Genedlaethol ____ ____
Loteri Cenedlaethol ____ ____
Canolfan Bedwyr ____ ____
Eisteddfodau Lleol Lloffiwr ____

Llywelyn lll 23:00, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Dyma'r dudalen ystadegau am Cy:Wicipedia ar y safle ystadegau - [6]. Mae modd mynd atynt trwy bwyso ar y rhif erthyglau yn y paragraff cyntaf ar 'Hafan', a dilyn y cyswllt at y safle ystadegau. Byddai'n gret petai rhywun i gael a chwant ail-wampio'r dudalen Wicipedia:Ystadegau_Wicipedia_Cymraeg arno - mae cyswllt at hwn o'r adran 'Cymorth a Chymuned' ar 'Hafan'. Lloffiwr 20:23, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Rwyn credu bod y syniad o gyhoeddi Gwyddoniadur Cymru ar Wicipedia yn non-starter llwyr oherwydd yr hawlfraint ar y cynnwys. Am y syniad o gael gweithwyr proffesiynol ar Wicipedia Cymraeg, rwyn ategu'r hyn a ddwedodd Anatiamaros, bod hyn yn mynd yn erbyn ysbryd gwirfoddol wici. Fe gafwyd system bounty am rai misoedd ar Betawiki er mwyn hyrwyddo cyfieithu'r rhyngwyneb i ieithoedd llai eu defnydd yn y trydydd byd - ar gyfer ieithoedd heb lawer o adnoddau ysgrifenedig a chymunedau tlawd oedd hwn. Fe fyddai yn siwr o fod yn syniad da i gysylltu â Chanolfan Bedwyr wrth weithio ar y rhyngwyneb - mae hyn wedi bod ar fy meddwl ers tro - rwyf wedi cael trafferth yn ymuno â'r rhwydwaith WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCmail - ac heb gael amser i fynd ati i sorto hwn - popeth yn ei dro fydd raid. Am y gwahanol ffyrdd o hybu cyfrannu at Wicipedia - beth am gynnig testun i eisteddfodau lleol - creu erthygl ar bwnc o ddiddordeb lleol - ar ba bynnag ffurf sy'n gyfleus (ar bapur, ar ffeil Word)? Rwyn bwriadu cysylltu â threfnwyr yr eisteddfod lleol i mi. Lloffiwr 20:58, 22 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Wel dyna ddiddorol ydy'r dudalen ystadegau! Beth mae'n ei ddangos? - Fod Wicipedia'n tyfu o nerth i nerth. Gwych! Chydig o farchnata rwan! ac ymlaen!
Rwyn bwriadu cysylltu â threfnwyr yr eisteddfod lleol i mi. O ran gwybodaeth, dw i newydd sylwi ar raglen Eisteddfod Genedlaethol 2008 bod cystadleuaeth llenyddol [Cofnod] Blog (hyd ar 200 o eiairau), gyda gwobr o £200! Beirniadaeth dydd Mercher.--Ben Bore 07:50, 25 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

(ailosod y marjin!) Am daflu rhyw ddwy geiniog bach i fewn...

  • Rydw i wedi bod yn llawer fwy gweithgar ar y wicipedia Saesneg na'r un Gymraeg, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Roedd yn haws o lawer i mi ddysgu'r grefft o ymchwilio, amgodio, ac addasu pethau ar honno, gan fod cymaint mwy o cyfraniadau a strwythur yno'n barod. Erbyn dechrau'r haf ro'n i wedi 'cwblhau' fy mhrosiect mawr cyntaf, sef datblygu erthygl w:cy:Anglesey Central Railway ers mis Rhagfyr, hyd at gydnabyddiad 'Erthygl Da'. A heno (wedi bod ar wyliau) dwi wedi dechrau ar ei gyfieithu i'r Gymraeg (rhyw chwarter wedi ei wneud hyd yn hyn). Y drafferth mwyaf y gwelaf gyda cyfrannu at y wicipedia Cymraeg yw'r absenoldeb o erthyglau eraill i gysylltu â, a'r unig ateb i'r broblem yma yw i'w sgwennu nhw. Felly dyma addewid personol i dynnu fy mys allan a dechrau sgwennu!
  • O ran geiriaduron eraill, mae'n hollol anghyfreithiol i gopio'r Gwyddoniadur Cymraeg yma neu Wyddoniadu Mawr y Plant), ond mae'n berffaith dderbyniol i'w aralleirio neu ei ddyfynnu (ond rhaid bod yn ofalus tra'n aralleirio: mae angen ail-sgwennu'r ffeithiau yn dy eiriau dy hun a dyfynnu'r ffynhonell i osgoi plagarism (methu cofio'r Gymraeg, a diffyg egni i godi a nôl geiriadur).
  • Marchnata? Mae na Eisteddfod Genedlaethol mawr yn ymlwybro i Gaerdydd ymhen rhyw bythefnos. Allem ni ddim fforddio stondin, ond mae modd codi posteri ar y maes. Mae logo wicipedia mewn lliwiau hwylus ar gyfer argraffu du a gwyn, a fyddai'n eithaf rhad i wirfoddolwr brwdfrydig eu hargraffu. Gallai pawb gyfrannu at ddylunio posteri, ac os oes pobl fyddai'n fodlon papuro'r maes yn ystod y penwythnos gyntaf, fe fyddai ymwybyddiaeth yn codi'n syfrdanol. Gallem greu pamffledi neu flyers bychain, a gofyn i stondinau caredig fel Bwrdd/Cymdeithas yr Iaith a.y.y.b. os y byddent yn fodlon i ni roi rhai ar eu byrddau. Mae gen i rhai syniadau ar gyfer dyluniadau, ond mae hi'n rhy hwyr heno i wneud llawer rwan.

English summary:

  • I found it easier to learn 'wikicraft' on the English wikipedia, but I promise to pull my weight here now.
  • We can always quote other encyclopaedias, just not copy them.
  • Some posters and flyers would be ideal for the upcoming National Eisteddfod

Ansbaradigeidfran 22:54, 24 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Helo. Rwy'n rhan o dîm bach sy'n gobeithio ymchwilio, yn ystod mis Awst, i rannu rhywfaint o'r cynnwys digidol sy'n perthyn i Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Un o'r ffyrdd o wneud hyn yw trwy rannu rhai o'n delweddau a ddigidwyd ag erthyglau perthnasol ar Wikipedia a Wicipedia. Byddwn yn ddiolchgar iawn petaech yn anfon unrhyw adborth atom, felly mae croeso i chi bicio draw at ein tudalen 'Defnyddiwr' er mwyn gweld mwy o wybodaeth am y prosiect neu adael sylwadau ar y dudalen Sgwrs. Diolch! Llyfrgell Genedlaethol Cymru 09:32, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]

Syniad ardderchog : byddai'n hwb mawr i waith y wicipedia Cymraeg. (Gweler hefyd eich Tudalen Sgwrs). Anatiomaros 14:58, 31 Gorffennaf 2008 (UTC)[ateb]
Fedrith rhywun ddweud wrthyf ym mhle mae dod o hyd i'r hen luniau yma? Dwi wedi edrych ymlaen cymaint i'w gweld nhw, ond a ydyw'r Llyfrgell wedi dal at eu gair a'u rhannu ar Wicipedia? Byddai'n wych eu cael a'u defnyddio fel rhan o'n gwersi hanes. Diolch. Yn siomedig ond eto yn hyderus, RWJ.
Mi osodais rhai mewn categori arbennig Categori:Delweddau o gasgliad John Thomas, ond ynglyn â'u defnydd fel rhan o wersi hanes, bydda rhaid gofyn i'r Llyfrgell am ganitad penodol dw i'n meddwl, yn ôl proffeil y llyfrgell (ar y gwaelod). Fel arfer, mae popeth sy'n cael ei cynnwys ar Wikipedia a Wicipedia ar gael ei bawb eu defnydido heb unrhyw gyfyngiadau, ond bu rhaid cael trwydded hawlfriant newydd er mwyn i'r Llyfrgell allu rhannu eu delweddau. Er bod hyn yn gores i ysbryd Wicipedia, cerdi'r ei bopd yn syniad da fel arbrawf er mwyn caniatau i'r Llyfgrell fynd ymlaen gyda'r prosiect peilot yma.--Ben Bore 16:42, 9 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Y ffurflen uwchlwytho ffeiliau

Roedd y blwch gosod y trwydded cyhoeddi'r ffeil ar Wicipedia yn eisiau ar y ffurflen uwchlwytho ffeil. Rwyf wedi ychwanegu'r blwch gan ddefnyddio'r opsiynau ar Wikipedia Saesneg yn fan cychwyn i ni. Dyma roi cyfle felly i drafod a oes angen newid yr opsiynau hyn arnom. Lloffiwr 20:09, 2 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Alla i ddim gweld bod eisiau newid yr opsiynnau.--Ben Bore 08:49, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Nid oes amser wedi bod gennyf i fentro defnyddio’r ffurflen uwchlwytho fy hunan felly rwyn amau bod yna bethau eraill i’w gwneud cyn y bydd yn gweithio’n iawn. Rwyn amau bod y nodiadau i roi’r trwyddedi ar y dudalen gwybodaeth am ffeil ar gael. A all rywun fynd ati i greu’r nodiadau sydd angen? Y nodyn ar gyfer defnyddio ar Wicipedia’n unig yw’r un sydd ei angen ar fyrder (gweler Sgwrs Defnyddiwr:Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Os caf wybod teitlau’r nodiadau gallaf newid y neges sy’n rhoi’r dewisiadau yn y blwch gosod y drwydded ar y ffurflen uwchlwytho ffeiliau i gyfateb â’r teitlau hyn. Er mwyn osgoi damsgen ar (Gog:sathru) draed ein gilydd gallwch roi gwybod fan hyn pa nodyn yr ydych yn gweithio arno. Os oes nodiadau i gael yn barod rhowch wybod.
Bydd angen cyfieithu’r gwahanol drwyddedi i’r Gymraeg fesul dipyn hefyd. Oes rhywun am roi cynnig ar rai ohonynt? Lloffiwr 17:26, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Wedi ychwanegu'r blwch offer golygu - y nodau arbennig - at waelod y ffurflen uwchlwytho. Lloffiwr 19:11, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Sori am gwyno, ond yn anffodus, nawr pan ydych yn golygu tudalen, mae'r blwch offer yn rhy bell o'r blwch golygu - rhaid sgrolio i lawr wedi'r neges hawlfraint bob tro i fewnosod llythyren gydag acen. Alan 19:22, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Beth am hyn? Alan 19:31, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Yn cefnogi gwelliant Alan012. Lloffiwr 19:56, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Diolch. Dw i wedi lleihau nifer o lythyrennau yn y blwch uchaf, ond croeso i ddadwneud honno os dydy hi ddim yn ei wella. Alan 20:01, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Mae angen y nodyn i osod trwydded ar fyrder arnom er mwyn i'r Llyfrgell allu gwneud synnwyr o'u cynllun peilot. Teitl y nodyn Saesneg yw Permission from licence selector (rwyn credu). A oes gan rywyn yr amser i addasu hwn at ein defnydd ni? Rwyn cynnig y teitl 'Trwy ganiatâd ar Wicipedia'n unig' Lloffiwr 07:21, 11 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Wedi creu drafft o ddau nodyn:

Lloffiwr 21:59, 11 Awst 2008 (UTC)[ateb]

I've created Nodyn:PD-self and Nodyn:GFDL. We could also do with an option on the upload form to add Nodyn:GFDL-with-disclaimers as a lot of images on the English Wikipedia use it. Tigershrike 13:56, 12 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Wedi mentro creu Nodyn:Manylion, sef fersiwn o de:Vorlage:Information neu en:Template:Information ond dyw e ddim yn gweithio eto. Oes amser gan rywun i ymhel â hwn? Lloffiwr 21:18, 13 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Categoreiddio lluniau wedi eu huwchlwytho ar Wicipedia yn ôl trwydded

Hyd y gwelaf o edrych ar frys nid oes categorïau delweddau i’w cael ar Wicipedia. A all rhywun fynd ati i greu llwybrau categorïo’r delweddau, gan gynnwys categorïo yn ôl trwydded? Lloffiwr 11:10, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Delweddau eisoes wedi eu huwchlwytho ar Wicipedia

Rwyf newydd edrych ar y parth delweddau ac wedi amcangyfrif bod tua 2000 o ddelweddau gennym ar Wicipedia. Mae tipyn o waith i’w wneud felly yn mynd trwy’r rhain, yn categoreiddio, yn gosod nodiadau trwyddedi newydd, lle mae’n glir pa nodyn y dylai fod arno (hy mae’r awdur wedi rhoi nodiadau trwyddedi arno’n barod), yn cysylltu â’r awdur lle nad oes gwybodaeth trwydded ag ati. Bydd angen criw go dda ohonom i wneud y gwaith hwn. Mae’r gwaith hwn hefyd yn dibynnu i ryw raddau ar y gwaith o osod polisi hawlfraint ar gyfer Wicipedia. Mae’r gwaith o osod y fframwaith polisi yn araf iawn – gweler [7]. Fel y gwelwch mae Paul-L wedi dechrau ar ran o'r gwaith. Dim amser i ysgrifennu mwy – dechrau trafod a chynllunio yw fy amcan ar hyn o bryd. Lloffiwr 11:13, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Trwydded cyhoeddi lluniau o’r Llyfrgell Genedlaethol

Yn ystod cyfnod cynllun peilot Llyfrgell Genedlaethol Cymru fe fyddant yn rhyddhau lluniau o dan trwydded sydd ddim yn hollol rydd. Rwyn credu mai’r trwydded ‘i’w ddefnyddio ar Wicipedia yn unig’ ac ‘i’w ddefnyddio ar Wikipedia (Saesneg) yn unig’ yw’r trwyddedi y maent wedi penderfynu defnyddio. Dyna pam nad ydynt yn llwytho ar Gomin Wikimedia. Eu rheswm dros wneud hyn, os deallais yn iawn, yw ‘lack of room to manouvre’ lle mae hawlfraint y Llyfrgell yn y cwestiwn. Mae hyn yn golygu na fydd y prosiectau mewn ieithoedd eraill yn gallu copïo’r lluniau i’w herthyglau hwythau.

Gan mai dyma’r sefyllfa fel ag y mae, mae angen i ninnau yn Wicipedia ystyried yn ystod cyfnod y peilot am y canlyniadau posibl o gael delweddau nad ydynt yn rhydd ar Wicipedia. Mae’n rhaid pwyso a mesur a ydy manteision cael y lluniau hyn yn ennill ar yr anfantais nad yw’r trwydded yn un rhydd. Dyma rai pwyntiau perthnasol:

  • Wrth ddefnyddio lluniau sy’n cael eu rhyddhau gan y Llyfrgell Genedlaethol ei hunan rydym yn defnyddio lluniau o weithiau gwreiddiol ac nid copi o lun, felly mae safon y llun yn mynd i fod yn uchel a does dim amheuaeth ein bod yn defnyddio llun heb ganiatad, gan mai’r Llyfrgell ei hunan sy’n ei uwchlwytho. O ddefnyddio lluniau o’r fath fe fyddwn yn debygol o wella ymddangosiad Wicipedia a thrwy hynny denu darllenwyr. Yn achos llawer o’r delweddau dyma’r unig ffordd o’u cael ar Wicipedia o gwbl. Ymhlith lluniau casgliad John Thomas mae yna dir-luniau hanesyddol, a phan maent yn dir-luniau sydd wedi newid yna bydd dangos y lluniau o gymorth i egluro hanes ardal. Mae yn welliant ar erthygl bywgraffiadol i gael portread o’r person dan sylw – er y gellir dadlau nad yw’n hanfodol. A thrafod casgliadau eraill y Llyfrgell, fe fyddai’n welliant cael llun lliw yn enghraifft o ddalen mewn llawysgrif mewn erthygl ar y llawysgrif, yn hytrach na chopi o lun du a gwyn.

Ond pan nad yw defnydd o lun yn hanfodol i erthygl yna mae polisi Wikipedia yn golygu na chaiff ei gynnwys. Nid yw’n hanfodol cael llun o berson i ddeall y bywgraffiad amdano. Nid yw’n hanfodol cael llun o lawysgrif i ddeall cynnwys y llawysgrif. Felly mae’n bosib iawn y caiff y lluniau hyn eu diddymu ar Wikipedia Saesneg cyn gynted ag y cânt eu huwchlwytho.

  • Mae polisi wikipedia ar gynnwys cyfyngedig yn cyfeirio at fframwaith eu polisi fel a ganlyn:

‘’’Rationale’’’

    • To support Wikipedia's mission to produce perpetually free content for unlimited distribution, modification and application by all users in all media.
    • To minimize legal exposure by limiting the amount of non-free content, using more narrowly defined criteria than apply under United States fair use law.
    • To facilitate the judicious use of non-free content to support the development of a quality encyclopedia.

Os ydym am dderbyn lluniau Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd yn rhaid newid pwyslais ein polisi oddi wrth y nod cyntaf ac at y nod olaf.

  • Mae polisi Wikipedia (ac felly ein polisi ninnau tan i ni ysgrifennu polisi ein hunain) ar gynnwys cyfyngedig yn pwysleisio defnyddioldeb Wikipedia i ddefnyddwyr eraill. Dyma a fyddai’n cael ei golli o ychwanegu lluniau i’w defnyddio ar Wicipedia yn unig. Er mwyn derbyn lluniau o’r Llyfrgell Genedlaethol byddai’n rhaid llacio ar y polisi hwn ar Wicipedia, gan dderbyn na fyddai defnyddwyr yn gallu ail-gyhoeddi erthygl fel ag y mae – byddai’n rhaid iddynt dynnu’r llun o’r erthygl cyn gallu ail-gyhoeddi.
  • Petawn ni’n penderfynu caniatau lluniau a hawlfraint cyhoeddi ar Wicipedia yn unig arnynt yna beth am roi nodyn ar bob erthygl sy’n defnyddio’r lluniau hyn i ddweud bod llun heb hawl i’w atgynhyrchu ymhellach yn yr erthygl?
  • Os ydym yn penderfynu derbyn polisi sy’n caniatau cyd-weithrediad gyda llyfrgell Genedlaethol Cymru (a sefydliadau tebyg) yna byddai’n rhaid cael proses o gyd-weithredu i benderfynu a ydy rhyw ddelwedd yn ddigon pwysig fel ei bod yn werth ei chynnwys a cholli gallu eraill i atgynhyrchu’r erthygl. Os na wnawn hyn gallwn ddychmygu sefyllfa lle mae’r Llyfrgell yn uwchlwytho llun deniadol ac yna rydym ni’n ei ddiddymu am nad yw’n ddigon hanfodol i’r erthygl. Neu cawn afael ar lun rhydd ei hawlfraint a rhoi hwnnw yn lle un y Llyfrgell rhywbryd yn y dyfodol, ac oherwydd hynny gorfod dileu’r llun o Wicipedia. Ni allaf ddychmygu y byddai hynny wrth fodd y Llyfrgell, gan mai rhan o’u hymgyrch i rannu cyfoeth y Llyfrgell â’r cyhoedd yw’r prosiect hwn. (Mae'r llyfrgell wedi ateb y pwynt hwn i raddau helaeth gan y byddant yn ystyried y pwynt hwn cyn uwchlwytho eu hunain ac yn egluro'r rheswm dros osod y llun (gweler eu tudalen. Lloffiwr 23:07, 7 Awst 2008 (UTC))[ateb]
  • Mae digon i feddwl amdano, a hynny ar fyrder, yn anffodus! Rwyn mynd allan i'r ardd nawr. Lloffiwr 14:18, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
I'm going to be cheeky and reply in English, but hope not to derail this thread into English by doing so - others feel free to switch back into Welsh - and apologies in advance if I've misunderstood any of the above. We do really need to sort out an Exemption Doctrine Policy as per the above thread, before we can proceed on this. It is not true to say that the policy from the English wikipedia is our policy until we write our own; the stuff here is reasonably clear that until we write our own EDP, the default policy is that any non-free images (which includes those with permission only for use on Wicipedia) will be subject to deletion. Also, if we do establish a policy which allows for non-free content, then we must make sure that the non-free content is identifiable in a machine-readable way, which I guess principally means a template on the image pages themselves, although Lloffiwr's additional suggestion of a template on the articles that use those non-free images is of course a good one. (Yn gobeithio dy fod wedi cael prynhawn da yn dy ardd, Lloffiwr - roedd hi'n wlyb yma yn Lloegr!) Alan 18:10, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Point taken, Alan, ein bod yn gweithredu heb EDP ar hyn o bryd. Gallwn fod wedi ysgrifennu llawer yn fwy eglur am yr holl broblem yma pe na bawn yn rhuthro i ddechrau trafodaeth am fod yr holl beth, oedd eisoes yn urgent nawr yn extra urgent. Yn wir, byth ers bod Geni wedi dechrau'r drafodaeth ar 'copyright' uchod rwyf wedi bod yn disgwyl gweld ein lluniau'n diflannu, ond mae'n ymddangos eu bod wedi dechrau tynnu oddi ar Commons i ddechrau arni - fe ddont at Wicipedia yn y man, mae'n siwr! Pan ddechreuodd y drafodaeth am Copyright mae'n rhaid cyfaddef mai canolbwyntio ar y delweddau nad oeddent yn rhydd oedd wedi eu huwchlwytho heb ganiatad yr oeddwn i. Dwi heb fy argyhoeddi y dylai polisi Wicipedia fod mor rhydd ag un Wikipedia o ran yr agwedd hon - ond mater i'w drafod uchod o dan copyright yw hynny gan nad yw'n berthnasol i luniau'r llyfrgell sy'n cael eu huwchlwytho trwy ganiatad, serch yn ganiatad cyfyngedig. A dweud y gwir, nid oeddwn wedi dychmygu y byddai'r Llyfrgell yn gweld yn dda i roi eu caniatad, gan eu bod hwythau wedi eu clymu gan ofynion deddf, cytundebau a pholisi. Pob credit iddyn nhw am fentro fel hyn.
Ynglŷn â'r pwynt am tagiau machine-readable, gan bod brys trafod polisi a gosod y teclynau pwrpasol, ayyb i gyd ar unwaith, oes rhywun yn fodlon ymchwilio i'r mater tagiau machine-readable a drafftio rhywbeth gan gymryd y bydd rhyw lun ar bolisi EDP ganddom ni cyn bo hir? Lloffiwr 21:56, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Byddwn i wrth fy modd gweld delweddau prin, o safon uchel yma o gasgliadau't Llyfrgell Genedlaethol. Beth sy tu cefn i fy meddwl i ydy, beth sy'n digwydd petai ni'n llunio polisi delweddau (rhywbryd!), a bod ni'n penderfynnu ar bolisi fel y Wicipedia Saesneg sydd ond yn caniatau delweddau rydd, a'r Wikipedia Basgeg sydd ond yn caniatau lluniau dan drwydded Creative Commons? Dw i'n cymeryd byddai wedyn rhaid dileu'r holl ddelweddau o'r prosiect yma, a byddai hynny'n wast o amser pawb? Er, byddai'n beth gwirion efallai gwrthod delweddau o'r sail rhywbeth a efallai wnaiff byth ddigwydd. Mae'n ymddangos na fydd y Wiki Saesneg yn gallu derbyn y lluniau o gwbl felly.--Ben Bore 08:45, 4 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Yn cytuno bod yna risg y gallem gytuno ar bolisi EDP ac yna newid polisi ar ôl cyfnod ac y byddai hyn o bosib yn golygu colli delweddau. Oherwydd hyn rwyn credu ei bod yn werth cael trafodaeth drwyadl a chlywed llais cyn gymaint o ddefnyddwyr Wicipedia a phosib i leihau'r posibilrwydd i hyn ddigwydd. Yn fy marn i, os y byddwn yn llwyddo cael cyd-syniad ar bolisi EDP yna bydd y risg sy'n weddill yn werth ei gymryd, ac yn gobeithio bod y Llyfrgell hefyd yn fodlon mentro'r un fath. Lloffiwr 22:11, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn siwr fy mod yn deall y ddadl yma yn iawn. Dwi wedi gweld sawl llun ar y wicipedia Saesneg lle cedwir yr hawl gan unigolyn neu gwmni - h.y. mae'n cael ei ryddhau i'r wicipedia dan amodau. Dwi'n meddwl mai eu polisi yw bod rhaid esbonio rationale y defnydd o'r ddelwedd mewn erthygl bob tro, ond fel arall mae'n cael ei dderbyn. A beth bynnag, oes rhaid inni ddilyn y wicipedia Saesneg? Yn ein achos ni mae cael lluniau da o enwogion y genedl a.y.y.b., na fyddent ar gael fel arall, yn gaffaeliad, a dweud y lleiaf. Beth am fabwysiadu polisi "en." yn ei grynswth ac ychwanegu cymal (ar unwaith!) sy'n eithrio delweddau a roddir yma gan y Llyfrgell Genedlaethol? Credaf mai ffolineb o'r fwyaf fyddai gwrthod neu ddileu delweddau sydd mor angenreidiol - ac ia, mae llun o berson i'w ddisgwyl mewn erthygl bywgraffyddol, er enghraifft, os ydyw ar gael, ac yn sicr mae'n ychwanegu'n sylweddol at werth a diddordeb yr erthygl. Anatiomaros 12:19, 6 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Cytuno'n llwyr gydag Anatiomaros. Mae 'na gyfoeth o luniau i'w cofleidio'n ddiolchgar! Llywelyn lll 23:36, 6 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Dioch am godi'r pwynt yma Anatiomaros. Ar Wikipedia Saesneg mae'r defnydd o luniau cyfyngedig eu hawlfraint i fod yn fach iawn, er mwyn cadw'r nifer o erthyglau, lle mae eu defnyddioldeb i ddarllenwyr (hy y gallu i ail-ddefnyddio) wedi ei amharu, mor fach a phosib. Mae'r prosiect hwn o bosib yn mynd i effeithio ar ddefnyddioldeb canran uchel o'r erthyglau am Gymru a'r Cymry. Felly yn fy marn i mae eisiau pwyso a mesur yr amharu yma ar ddefnyddioldeb Wicipedia. (O ran defnydd gan eraill sy'n mynd yn erbyn trwydded y llyfrgell, mae'r opsiwn gan y llyfrgell i dynnu eu trwydded yn ôl, ac er y byddai hynny'n golled wrth gwrs ac yn ddiwedd y stori, nid o ganlyniad i'n polisi ni y byddai hynny'n digwydd ac felly nid yr agwedd hon sydd ar fy meddwl.)
Os ydw i wedi deall ystyriaethau Mediawiki (diolch Alan am fy nghywiro ar hyn) a Wikipedia ar y mater yma, yna mae creu gwyddoniadur rhydd yn uchel iawn ymysg eu blaenoriaethau. Maent yn ceisio rhoi gofynion pobl gymharol di-freintiedig y byd yn gyntaf. Ar yr olwg gyntaf, gallem feddwl nad yw pobl Cymru ymhlith y mwyaf di-freintiedig. Ond ystyriwn, mae hygyrchedd Wicipedia yn dibynnu ar ba mor rhwydd yw hi i gael gafael ar gyfrifiadur a chysylltiad broadband iddo. Rhaid cofio bod y rhan fwyaf o'r cyfranwyr at Wicipedia yn cyfrannu trwy ddefnyddio cyfrifiadur a chysylltiad broadband iddo. Yr ydym felly ymhlith y breintiedig. Nid y rhai a broadband ganddynt sy'n teimlo effaith problemau cael hyd i'r wybodaeth ar Wicipedia. Y peth yw, mae'n llawer anoddach i fesur faint o bobl sydd heb gael mynediad i ryw wybodaeth oherwydd bod cynnwys cyfyngedig ar erthygl nag yw hi i weld bod erthygl wedi diflannu oherwydd bod rhyw end-user wedi torri hawlfraint a bod rhyw lun wedi ei dileu oherwydd hynny. Efallai y down i'r casgliad bod y gwelliant yn safon Wicipedia yn pwyso mwy yn y glorian na'r best guess am yr effaith ar ddefnyddioldeb i eraill, ond mae'n rhaid ei drafod.
(Fe ddilyn sylw rwyn gobeithio sydd at ddant y rhai ohonom sydd â'n sense of humour yn dal i fod yn fyw, serch treulio amser wrth y cyfrifiadur yn gweithio ar Wicipedia. Yr eironi yn y sefyllfa yw hyn - po fwyaf elastig mae dyn yn trin y mater o hawlfraint wrth uwchlwytho lluniau (h.y. po fwyaf nifer y lluniau lle nad yw'r hawlfraint yn rhydd), po fwyaf caeth yw'r cynnyrch o safbwynt y defnyddwyr (neu'r ail-ddefnyddwyr i fathu term). Fel ag y mae sefyllfa hawlfraint y byd sydd ohoni - argymell creu gwyddoniadur caeth y mae'r rhai sydd am weld cynnwys heb hawlfraint rydd ar Wicipedia, nid argymell creu gwyddoniadur gwirioneddol rydd!)
Gyda llaw, dwi hefyd yn gresynu na fydd lluniau sy'n ymddangos ar Wicipedia yn gallu ymddangos ar Wikipediau mewn ieithoedd eraill (cyfyngiad amlwg ar ledaenu'r gwybodaeth ymhlith y di-Gymraeg, ac eto pwynt y rhoddir pwyslais arno ym mholisi Wikipedia Saesneg), ond yn deall nad yw'n ymarferol ar hyn o bryd i'r Llyfrgell.
Ar y pwynt am eithrio'r Llyfrgell. Beth os y cawn gynnig tebyg oddi wrth sefydliadau eraill, e.e. amgueddfa Cymru? Hoffwn ein gweld yn eu trin i gyd yr un peth o ran polisi, os yn bosib. Dyna hen ddigon am heno - sori os nad wyf wedi mynegi fy hunan yn rhy glir. Lloffiwr 23:07, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]
Diolch - sgwrs ddefnyddiol iawn. Dwi wedi ychwanegu nodyn am drwyddedau ar fy Nhudalen Defnyddiwr. Bydd hwn yn cael ei ddiweddaru fel ni'n mynd ymlaen Llyfrgell Genedlaethol Cymru 16:28, 7 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Neges newydd ar gyfer tudalennau cyfraniadau defnyddwyr anhysbys

Rwyf wedi creu neges newydd i fynd ar waelod tudalen cyfraniadau defnyddiwr anhysbys - dyma enghraifft, ar sail neges tebyg ar Wikipedia. Os nad yw'n plesio gall gael ei newid neu ei ddileu - gadewch sylwadau ar dudalen sgwrs y neges. Lloffiwr 17:37, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Diolch am y gwaith da, unwaith eto, Lloffiwr: mae'n edrych yn iawn i mi. Anatiomaros 12:22, 6 Awst 2008 (UTC)[ateb]

dolen barhaol

Rwyf wedi ychwanegu'r neges angenrheidiol i'r system fel bod gwybodaeth am y dudalen yn ymddangos wrth ddefnyddio'r offeryn 'Dolen barhaol' yn y blwch offer ar y chwith. Mae'r wybodaeth yn ymddangos yn y bocs pinc. Os oes sylwadau ar y neges gellir eu rhoi ar dudalen sgwrs y neges. Lloffiwr 17:37, 3 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Categori ar gyfer delweddau gan y Llyfrgell Gendlaethol

Gobeithio bod hyn yn iawn, ond er mwyn ei wneud yn haws i gadw tab ar ddelweddau o gasgliad John Thomas (rhag ofn bydd rhaid eu symud/addasu/dileu yn y dyfodol), dw i wedi creu categori Delweddau o gasgliad John Thomas. --Ben Bore 14:47, 8 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Datrysiad (resolution) ar luniau wedi eu huwchlwytho ar drwydded cyfyngedig

Mae polisi Wikipedia Saesneg yn dweud bod angen uwchlwytho lluniau sydd ar drwydded cyfyngedig ar ddatrysiad isel. Mae hyn yn lleihau gwerth potensial y llun wrth ei ail-ddefnyddio. Rwyn tybied, (heb gael amser i gadarnhau) fod angen hwn pan fo rhywun yn uwchlwytho rhywbeth ar ôl cael caniatad cyfyngedig, er mwyn sicrhau deiliad y drwydded bod y copi ar Wikipedia ddim yn werth ei ail-ddefnyddio, h.y. nad yw gosod copi ar Wikipedia yn golygu na fydd deiliad y drwydded yn gallu gwneud arian o’i drwydded. Nid yw hyn o reidrwydd yn berthnasol i fenter LlGC.

Gan gymryd y byddwn yn derbyn polisi tebyg i’r un ar Wikipedia, a fyddai’n well eithrio’r Llyfrgell, ac eraill yn yr un cae, o unrhyw gyfyngiad ar ddatrysiad eu lluniau? Yr eraill yn yr un cae fyddai deiliaid trwydded sydd eu hunain yn uwchlwytho ffeiliau ar Wicipedia. Lloffiwr 19:49, 11 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Y datrysiad uchaf posibl a ddwedwn i. Eithrier y Llyfrgell! Does na ddim byd gwaeth na gweld graen hyll mewn llun jpeg sydd 'wedi ei wasgu hyd asgwrn'! Diddorol, gyda llaw, ydy gweld nifer o safleoedd gwerthu tai ayb y dyddiau hyn yn rhoi isafswm (maint ac ansawdd) ar y lluniau y cewch uwchlwytho, yn hytrach nac uchafswm. Safon y llun ydy ei gryfder. Llywelyn2000 20:42, 11 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Manual for new and small Wikipedias

Hello, at Meta there are pages created to help new and small Wikipedias: Manual and Wikipedia and help pages. You are welcome to have a look and comment. Kind regards--Ziko 22:32, 13 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr/Thank you! Anatiomaros 22:35, 13 Awst 2008 (UTC)[ateb]


preventative protection of high-risk templates

Sorry to ask this in English.

I am pleased to see that vandalism has been pretty much non-existent here in recent weeks. Nonetheless, it occurs to me that it is worth copying a preventative measure from the English site, namely protecting some of the most used templates and images -- see Arbennig:MostLinkedTemplates and Arbennig:MostImages -- as these allow for simultaneous vandalism of many pages. I'd have thought that semi-protection would be an adequate level of protection in our case. What do you think? And what would be a reasonable threshold for the number of inclusions to warrant protection? Many thanks. Alan 10:51, 28 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Good point. I'd suggest that the templates that even we are not likely to edit very often could be given semi-protection as a norm. It won't affect us, after all, and a casual visitor is not likely to edit them anyway (unless he/she is a vandal?). Anatiomaros 22:01, 28 Awst 2008 (UTC)[ateb]
There are an awful lot of templates that fit into that category, many of which are only included in a few pages. I really wouldn't have thought it worth semi-protecting any given template for sake of only a few pages. But if you can come up with a figure for the number of inclusions that make it worth semi-protecting a template or image, then maybe I can get a list of things that we should protect based on that figure, and work out whether it's doable manually or wants a bot (if you don't mind giving admin rights to a bot account). Alan 09:18, 29 Awst 2008 (UTC)[ateb]

Wikimedia UK, v2.0

Hi :) I thought people here might like to know that we've started work on Wikimedia UK v2.0, replacing the now-defunct previous attempt. We're looking for any interested people, potential members, board candidates and anyone else. Please stop by if you hate a moment. Thanks, Kate

Dw i ddim yn siwr beth fyddai rol y Wicipedia o fewn hwn (efallai gallwn ofyn gyfrnaiad at unrhyw ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd yn y dyfodol), ond mae'n ddiddordol nodi bod un o'r rhai sy'n cynnig eu hunain fel cyfarwyddwr, Owen Blacker, yn siaradwr Cymraeg, ac wedi cyfrannu at y Wicipedia ar y dechrau.--Ben Bore 09:38, 11 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Buaswn i'n hoffi gwybod be fydd safle a statws y Wicipedia Cymraeg - a Chymru - o fewn y drefn yma. Anatiomaros 14:03, 11 Medi 2008 (UTC)[ateb]


Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia

Hello, I have create a new page Wicipedia:WikiProject Check Wikipedia. Someone of cy ask my at my German page for this page. Here they are. There you can find many syntax errors in the cy.wikipedia. I hope I can help you with this page. Every morning my script scan the wikipedia and you can find a update page. Please copy this page then at the wikipedia. -- sk 20:15, 16 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Many thanks, Stefan. I've had a quick look and was surprised how long some of the lists were. But there are so few of us working here and other work - like creating articles :) - takes priority: we need a BOT or some semi-automated programme. Any suggestions? Anatiomaros 21:00, 16 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Do you know en:Wikipedia:AutoWikiBrowser? -- sk 19:56, 18 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Dileu/Symud Categori

Sut mae gneud hyn, dwi wedi creu [chwarae Lloegr] mewn camgymeriad. [chwaraeon Lloegr] dylai fod. Welai ddim botwn 'symud'.--Ben Bore 21:08, 16 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Dydi hi ddim yn bosibl symud categori, rhaid ei ddileu (botwn: 'Dileu'). Anatiomaros 21:21, 16 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Ac i symud categori sy'n cynnwys erthyglau, rhaid golygu pob erthygl. (Ond dwi'n gweld bod y categori hwnnw yn wag.) Alan 21:57, 16 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Doh! Mor syml a hynny. Dim ond Anfield sydd yn y categori newydd a dw i wedi golygu'r ertygl. Diolch. --Ben Bore 07:44, 17 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Iawn i gyfieithu erthyglau Wicipedias eraill?

Wy wedi dechrau cyfieithu'r tablau o'r Wicipedia Esberanto (oherwydd mod i'n hoff o'u cynllun syml) ar Gwyddor Seinegol Ryngwladol. Ydy hynny'n iawn i fi wneud? Ddylwn i fod wedi creu nhw fy hunan? Llusiduonbach 12:12, 17 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Dim problem o gwbl. Pob hwyl i ti gyda hwn. Lloffiwr 12:43, 17 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Welsh translation request

Would someone with good Welsh please be so kind as to translate the templates at s:Nodyn:No license and s:Nodyn:Delete? Diolch yn fawr! Angr 18:28, 23 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud.--Ben Bore 12:15, 24 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Diolch yn fawr! I moved s:Nodyn:Delete to s:Nodyn:Dileu (though I notice here at Wicipedia it's Nodyn:Delete in English), and I moved s:Nodyn:No license to s:Nodyn:Dim trwydded (and added a redirect from s:Nodyn:No licence to reflect the English spelling familiar to most Welsh speakers). Angr 14:28, 24 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Nifer erthyglau

Mae'n ymddangos fod y rhaglen sy'n rhoi'r nifer o erthyglau ar y wici wedi rhoi'r gorau iddi. Oes rhywun yn gwybod beth i'w wneud? Rhion 16:58, 26 Medi 2008 (UTC)[ateb]

Rwyt ti'n iawn, Rhion. Doeddwn i ddim isio clirio "stash" firefox felly wnes i agor yr hen windows explorer druan ac mae'n wir fod y rhif heb newid ers ddoe neu echdoe. Yn anffodus does gen i ddim clem am sut i drwsio fo! Anatiomaros 17:10, 26 Medi 2008 (UTC)[ateb]
Mae'n edrych fel bo'r rhif yn raddol yn dal lan gyda ni. --Adam (Sgwrs) 21:20, 28 Medi 2008 (UTC)[ateb]

20,000 Erthygl

Beth yw'r tebygrwydd o gyrraedd 20,000 o erthyglau erbyn Ionawr 2009? Mae dal 1,000 o erthyglau cyn cyrraedd y nôd ond oes yna bosibilrwydd gwnewn ni gyrraedd yno erbyn dechrau 2009? (Glanhawr 17:25, 6 Hydref 2008 (UTC))[ateb]

Gyda thipyn o lwc byddem yn cyrraedd y nod cyn hynny. Mae gennym ni dris mis bron i wneud hynny - sy ddim ond tua deg erthygl y dydd ar gyfartaledd. Pe bai rhaid mae 'na ddigon o bethau fel taleithiau a dinasoedd lle does dim disgwyl llawer mwy am rwan na pharagraff byr a llun neu fap - dwi'n gwybod o brofiad ei bod yn bosibl taro erthyglau fel 'na allan yn gyflym, hanner dwsin neu ragor mewn awr efallai. Fel pawb arall dwi wedi bod yn cadw llygad ar y cownter bach ar y dudalen flaen ac yn dechrau meddwl "be 'wnawn ni i ddathlu?", h.y. oes 'na siawns o ennill tipyn o gyhoeddusrwydd er lles y Wicipedia? Unrhyw syniadau/cysylltiadau? Gair yng nghlust rhywun sy'n gweithio yn y cyfryngau, efallai?
Pwynt bach arall, cysylltiedig. Mae 'na eginyn erthygl ar Ein Wici Bach Ni ar y wicipedia Saesneg. Bron iawn iddo gael ei dileu ac mae'r person a gynigiodd hynny wedi bod yn ôl yn gyson ers methu gwneud hynny ac yn ceisio tocio'r erthygl. Dwi'n diweddaru rhif yr erthyglau yn gyson ac yn edrych ymlaen at fedru nodi "it now has over 20,000 articles, the Xth wikipedia to reach that figure" neu rywbeth tebyg. Buasai'n dda pe bai un ohonom ni yn gwybod am unrhyw gyfeiriadau at y Wicipedia Cymraeg yn y cyfryngau neu ar y we yn y gorffennol ac yn medru ychwanegu'r wybodaeth (DS rhaid cael cyfeiriad neu fydd y boi 'na yno fel fflach i'w ddileu!).
Yn y cyfamser, ymlaen am yr 20,000 (cyntaf!). Anatiomaros 18:01, 6 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Es i ar y ddolen rhoddoch chi a gwelais i fod ein Hwicipedia yn cael ei chyfeirio ati ar y teledu? Ydy hynny'n wir?? A pheidiwch edrych arna'i am gysylltiadau gyda chyfryngau Cymraeg! Fallai gallen ni anfon e-bost at S4C pan wnewn ni gyrraedd y 20,000 a gofyn am sôn fach ar y Newyddion Cymraeg neu rhywbeth, fallai allai hi fod yn ddathliad o garreg filltir, stori newyddion fallai am y cyfryngau Cymraeg sy'n ffynnu a thyfu. Gewn ni weld..(Glanhawr 18:25, 6 Hydref 2008 (UTC))[ateb]
Dw i wedi cysylltu ag un o gyfranwyr Golwg neithiwr i holi os oes modd ffeindio allan os bu erthygl amdano yn y gorffenol, ac os ddim beth am gael un rwan i nodi ein bod yn agosau at y 20,000. Gyda llaw, dyma ddelwedd ddefnyddiwyd ar y Wicipedia Basgeg yn ddiweddar y nodi eu bod wedi cyrraedd 30,000 erthygl - efallai gallwn ei addasu ar gyfer ymgyrch 'Apêl 20,000'? Unrhyw un yn dda efo delweddau.--Ben Bore 07:58, 7 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Dwi newydd gweld hyn rwan, Ben. Gest di ateb gan Golwg? Tybed a fedri di rhoi'r manylion yn yr erthygl ar "en." - dydi hi fawr o beth ar hyn o bryd ond o leiaf mae'n un o'r ychydig lefydd sy gennym ni i gyfeirio pobl i fan'ma (ac efallai cyfrannu, pwy a ŵyr?). Gobeithio bydd gan Golwg ddiddordeb yn stori'r 20,000 hefyd. Edrych ymlaen at glywed eu hateb. Anatiomaros 20:12, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Newydd sylwi bod y Wicipedia yn cael ei grybwyll yn y rhifyn diwethaf o Golwg (Cyfrol 21, Rhifyn 7 16.10.08 tud. 30), ond i ddweud y gwir dw i'n eitha siomedig. Mae'n cael ei grybwyll yn yr adran Jac-codi-baw yn y cefn, ond am fod rhai cyfrannwyr o'e Wikipedia eisiau dileu'r erthygl amdano - tra roeddwn i'n meddwl byddai wedi bod yn sail erthygl ynddoi hun. O wel, o leaif mae wedi ei grybwyll rwan.--Ben Bore 07:46, 21 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Yn ôl FAQ'r Main Page Saesneg bydd hawl gennym gael ein rhestru ar Hafan y Wicipedia Saesneg yn yr adran ieithoedd eraill ar ôl cyrraedd 20,000 o erthyglau (mae'r canllawiau hefyd yn gofyn am "ddyfnder" o 5, ac mae gan ein Wicipedia ni ddyfnder o 19). --Adam (Sgwrs) 14:06, 24 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Less than 500 to go..... Paul-L 14:16, 2 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

25000 o erthyglau cyn hir. Yden ni'n barod??? Rwan ydy'r amser i baratoi ar gyfer y wasg.

Help

Hello. Es i creu tudalen Defnyddiwr:Pontypridd yna fe es i creu global account ar gyd or Wikis. Defnyddiwr:Ponty Pirate So mae nawr gen i 2 account? A bydd hwn yn problem? Ni byddai yn defnyddior account arrall nawr. Ponty Pirate 19:16, 7 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Dim problem. Diolch am esbonio am y sefyllfa. Does neb yn fod i gael dau gyfrif, felly y peth gorau i'w wneud ydy dileu yr un cyntaf (Defnyddiwr:Pontypridd). Mi fedra i wneud hynny (gobeithio, dwi ddim wedi trio o'r blaen!) ond gwell i mi ofyn i chi gadarnhau yn gyntaf mai dyna ydy eich dewis, h.y. cadw Ponty Pirate a chael gwared a'r llall (Pontypridd). Anatiomaros 19:23, 7 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Ydy. Os gallwch chi cael gwared a Pontypridd a cadw Ponty Pirate sef enw fi ar y Wikipedia saesneg ac Wiki commons. Diolch. A sorri am creu problem. Ponty Pirate 20:01, 7 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
just i profi bod fi syn perthyn y dau gyfrif. Diolch. Pontypridd 20:12, 7 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Cymraeg.

Hello,

Rwyn newydd darllen trwy rhai or posts yn fan hun a rwyn methu meddwl pam mae pobl yn ysgrifennu yn Saesneg? Mae fy Cymraeg fi yn eitha wan. Ond os mae fy Cymraeg yn digon da i trio cyfrannu ir Wiki Cymraeg beth ywr point sgwrsio yn Saesneg? Neu ydw in collir pwynt? Ponty Pirate 19:25, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Fel arfer mae pobl yn dod o Wicis eraill ac yn siarad yn Saesneg. Mae yna hefyd rhai pobl yma sydd yn teimlo'n fwy cyfforddus yn mynegi ei hun yn Saesneg. Gobeithio fod hynny'n ateb dy gwestiwn. (Glanhawr 19:42, 10 Hydref 2008 (UTC))[ateb]
Mae nifer o ddysgwyr yma rhwng y defnyddwyr aml, (gan gynnwys fy hun, Defnyddiwr:Paul-L, Defnyddiwr:Deb). Yn fy mhrofiad, er nad ydym ni dysgwyr yn gallu ysgrifennu paragraffau hir yn yr erthyglau, mae nifer o dasgau eraill sy'n addas i ddysgwyr serch hynny. Rhaid defnyddio'r Gymraeg yn unig yn yr erthyglau wrth gwrs, ond gallai fod yn araf iawn i ysgrifennu popeth yn Gymraeg pan dydym ni "ddim ond" sgwrsio. Felly, mae'n ymddangos bod consensws i ganiatáu'r Saesneg yn ogystal â'r Gymraeg yn y sgyrsiau. Rwy'n gallu dychmygu, os fydd y nifer o siaradwyr brodorol yn tyfu yn y dyfodol, gallai bod consensws newydd i osgoi'r Saesneg ymhobman ar draws y wici, ond dydy hynny ddim yn disgrifio'r sefyllfa ar hyn o bryd, dwi'n meddwl. Nawr 'te, faint o amser 'dw i newydd treulio i deipio'r ateb hwn? (Digon i gael "edit conflict" gyda Glanhawr, o leiaf.) Ac faint faswn i wedi treulio taswn i wedi ei ysgrifennu yn y Saesneg?! Alan 19:58, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Diolch am eich atebion. Tin reit. Aeth e cymryd deg waith yn hiraf i fi ysgrifennu y paragrff uchod na bydd e wedi cymryd i fi yn y Saesneg. Dwi ddim wedi siarad neu ysgrifennu yn Cymraeg ers ysgol Gufyn 15 mlynydd yn ol. A doeddwn i ddim yn siarad cymraeg yn yr ysgol pan oeddwn i yna dim ond pan oedd athro/athrawes yn gwrando! Only the geeks spoke Welsh in Rhydfelen! I wouldnt have chosen to go there. But looking back I am glad that I did? Ond oes wyt ti am unrhyw rheswm yn teimlo fod ti eishau helpu ar y wiki Cymraeg beth ywr pwynt siard Saesneg? Ponty Pirate 21:31, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

"Ond oes wyt ti am unrhyw rheswm yn teimlo fod ti eishau helpu ar y wiki Cymraeg beth ywr pwynt siard Saesneg?" - er mwyn dweud eich dweud yn gyflym a threulio'r amser golygu erthyglau yn lle cyfansoddi negeseuon, efallai?! Alan 22:04, 10 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Rwyn falch o weld rhywun yn amlwg eisiau gofalu bod Wicipedia Cymraeg yn cael ei weinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae yma lawer o dudalennau cymorth nad ydynt eto wedi eu cyfieithu i'r Gymraeg neu eu haddasu. Cewch gysylltiadau at y rheiny fan hyn. Allai eich annog i ymuno yn y gwaith o'u cyfieithu cyn troi'ch sylw at y sgyrsiau? Lloffiwr 12:41, 11 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Yn Gymraeg y bydda i'n sgwennu, ond iesgob, dwi wedi dysgu lot gan rai fathag Alan012 sydd wrthi'n Saesneg fynycha. Llywelyn2000 21:05, 15 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Bot flag for DragonBot

I would like to re-request for bot flag. My original request is here.

Thank you, Jose. I've just granted bot status for DragonBot. Seems no problem with it. Regards, Anatiomaros 17:01, 11 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Thanks !--Jacob.jose 17:19, 11 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Traed Moch yn Llansanffraid ar Wiki

Fedrith rhywun ag arbenigedd mewn daearyddiaeth / enwau lleoedd fwrw golwg ar enwau llefydd ar Wiki Saesneg os gwelwch yn dda. 'Llansanffraed' a 'Llansanffraid-ym-Mechain'. Dwi'n meddwl fod angen caib a rhaw i'r gwaith! Diolch. Llywelyn2000 01:14, 12 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Efallai y dylen nhw gael erthygl newydd ar bentref Llansanffraid Traed Moch! Rhion 05:41, 12 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Y fanod

Ydy hi'n reol bod angen defnyddio "yr" o flaen unrhyw enw yn dechrau efo h- yn ogystal ag enwau'n dechrau efo llafariad. Oes 'na unrhyw esboniad am hyn y gellir ei gynnig i ddysgwyr?

Oes mae rheol; daeth y rheol gan ei fod yn well i'r glust, yn fwynach i'r glust: - yr hwch, yr hen beth, yr hoeden fach ayb.Llywelyn2000 21:02, 15 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Uwchlwytho

Rydym wrthi'n trafod derbyn polisi gosod lluniau a ffeiliau eraill ar Wicipedia (gweler 'copyright' uchod). Rwyn credu y byddai'n beth call i ni drafod y gwaith arall sydd ynghlwm wrth y polisi hwn rhag ofn i ni bendefynu ar bolisi na allwn ei gweithredu! Hyd y gwelaf y gwaith hwn yw:

  • Ysgrifennu tudalennau cymorth ar gyfer y defnyddwyr sydd am uwchlwytho ac ar gyfer y rhai fydd yn gweinyddu'r drefn uwchlwytho
  • Cynllunio trefn ar gyfer y rhai fydd yn gorfodi'r polisi.
  • Cysylltu â Sefydliad Wikimedia ynglŷn â'r polisi ac ynglŷn â'r drefn cofnodi caniatad oddi wrth deilwyr hawlfraint.
  • Gorffen creu'r trwyddedi a'r nodiadau i hysbysu uwchlwythwyr.
  • Gorffen dylunio'r ffurflen uwchlwytho. Mae angen tipyn o wybodaeth ynglŷn â'r math arbennig o nodiadau sy'n cael eu defnyddio yma - mwy nag wyf wedi gallu deall ers dechrau straffaglu gyda hwn. Oes rhywun wedi gallu deall sut mae cael input box newydd i ymddangos ar ôl clicio ar un o'r trwyddedi cyfyngedig?
  • Gwneud y gwaith o orfodi'r polisi gyda'r ffeiliau sy'n cael eu huwchlwytho o hyn ymlaen.
  • Mynd trwy'r holl ffeiliau sydd eisoes wedi eu huwchlwytho i orfodi'r polisi ar y rhain.

Cyn i'r gwaith trafod ar y polisi ddod i ben byddai'n dda cael syniad o pwy fydd yn gweithio ar hyn oll. Byddaf fi yn sicr ddim ar gael i wneud unrhyw waith ar orfodi'r polisi o ddydd i ddydd. Rwyn gobeithio gallu helpu gyda'r tudalennau cymorth a'r ffurflen uwchlwytho, os byth y dof i'w ddeall!

Uwchlwytho ffeiliau rhydd

Ar y wikipedia Ffrangeg nid ydynt yn caniatau uwchlwytho ffeiliau â thrwyddedi rhydd iddynt, y gallent gael eu huwchlwytho ar Gomin Wikimedia. Mantais uwchlwytho ar y Comin yw bod holl brosiectau Wikimedia yn gallu defnyddio ffeil. Ar yr un pryd, gwirfoddolwyr y Comin fyddai'n sicrhau bod y lluniau hynny'n dilyn y polisi ar y Comin sydd felly'n llai o waith i wirfoddolwyr Wicipedia Cymraeg. Beth am ddilyn esiampl y Ffrancwyr? Lloffiwr 22:25, 13 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Mae'n ddrwg gen i fod mor hir cyn ymateb i hyn, Lloffiwr, ond rhywsut dwi wedi anghofio bob tro ar ôl logio i mewn a dechrau sgwennu. Yr anhawster mawr gyda'r awgrym am ddilyn esiampl y francophones ydy bod nifer fawr o'n delweddau ni o leoedd yng Nghymru yn dod o Geograph, sy'n ffynhonnell werthfawr iawn. Hoffwn i ddim gweld y delweddau hynny yn diflannu (gellid ychwanegu llawer mwy ohonyn nhw hefyd). Yn ail, dwi'n gwybod o brofiad fod Comin yn gwrthod delweddau eraill am resymau "technegol" er eu bod yn cael eu derbyn ar en: a wicis eraill, a buasai hynny yn effeithio efallai ar rai o'n lluniau yma (lluniau o gloriau a wynebddalennau hen lyfrau Cymraeg efallai; lluniau gan y Llyfrgell Genedlaethol yn sicr). Yn drydydd, mae'r broses o uwchlwytho lluniau i Gomin yn gymhleth ac yn debyg o rwystro nifer o gyfranwyr achlysurol rhag gwneud hynny; colled arall i ni. Mewn gair, dwi'n meddwl bod yr anfanteision yn pwyso'n drymach o lawer yn y fantol na'r manteision, er bod y syniad o gael llai o waith gweinyddol yn ddeniadol, wrth gwrs. Anatiomaros 17:16, 24 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Wikipedia logo project

English: Hello! This is a message to inform all the Wikipedias that there is an ongoing project to fix the errors in the Wikipedia logo. There's also a plan to add more characters in the blank spaces and find characters for the other sides of the globe. Feel to visit the page on Meta-Wiki and discuss it on the talk page. If this message has arrived in the wrong place, please update the distribution list. Thank you, and see you on Meta! Bastique 21:47, 15 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Cymraeg: Please translate this message!


Gwyliau

Rhag ofn i rywun feddwl fy mod wedi diflannu'n barhaol, byddaf i ffwrdd ym Mhatagonia am bythefnos ar ôl heddiw. Mae'n debyg na fydd yna lawer o gyfle i fynd ar y we. Rhion 07:03, 18 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Bon voyage rhen gyfaill!Llywelyn2000 07:16, 18 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
¡Buen viaje! Bydd y wici yn dy ddisgwyl eto pan ddychweli di. Alan 19:45, 18 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Ia wir, mwynhea dy wyliau yn y gwanwyn deheuol! Anatiomaros 17:59, 19 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Fitaminau a bwydydd syml

Dwi wrthi fel lladd nadroedd yn ychwanegu gwybodaeth am y gwahanol fitaminau. Un peth sy'n fy nharo ydy nad oes erthyglau am FWYDYDD synl e.e. caws, cig eidion, madarch a.y.b. Hyn yn hyrt braidd, efallai mai rhain ddylai fod yn gyntaf, a'r manylion technegol wdyn! Ond dyna ni... ta waeth, fe ddaw rhywun i'r fei. O hyn ymlaen, dwi am ganolbwyntio ar wyddoniaeth. Mae'r gagendor yma'n sylweddol! Llywelyn2000 16:30, 19 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Diolch am y gwaith ar y pethau gwyddonol ma, Llywelyn. Rwyt ti'n iawn am y diffyg erthyglau am fwydydd (er bod 'na un eitha byr am caws), a buasai'n syniad da i ni ddechrau llenwi ambell fwlch amlwg. Ac wrth sôn am fwydydd ayyb, mae ein detholiad o erthygau am fyd amaeth yn bitw iawn hefyd. Dwi wedi cyfranu ambell beth yma ac acw ond mae 'na bethau sylfaenol iawn heb eu gwneud, e.e. hwsmonaeth a'i changhennau, gwahanol fathau o amaethyddiaeth, offer amaethyddol ac ati. Dwi'n fodlon helpu gydag ambell erthygl dros yr wythnosau nesaf, ond dwi'n tueddu i sgwennu yn ôl fy mympwy felly paid â disgwyl i hynny digwydd yn gyson (cefais fy ngeni dan arwydd Yr Efeilliaid/Gemini - natur arian byw!). Anatiomaros 17:57, 19 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Rwyt ti wrth fel y mae, rhen frawd! Meddwl efallai y byddai na wyneb (hehe) newydd yn neidio i'r fei, sefyll yn y bwlch... er mwyn i'r Gymraeg gael ei thywallt dros wyneb y ddaear oll. Y darllenydd / defnyddiwr newydd yna sy'n darllen hwn, rwan. tyrd... Llywelyn2000 23:51, 19 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Cyflwr Gramadegol?

Rwy eisiau creu erthygl ar "Grammatical Case" ond rwy wedi cael trafferth yn dod o hyd i'r termau ieithyddol Cymraeg. Dyma beth mae fy ngeiriadur yn dweud:

  • Case - Cyflwr
  • Inflection - Treiglad
  • Mutation - Treiglad
  • Clause - Adnod
  • Declension - Treiglad (beth?? mae'n rhaid imi allu wahaniaethu rhwng "declension" ac "inflection")

Oes awgrymiadau gwell gan unrhyw un am y termau uchod? Diolch. (Glanhawr 19:14, 23 Hydref 2008 (UTC))[ateb]

Yn ôl geiriadur y BBC...
  • Case - Cês yw'r mwyaf addas dwi'n meddwl
  • Inflection - Ffurfdro
  • Mutation - Treiglad
  • Clause - Cymal neu adran
  • Declension - Gogwyddiad neu rhediad
Thaf 19:26, 23 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Ah diolch. Gwnaf i ddefnyddio'r geiriau hynny. Rwy'n credu taw gogwyddiad bydd y mwyaf addas am "declension". Diolch. (Glanhawr 19:29, 23 Hydref 2008 (UTC))[ateb]
Aroswch funud! Dyma sydd gen i, yn ôl Termau iaith a llên ac ambell ffynhonnell arall: case = Cyflwr (dwi'n rhyfeddu gweld y BBC yn defnyddio'r Seisnigiad cês - rhywbeth i roi dillad yno!); inflection = Ffurfdro; mutation = Treiglad; clause = Cymal; declension = Gogwyddiad (fel arfer mae Rhediad yn golygu conjugation berfau). Anatiomaros 19:34, 23 Hydref 2008 (UTC)[ateb]
Mae'r geiriau hynny yn edrych yn well. Gan fod gennych chi lyfr arbennigol, oes yna eiriau Cymraeg am nominative, accusatie, dative, genetive, ablative, instrumental, vocative a locative? Efallai basai'n well cymreigio'r geiriau fel eu bod nhw'n; nominatif, datif, efallai; er mwyn i'r darllenwyr wybod am beth mae'r erthygl yn sôn. Diolch. (Glanhawr 03:21, 25 Hydref 2008 (UTC))[ateb]
Mae'n ddrwg gennyf fod mor hir yn dod yn ôl at hyn, ond collais olwg arni. Dyma'r cyflyrau: Nominative case = (Y) Cyflwr Goddrychol; Accusative case = (Y) Cyflwr Gwrthrychol; Dative case = (Y) Cyflwr Derbyniol; Ablative case = (Y) Cyflwr Abladol; Instrumental case = (Y) Cyflwr Cyfryngol (dwi'n meddwl, ond dim yn gwbl siwr am hyn!); Vocative case = (Y) Cyflwr Cyfarchol; Locative = (Y) Cyflwr Lleol. Gobeithio fod hynny o gymorth. (Gellid rhoi'r termau Saesneg hefyd, mewn italics efallai). Anatiomaros 19:22, 29 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Fandal Disney

Efallai bod rhai ohonoch wedi sylwi wnes i flocio am byth "dau" ddefnyddiwr ddoe, sef Arbennig:Contributions/Iluvteletubbies a Arbennig:Contributions/Sjakoj. "Sock puppets" ydyn nhw o fandal adnabyddus ar y wici Saesneg sy'n gwneud pob math o gastiau yn yr erthyglau ar ffilmiau Disney etc, gan ennill iddo/iddi yr enw "Disney vandal". Mae'r manylion yma: 1, 2 + rhestr o socks. Daeth yn ôl heddiw hefyd, gan gyfrannu tudalen Saesneg: Arbennig:Contributions/Spokenames. Byddwch yn wyliadwrus o unrhyw ddefnyddiwr newydd / IP sy'n troi i fyny i gyfrannu eginau am ffilmiau fel hyn felly. Mae'n ceisio gwyrio'r ffeithiau yma ac ar en i siwtio ei syniadau rhyfedd ei hun ac yn creu gwaith diddiwedd i olygyddion eraill (cafodd Paul-L brofiad o hynny echdoe). Camarwain a chreu anhrefn ydy ei bleser fawr, mae'n ymddangos, felly gobeithio fydd o/hi ddim yn dod yma'n rhy aml, ond dyna ydy'r sefyllfa ar hyn o bryd. Anatiomaros 15:28, 28 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

ymholiad yngl^yn â chyfieithiadau

Helo Rwy'n dysgu Sbaeneg drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgol a hoffwn i wybod a fyddai'n dderbyniol (ac o gymorth i Wicipedia!) i ofyn i'n myfyrwyr gyfieithu erthygl neu ddwy o'r Sbaeneg i'r Gymraeg (a'r ffordd arall) fel rhan o'u gwaith ar gyfer modiwl. Diolch yn fawr. 86.0.9.209 11:02, 29 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Fyddai'n ardderchog. Diolch yn fawr iawn. Ond rhaid sicrhau bod y testun ffynhonnell yn y Sbaeneg dan drwydded addas, er enghraifft yr erthyglau yn y Wikipedia Sbaeneg. Alan 11:08, 29 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

Helo, fi eto. Diolch am eich ateb. Sut gallwn i 'sicrhau bod y testun ffynhonnell yn y Sbaeneg dan drwydded addas'? Diolch yn fawr. (Ymddiheuriadau am fy anwybodaeth!)

Os am gopïo neu gyfieithu rhywbeth yn uniongyrchol, mae'n rhaid gwneud yn siwr fod y testun odan drwydded rhydd (dim hawlfraint felly). Dwnim beth ydi'r gyfraith yn Sbaen, ond mae rheolau fel arfer yn ymwneud a ee. os cyhoeddwyd y llyfr dort hyn a hyn o flynyddoedd yn ôl, neu cyfnod llai os ydy'r awdur wedi marw fel rheol. Y peth hawsaf fuasai cyfieithu erthyglau oddiar y wicipedia Sbaeneg yn hytrach na erthyglau o unrhyw ffynonellau eraill. (Dwi'n meddwl mai dyna oeddet ti'n ei olygu yn y lle cyntaf bethbynnag ond gwell egluro rhag ofn.) Rhaid gwneud yn siwr bod unrhyw gyfeiriadau yn y testun yn cael eu cynnwys. Os wnaiff y myfyrwyr greu cyfrif yma gyda nodyn ar eu tudalen defnyddiwr mai myfyriwr Sbaeneg ydyn nhw dwi'n siwr gallwn ni helpu os fydd unrhywun yn stuck gyda sut i fformatio'r erthyglau.Thaf 12:04, 30 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

1) Ie, cyfieithu o fewn Wicipedia o'n i'n feddwl; 2) Tybed a fyddai un cyfrif ar gyfer pawb yn iawn? Diolch yn fawr!

Dwi'n meddwl base un cyfrif rhwng pawb yn achosi problemau tase mwy nag un person eisiau gweithio ar unwaith... Ac o safbwynt ystadegau Wicipedia, mi fuasai'n well i bawb cael cyfrif eu hunain neu bydd rheiny'n ymddangos yn anghywir ynglyn a nifer y golygyddion ac yn y blaen. Y mwyaf y gorau er mwyn hybu Wicipedia a Cymraeg yn gyffredin dwi'n credu! Thaf 12:59, 30 Hydref 2008 (UTC)[ateb]


Iawn, bydda i'n gwneud fy ngorau! Diolch yn fawr.

Rwyf am uno â'r lleill yma sy'n croesawu'r fenter o ddefnyddio cyfieithu erthyglau fel tasg i fyfyrwyr. Rhannu gwybodaeth trwy gyfieithu erthyglau yw un o amcanion Wikipedia. A fyddech mor garedig â rhoi gwybod beth fydd enw'ch cyfrif defnyddiwr ar Wicipedia, gan gymryd eich bod am greu cyfrif? Lloffiwr 21:39, 1 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Rwyf am fod mor hy a gofyn ichi ystyried gosod cyfieithu'r erthygl Sbaeneg ar es:Tartessos yn un o'r tasgiau cyfieithu. Rwyf wedi creu eginyn erthygl Cymraeg amdano i'ch rhoi ar ben ffordd. Y rheswm dros gofyn yw'r diddordeb newydd sydd wedi codi yn sgil cyhoeddi tystiolaeth newydd gan Dr John Koch ar lafar eleni, gan gynnwys yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd, bod Tartaseg yn iaith Geltaidd - yr iaith Geltaidd hynaf yr ydym yn gwybod amdani. Dwi ddim yn credu bod y gwaith hwn wedi ei gyhoeddi ar bapur eto. Mae'n debyg mae dim ond yn Sbaeneg mae'r gwaith ymchwil ar arysgrifau Tartasos wedi ei gyhoeddi hyd yn hyn. Mae'r erthygl yn Sbaeneg yn ymddangos fel petai'n eithaf swmpus, ac o bosib yn fwy diddorol na'r erthygl Saesneg. Allech chi rhoi gwybod un ffordd neu'r llall a yw Tartesos yn mynd i gael ei osod fel tasg? Lloffiwr 19:49, 9 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

BookSources

Oes modd ychwanegu gwefan at restr ffynonellau Arbennig:BookSources? http://www.gwales.com yw'r unig wefan sy'n cynnwys yr holl lyfrau Cymraeg diweddar am wn i, felly mae'r BookSources bach yn iwsless i ni ar y wici Cymraeg hebddo... Thaf 20:28, 29 Hydref 2008 (UTC)[ateb]

  • Mae modd ychwanegu gwefannau at y rhestr ffynonellau trwy Betawiki, rwyn credu.
  • Cyn gwneud unrhywbeth, allwn ni gael trafodaeth ar bolisi ffynonellau llyfrau? Fe gafwyd trafodaeth yn 2004 - gweler Wicipedia:Y_Caffi/archif/4#Ffynnonellau_llyfrau_allanol.
    • Yn y drafodaeth honno codwyd y pwynt bod cysylltu â gwefannau masnachol yn ffafrio rhai cwmnïau masnachol dros eraill. Os am gael chwiliad ISBN o gwbl yna dylem ystyried cael gwared ar y cysylltiadau uniongyrchol at Amazon a'u tebyg a chysylltu â gwefannau sy'n cymharu prisiau, a fyddai'n cynnwys Amazon, AbeBooks, ayb. Dwi ddim yn credu bod Gwales.com ar un o'r gwefannau hynny - oes rhywun yn gwybod beth yw'r sefyllfa? Os nad ydy, yna gwell ystyried ei roi ar y rhestr. Ac os ei roi ar y rhestr, yna oes gwell gosod cysylltiadau at y llyfrwerthwyr annibynnol a'r cyhoeddwyr sy'n arbenigo mewn llyfrau Cymraeg ac yn gwerthu dros y we? At hynny, mae'n rhaid i ni ychwanegu cysylltiadau at lyfrgelloedd, cyn meddwl am ymhelaethu'r cysylltiadau at wefannau masnachol. Hefyd, gan dderbyn mai cysylltiadau o fewn Cymru yw'r rhai pwysicaf, rhaid peidio ag anghofio'r defnyddwyr sy'n byw dramor.
    • Mae'r tudalennau Saesneg ar BookSearch yn sôn am fandaleiddio sydd wedi bod yn digwydd trwy'r system BookSearch. Os ydym am gwneud defnydd o'r chwiliad ISBN ar Wicipedia, yna gwell ystyried a oes digon o bobl yma i wneud y gwaith o warchod rhag fandaliaeth yn ymwneud â'r system ISBN. Rwyn gwybod bod hyn wedi mynd yn dôn gron gennyf, ond y mwya cymhleth mae Wicipedia'n mynd, y mwya o oriau gweinyddol sydd eu hangen i'w reoli.
  • Mae'r Wicipedias eraill wedi cysylltu'r dudalen arbennig Arbennig:BookSources gyda'u fersiynau hwy o Wikipedia:Ffynnonellau llyfrau allanol, e.e. en:Wikipedia:Book_sources. Dylai fod modd cael gwared ar y rhestr o 5 llyfr sydd gennym ar hyn o bryd a chysylltu â'r dudalen arbennig yn lle hynny. Oes rhywun yn gwybod yn barod sut i wneud hyn? Os nad oes gallwn holi ar Betawiki neu ar mediawiki. Cyn gwneud hynny, gallwn baratoi'r dudalen yn ôl y consensws, yn barod i'w ddefnyddio.
  • Mae camsillafiad yn Wikipedia:Ffynnonellau llyfrau allanol. Cyn ei newid i gyfateb â theitl y dudalen arbennig meddyliais bod yn well holi a oes gwell teitl na 'Ffynonellau llyfrau' i'r dudalen arbennig (dim bod unrhywbeth yn bod ar y teitl presennol)? 'ISBN-Suche (Chwilio'r ISBN) yw e yn Almaeneg. 'Ouvrages de référence' yw e yn Ffrangeg (cyfeiriadau at lyfrau?).

Lloffiwr 12:42, 2 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

"Support Wikipedia" : anffurfiad ffiaidd!

Must we suffer that intrusive, hideous, and unhide-able "support Wikipedia" abomination at the top of every page on the Wicipedia too? It's already driven me away from the English-language Wp. Looks like I'll have to switch to another language now that the Wp Cymraeg has been infected too. One thing I know is that despite contributing financially to previous appeals I certainly shan't be doing so while that intrusive "pop up" persists at the top of every page. -- Jac-y-do 18:50, 5 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n cytuno, ond dwi ddim yn siwr be fedrem ni wneud amdano. Rhywbeth dros dro ydy o, ac fel arfer mae 'na ddewis "cuddio" i bobl sydd wedi mewngofnodi. Amynedd, gyfaill! (basa'n rhywbeth pe bai yn Gymraeg hefyd!). Anatiomaros 18:56, 5 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dw i'n gweld bod y neges wedi cael ei chyfieithu mewn nifer o wiciau eraill. Felly dw i newydd ofyn yn y wici Esperanto sut maen nhw wedi ei chyfieithu fan hynny. Gawn ni wneud yr un peth pan fyddyn nhw'n ymateb. Mae'r neges yn rhy ymwthiol ond fydd hi yn Gymraeg o leiaf. Alan 21:12, 5 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Oh, I give up. I posted a query over there as to how they translated the message, and made the mistake of also pointing out that their translation had a grammatical error. Needless to say, the responses all related to this additional comment and none to answering my main question. Alan 08:57, 6 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
My Esperanto's not up to much, but I see what you mean. A wel, diolch am drio, beth bynnag. Does mond gobeithio bydd y bali peth yn diflannu cyn bo hir (famous last words?!). Anatiomaros 19:36, 6 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Wedi creu'r dudalen i gyfieithu'r negeseuon am roi arian ar Meta-wiki, gan obeithio fy mod wedi dechrau yn y lle iawn. Wedi dechrau ar y gwaith cyfieithu hefyd - os oes sylwadau neu ychwanegiadau i'w cynnig allwch chi eu rhoi ar y dudalen honno neu ei thudalen sgwrs. Os ydym am newid yr arian breiniol o $ i £ mae'n debyg y gallwn. Rwyf wedi gadael y k yn Wikipedia i fod, gan mai i'r holl wikipediau yr ydym yn rhoi - os nad yw hynny'n plesio gall gael ei newid yn c. Os am wneud sylwadau am y logos ayb yna meta-wiki yw'r lle i adael neges. Lloffiwr 23:06, 6 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Y negeseuon ar Meta-wiki wedi eu cyfieithu ac yn barod i'w gwirio gan rywun heblaw fi. Oes rhywun am roi cynnig arni? Wedi newid Wikipedia i Wicipedia - pros and cons iddynt ill dau. Dwi ddim yn fodlon iawn gyda sefydliad rhanbarthol am chapter chwaith - unrhyw syniadau? Ystyriais 'cangen' ond yn anffodus gallai hynny olygu bod y chapters yn is-rannau o Sefydliad Wikimedia, ond nid ydynt hyd y gwelaf. Os oes sloganau gwell i'w cynnig na'r rhai presennol byddai hynny'n gret. Lloffiwr 21:22, 9 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Diolch am y gwaith ar hyn. Dwi wedi bwrw golwg dros y cyfieithiad a hyd y gwelaf i mae'n iawn. Mae'n anodd gwybod be di'r gorau i'w wneud yn achos 'chapter'. Ar ôl darllen y wybodaeth sydd ar gael dwi ddim yn siwr am 'sefydliad rhanbarthol' gan fod hynny'n awgrymu cryn raddau o annibyniaeth ; beth am 'adran ranbarthol'? Dim yn llawer o welliant, efallai, ond dwi'n methu meddwl am gynnig amgen. Anatiomaros 21:43, 9 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Allwn ni gael Cefnogwch Wicipedia: cywaith dielw, o leia? -- Jac-y-do 03:52, 10 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

'Adran ranbarthol' i'w glywed yn well na 'sefydliad rhanbarthol'. Beth am 'pwyllgor rhanbarthol'? Gallem ddefnyddio 'siapter' - mae yng Ngeiriadur Bruce. Wedi gosod 'cywaith dielw' yn lle 'sefydliad di-elw' yn y sloganau. Lloffiwr 13:25, 10 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr / Go raibh maith agat, a Llofiwr. -- Jac-y-do 18:05, 11 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Cynigion eraill am 'chapter': 'cymdeithas ranbarthol', 'mudiad rhanbarthol'.
Rwyf wedi darganfod bod yna ragor o negeseuon i'w cyfieithu - all rhywun edrych drostynt? Gallwch weld y Saesneg gwreiddiol drwy bwyso ar y tab golygu. Lloffiwr 21:24, 11 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Wedi mentro newid $ i £. Hefyd wedi dewis 'cymdeithas rhanbarthol' yn lle 'sefydliad rhanbarthol'. Gofynaf i'r cyfieithiadau gael eu gosod os na chaf unrhyw gynigion eraill am welliannau neu gywiriadau cyn heno. Lloffiwr 15:51, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
wedi drafftio cyfieithiad o'r site notice newydd ar meta. Byddwn yn falch petai rhywun yn bwrw golwg drosto cyn iddo gael ei osod ar y wefan. Lloffiwr 18:45, 25 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dolig llawen lloffiwr. Dilynais dy ddolen, eithr dim ond y Saesneg gwreiddiol fedra i ei ffeindio. Ond cofia, tydw i ddim mor brofiadol â llawer ar Wici. Llywelyn2000 19:32, 25 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Alla i ddim gweld y cyfieithiad chwaith. Roeddwn i'n meddwl mai fi oedd wedi yfed gormod o cava gyda cinio. Rhion 19:49, 25 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dim ond y Sitenotice ar waelod y dudalen yr oeddwn wedi mentro ei gyfieithu, felly y Saesneg gwreiddiol oedd i'w weld heblaw am yn y gwaelod yn deg. Ers hynny mae Cdhaptomos wedi cyfieithu'r gweddill o'r llythyr. Os oes rhywun am olygu'r llythyr yn ogystal â'r site notice croeso i chwi wneud. Os na, yna fe wnaf adfer y Saesneg yn hytrach na'i olygu fy hunan gan nad oes cyfle gen i i wneud y golygu fy hunan - rhof gopi o'r drafft ar y dudalen sgwrs fel bod modd i rywun ail-gydio yn hwn rhywdro eto. Lloffiwr 09:39, 27 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Golygwyd y darn. Llywelyn2000 10:28, 27 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Yn dilyn o'r cyfiethiadau uchod

Mae geiriad y croeso a welir yn yr Hafan: 'Croeso cynnes i Wicipedia, y gwyddoniadur rhydd, yn Gymraeg!' ychydig yn chwithig i mi. Dwi'n gweld y gair 'di-elw'n' fwy llwyddiannus, uchod. Efallai mai fi sy'n hen-ffash! Beth am ystyried rhywbeth megis: Croeso cynnes i Wicipedia: y gwyddoniadur di-elw, ac am ddim i bawb!

Neu ar gynghanedd: Wedi awr o ginio da: Y pwdin: Wicipedia! (ON Chwaneg i ddilyn!) Llywelyn2000 23:56, 10 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Mae 'di-elw' yn swnio'n ychydig yn lletchwyth i fi. O'n i'n meddwl bod 'rhydd' yn y cyd-destun hwn yn golygu rhyddid, h.y gall unrhyw un olygu? Flin os dwi 'di camddeall?? Hoffi'r cynghanedd!! Glanhawr 00:15, 11 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n hanner-cytuno efo Glanhawr. Mae'n bwysig bod "free" yn y Saesneg yn golygu "rhydd" yn y cyd-destun 'ma (gwelwch en:Gratis versus Libre hefyd). Ond y prif ryddid yw'r hawl i gopio'r cynnwys o dan termau'r GFDL -- hyd yn oed mewn sefyllfa fasnachol os ydych amdani. Dydy'r rhyddid i olygu ddim yn warantedig -- er enghraifft: mae'r "gwyddioniadur rhydd" (yn y fersiwn Saesneg o leiaf) yn ymddangos hefyd ar wefannau eraill nad ydynt yn wiciau eu hunain; gallai'r wefan hon beidio â bodoli yn y dyfodol; gall pobl gael eu blocio rhag olygu; ayyb -- ond serch hynny i gyd, fydd y cynnwys yn rydd o hyd, nac allai'r rhyddid hwnnw gael ei golli hyd yn oed i'r fandaliaid sy wedi cael eu cicio allan o'r wefan hon. Yn yr synnwyr hwnnw, mae hefyd gwahaniaeth rhwng y geiriadur (wps! gwyddionadur!) rhydd (sef cynnwys y wefan), a'r proses a greodd ef (wikipedia.org). Alan 08:35, 11 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
O.N. er nad oes gwarant o'r hawl i olygu'r fersiwn sy'n ymddangos ar wefan benodol, rhyddid arall a roddir gan y GFDL yw'r hawl i rannu fersiynau newidedig yn ogystal â chopïau union. Alan 08:45, 11 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae Alan wedi fy nghuro i, ond mae diffiniad Open Source yn mynd rhywbeth fel: "Free, as in free speech, not as in free beer"--Ben Bore 08:42, 11 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Diddorol iawn. Wnes i ddim meddwl am yr elfen 'rhyddid' o'r gair o gwbwl! Bois bach. Mi ges i gip o'r elfen 'loose' ynddo! Dwi'n deall ac yn cytuno efo'r tri ohonoch. Y llais, neu'r cynnwys, neu gopio'r llais - sy'n rhydd, ynte? Ond gwefan? Dwi'n siwr bod, ond mae'n cymryd cam neu ddau ymenyddol ychwanegol i lamu / cysylltu'r ddau beth. Fe geuai i 'ngheg. Fi wnaeth ddim neidio'n ddigon pell, efallai! Llywelyn2000 01:06, 18 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Unrhywun yn dod o Gaerfyrddin 'ma?

Fy enw yw Rhys ac rwyf wedi bod yn aelod o wicipedia cymraeg am tua flwyddyn ac ond nawr rwyf wedi ffeindio'r amser i ddechrau cyfrannu. Rwyn dod o Gaerfyrddin ac yn mynychu Ysgol Bro Myrddin....unrhwyun arall yn dod o Gaerfyrddin yma??

Rhys.

Hi Rhys. Ydw, dwi'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn Llandyfan yn Nyffryn Cennen - yn bell iawn o unrhyw wareiddiad ddynol! Hwyl. Glanhawr 23:21, 15 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

materion cyfoes

Nodyn bach i'ch hysbysu fy mod i wedi newid y ddolen "Materion cyfoes" yn y panel llywio i gyfeirio at Categori:Materion cyfoes yn lle Wicipedia:Materion cyfoes (tudalen wag). Ond os mae pobl yn meddwl taw gormod o waith ydi'r categori i'w gynnal, cawn ni gael gwared o'r ddolen o gwbl drwy olygu MediaWici:Sidebar. Alan 08:37, 12 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Cyfieithiad plis?

Ydi "Pobl a'u rhyddfarnwyd o drosedd" yn swnio'n iawn fel teitl categori iawn i gyfateb i en:Category:People acquitted of crimes? Thaf

Am yr un tro, beth am i ni greu categori am "pobol a'u heuogfarnwyd o drosedd" neu'n debyg? Be fasai'n gyfieithiad da? Diolch. Alan 16:28, 13 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Ydi "Pobl a gafwyd yn ddi-euog o drosedd" yn welliant? Yn yr un modd - "pobl a gafwyd yn euog o drosedd". Lloffiwr 18:50, 13 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Cytuno efo Lloffiwr. Dyna'r ymadrodd(ion) naturiol yn Gymraeg yn lle cyfieithu'r Saesneg yn llythrennol. Anatiomaros 19:00, 13 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Byddwn innau hefyd yn cyd-fynd a chynigion Llofiwr gan eu bod yn fwy naturiol. Dw i erioed wedi clywed y gair 'Rhyddfarnu' - mae'n swnio fel hen air a dw i'n ei hoffi, ond mae'r gair di-euog yn llawer mwy cyffredin.--Ben Bore 09:31, 14 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Diolch, dwi wedi creu "Pobl a gafwyd yn ddi-euog o drosedd" ond dwni'm os oes angen "pobl a gafwyd yn euog o drosedd" gan fod categori "Troseddwyr" yn bodoli eisioes. Thaf 09:41, 14 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae'r gair "troseddwyr" yn awgrymu mai troseddwr proffesiynol ydy person -- gweler Sgwrs Categori:Troseddwyr Cymreig. Dwi'n awgrymu ail-enwi unrhyw gategorïau sy'n bodoli dan deitlau "troseddwyr (...)", a defnyddio "pobl (...) a gafwyd yn euog o drosedd" yn eu lle. Alan 10:03, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Ailgyfeirio tudalennau

Sut mai gwneud hyn? Wrth chwilio am "cwafer" bydd rhywun mwyaf tebygol o deipio quaver yn Saesneg. Sut allai gyfeirio'r chwiliad hwn yn syth i'r dudalen iawn? Yr un peth am hannerbrif = semibreve, crosiet = crotchet, hannercwafer = semiquaver, ayyb... Diolch. Glanhawr 08:30, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Creu tudalen "quaver" gyda'r cynnwys: #Ail-cyfeirio Cwafer
Mi wnaf yr un yma fel esiampl. Mae'n rhaid i'r geiriad fod yn "Ail-cyfeirio" yn hytrach nag "Ail-gyfeirio", am ryw rewsm sy'n mynd yn ôl i ddechreuadau'r wici. Rhion 08:51, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Diolch! Glanhawr 08:59, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dylai'r sillafiad 'ailgyfeirio' ar y gair hud weithio erbyn hyn. Lloffiwr 13:46, 17 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

20,000 erthygl

Rydym o fewn rhyw 50 erthygl i gyrraedd yr 20,000 bellach - fe ddylem ei gyrraedd erbyn diwedd yr wythnos. Oes gan rywun syniadau sut y gellid defnyddio hyn i gael cyhoeddusrwydd? Rhion 20:03, 18 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

19 897 oedd ar y rhestr eiliad yn ol. Oes gen ti wybodaeth fewnol (cyfrin!) neu pam y gwahaniaeth? Llywelyn2000 20:30, 18 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae'r meddalwedd wedi dal i fyny: 19,949 rwan. Rhywsut neu gilydd mae hyn wedi dod yn sydyn iawn (fel Llywelyn doeddwn i ddim wedi sylweddoli mor agos yr ydym!). Mae 'na rywfaint o drafodaeth uchod, tua hanner ffordd i fyny'r dudalen. Cyhoeddusrwydd: beth am anfon sawl e-bost at y cyfryngau, Cymraeg a Saesneg? BBC Cymru, S4C, ITV Cymru, Y Cymro, y Daisy Plot Daily Post a'r Western Mail? Un cyhoeddiad i'r wasg ar gyfer y cwbl lot. Copïau i'r papurau bro hefyd ac unrhyw sefydliad arall sy'n debyg o gymryd sylw? Piti does gennym ni ddim cyfeiriad e-bost swyddogol i'w ddefnyddio, ond dyna fo. Does dim rhaid iddo fod yn gyhoeddiad maith, dim ond nodi beth ydy'r Wicipedia Cymraeg, pwt o'i hanes a'n gobeithion at y dyfodol efallai - pwysleisio'r ffaith nad oes unrhywbeth tebyg ar gael yn y Gymraeg heddiw ayyb. Beth am lunio drafft yma dros y dyddiau nesaf? Sylwadau? Rhaid i ni weithredu'n reit gyflym - dim gormod o bwyllgora! Anatiomaros 21:21, 18 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dw i ddim y gorau am ysgifennu datganiadu i'r wasg, ond dw i wedi llunio'r canlynol, gyda'r gobaith y gall eraill ei addasu, ychwanegu ato. Mae un neu ddau 'ffaith' dw i'n credu dylid eu cynnwys fel 'ethygl X oedd y cyntaf/mwyaf' ayyb.--Ben Bore 09:26, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
 Mae’r Wicipedia (gwyddoniadur Cymraeg ar-lein) wedi cyrraedd carreg filltir pwysig sef, 20,000 o erthyglau. 
 Er nad yw nunlle’n agos i’r 2 filiwn (?) o erthyglau sydd ar ei gefnder iaith Saesneg, y Wikipedia, mae’n tipyn o gamp o ystyried y gwahaniaeth yn y nifer o siaradwyr.  
 Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ychwanegu cynnwys ar y wefan, ac mae croeso i unrhyw un gyfrannu.  
 Mae amrediad eang o erthyglau sydd ddim wedi eu cyfyngu i’r iaith Gymraeg na Chymru.
 Mae rhai erthyglau’n gyfieithiadau o erthyglau mewn ieithoedd eraill, ond mae yna hefyd erthyglau gwreiddiol Cymraeg, e.e. Diwydiant llechi Cymru.    
 
 *Yr 20,000 (fed?)erthygl oedd X
 *Dechreuodd y Wicipedia Cymraeg yn (mis) 200X,
 *X yw’r erthygl ‘fwyaf/hiraf’
 *enwau cysyllt am wybodaeth pellach (pwy sy'n fodlon?)
Diolch am baratoi drafft; mae'n gymorth mawr i gael rhywbeth i'w drafod. Fe fyddai'n syniad rhoi yr URL e.e. cy.wikipedia.org er mwyn i rywun sy'n dymuno cael golwg arno wybod i ble i fynd. Hefyd, yn lle'r erthygl hiraf, beth am rywbeth fel "Ymhlith yr erthyglau ar y Wicipedia mae ...." ac yna rhoi teitlau dwy neu dair erthygl sy'n cynrychioli gorau'r wici. Efallai hefyd crybwyll fod erthyglau ar rai pynciau nad oes llawer o drafod wedi bod arnynt yn Gymraeg o'r blaen? Rhion 12:30, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Doh!, ia wir mae eisiau'r URL yna. Hefyd mae angen meddwl am rhyw 3/4 erthygl engrheifftiol i adlewyrchu'r amrediad eang sydd (byddwn i'n cynnig rhywbeth am wyddoniaeth, daearyddiaeth, hanes lleol Cymraeg/Cymreig a digwyddiad pwysig i'r byd fel trychineb, ryfel neu etholiad). Dylid hefyd cynnwys rhywbeth am ein 'rhwystredigaeth' diweddar ynglyn a denu golygywr ond heb wneud iddo swnio'n negyddol! Unrhyw spin-doctors yma?.--Ben Bore 12:49, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Cynnig ar ail ddrafft:

20,000 O ERTHYGLAU CYMRAEG AR-LEIN

Mae’r Wicipedia Cymraeg (URL yma*), gwyddoniadur rhydd ar-lein sy'n rhan o gywaith Wikipedia, wedi cyrraedd carreg filltir bwysig yn ei hanes, sef 20,000 o erthyglau.

Er nad yw nunlle’n agos i’r 2 filiwn a rhagor o erthyglau sydd ar ei gefnder, y Wikipedia Saesneg, mae’n dipyn o gamp o ystyried y gwahaniaeth yn y nifer o siaradwyr.

Gwirfoddolwyr sy’n gyfrifol am ychwanegu cynnwys ar y wefan, mae croeso i unrhyw un gyfrannu ac mae criw cyfeillgar o olygwyr wrth law yn 'Y Caffi' i ateb unrhyw gwestiynnau gan newydd ddyfodiaid. Mae amrediad eang o erthyglau sydd ddim wedi eu cyfyngu i’r iaith Gymraeg na Chymru yn unig. Yn wir, bwriad y Wicipedia yw darparu ystod eang o erthyglau am bob pwnc dan haul, ac mae eisoes yn cynnwys gwybodaeth am bynciau na chafwyd ymdriniaeth amdanynt yn Gymraeg o'r blaen. Ein gobaith yn y tymor hir yw tyfu i fod y gwyddoniadur Cymraeg mwyaf cynhwysfawr ac amrywiol erioed.

((Mae rhai erthyglau’n addasiadau o erthyglau mewn ieithoedd eraill, ond mae yna hefyd nifer o erthyglau gwreiddiol Cymraeg, e.e. Diwydiant llechi Cymru.))(torri hyn allan a rhoi enghreifftiau isod?)

*Yr 20,000fed erthygl i ymddangos oedd Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984

*Dechreuodd y Wicipedia Cymraeg ym mis Gorffennaf 2003 ,

*Ymhlith yr erthyglau ar y Wicipedia mae....

*enwau cyswllt am wybodaeth pellach (pwy sy'n fodlon?)

[wedyn yr un peth yn Saesneg?]

Dwi wedi mentro newid ambell beth. Croeso i rywun ei wella eto. Anatiomaros 17:32, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Wedi ychwanegu'r mis a blwyddyn dechrau o'r dudalen flaen Rhion 20:40, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Quick comment (sorry for the English) -- we need to make sure we release the text in the public domain, rather than under the GFDL, so that the press are not obliged to accompany it with the GFDL text. All we need in order to achieve this is for everyone who works on it to briefly confirm that they agree to this. Alan 21:02, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

'Na'i ofon nad wyf fi'n rhyw frwdfrydig iawn dros yr holl fusnes cyhoeddusrwydd yma - teimlo ydwyf nad yw ansawdd y cynnwys ar Wicipedia ar y cyfan eto'n ddigon da i ymffrostio'n hyderus ynddo. Rwyf hefyd yn teimlo'n lletchwith iawn yn annog pobl i gyfrannu yma pan nad yw'r tudalennau cymorth eto'n cynnig digon o gymorth a hynny'n hawdd cael gafael ynddo - rhwystredigaeth ymhlith cyfranwyr newydd yw'r canlyniad 'na'i ofon. Lloffiwr 21:40, 19 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
@Alan, dw i'n fodlon i fy nghyfraniad i fod yn y Public Domain (Parth Cyhoeddus?).
@Llofiwr, digon gwir fod y tudalennau cymorth yn bell o fod yn berffaith, neu angen eu cyfieithu, ond gallwn fod yn aros am amser maith! Beth am ychwanegu llinell yn y datganiad yn dweud
bod criw cyfeillgar o olygwyr o gweinyddwyr wrth law yn Y Caffi i ateb unrhyw gwestiynnau gan newydd ddyfodiaid.
Beth am gynnigion am 4 erthygl engrheifftiol o dan y penawdau canlynol (Ychwnaegwch nhw at y rhestr hyn, neu cynnigwch bennawd gwahanol):--Ben Bore 09:31, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Technoleg a Gwyddoniaeth
Hanes Lleol/Cymru/
Daearyddiaeth
Digwyddiad Hanesyddol o bwys i'r byd
Diwylliant Poblogaidd/Chwaraeon
  • (er mor sylweddol yw erthygl Nicole Cooke, efallai byddai'n well peidio ei ddefnyddio fel enghraifft, os mai erthygl am seiclo yw'r 20,000fed)
[Cyd-ddigwyddiad golygu: sylw canlynol ysgrifenedig cyn i mi weld ymateb Ben Bore] Er gwaethaf fy sylw diweddar (uchod, yn Saesneg), dwi'n dechrau meddwl bod Lloffiwr yn iawn. Ond nid y cyfle olaf am gyhoeddusrwydd ydy hwn. Bydd 25,000 o erthyglau yn swnio fel carreg filltir bwysig hefyd. Efallai byddwn ni'n "barod" os fydd y tudalennau cymorth wedi cael eu gwella erbyn hynny. Ond fyddwn ni ddim yn hollol barod ar y pryd hwnnw, chwaith, siŵr o fod -- os fyddwn yn aros tan i wicipedia ymddangos yn broffesiynol iawn cyn cyhoeddi unrhywbeth, ni chaiff ddim ei wneud o gwbl; bydd rhaid i ni gymrodeddu ychydig felly. Alan 09:38, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Am y llinell yn y datganiad: syniad da. Gallem ni ddefnyddio nodyn er mwyn ychwanegu blwch bach ar ben pob dudalen cymorth. Ond rhaid cael gwared â sôn am "weinyddwyr" yn fy marn i, achos bod unrhyw olygwr, heb wahaniaeth, yn gallu helpu yn y caffi. Alan 09:51, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Gwnes i ddim sylweddoli pa mor gyflym oedd hyn yn agosáu. Beth am Apartheid am ddigwyddiad hanesyddol o bwys i'r byd? Fallai bydd angen newid y pennawd. Glanhawr 10:49, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Apartheid yn un da, tydy'r pennawdau ddim yn bwysig, mond yno i brocio'r meddwl! Oes yna erthygl arbennig o gynhwysfawr yn ymwneud â Seiclo gyda ni?--Ben Bore 12:43, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Wedi golygu datganiad Anatiomaros i gynnwys cymorth gan olygwyr (ond osgoi defnyddio'r gair 'Gweinyddwr' - awgrym doeth, Alan!)
Parthed aros neu beidio am garreg filltir fel 25,000 e.e., dw i yn gweld y rhesymeg a rhwng dau feddwl rwan, ond rydym yn sôn am flwyddyn arall bron mae'n debyg. Gallwn fod yn 'colli allan' ar ddarpar gyfranwyr newydd yn y cyfamser. Mantais aros fyddai byddai'n ysgoggiad canolbwyntio ar wella'r tudalennau cymorth ASAP, ac efallai anelu at godi safon rhyw hanner dwsin o erthyglau engrheifftiol i rhyw fath o Erthygl dethol.--Ben Bore 12:43, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dwi'n credu mai erthygl Nicole Cooke yw'r gorau sy'n ymwuneud â seiclo. Cymryd bod pawd wedi sylwi ar fy obsesiwn bach i ar y pwnc hwnnw felly! Thaf 12:56, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
WEDI CYRRAED Y NOD O'R DIWEDD! Glanhawr 15:22, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Newydd logio i mewn a gweld bod ni wedi cyrraedd yr 20,000. Mae'n gam seicolegol bwysig i ni, beth bynnag am y cyhoeddusrwydd allai ddod ohoni neu beidio,ac felly dwi'n meddwl bod gennym ni achos i ddathlu. Mi fedra'i ddeall petrusder Lloffiwr hefyd, yn enwedig am gyflwr y tudalennau cymorth sy'n rhan bwysig o fframwaith ymarferol y Wicipedia. Cyn belled ag y mae'r erthyglau yn y cwestiwn, mae'n wir fod gennym fwy na ddigon ohonyn nhw sy'n embaras, a deud y lleia, ond mae hynny'n wir am yr argraffiadau wicipediau eraill hefyd, pob un a'i siâr o sothach a llanast, yn cynnwys yr "en" mawr parchus. Ond gan fod y Wikipedia cyfan yn brosiect tymor hir a phen-agored, byddem yn aros am byth i fod yn "berffaith". Anatiomaros 17:41, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 oedd y 20,000fed erthygl. --Adam (Sgwrs) 17:45, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Copïwyd o dudalen Sgwrs yr Hafan:
(Sorry this is in English)
As this Wiki - sorry, Wici - has now passed 20,000 articles, it has become eligible for an interwiki link from the en:wiki main page. This is an achievement for a small wiki, but has the down-side that it may lead to extra vandalism. It may be worth being a bit more vigilant in the future. Incidentally, if my counting back is correct, the milestone article is Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1980. – Tivedshambo (talk) 22:30, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Gyda llaw, oes rhywun yn gwybod sut mae hynny'n digwydd? Y ddolen ar "en" dwi'n feddwl. Anatiomaros 22:51, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
ON Dwi newydd diweddaru'r ystadegau yn yr erthygl en:Welsh Wikipedia hefyd. Anatiomaros 22:54, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Seiclo yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1984 oedd y 20,000fed erthygl: nid yw hyn yn ymddangos yn wir wrth gyfri 'nôl ar Arbennig:Newpages oherwydd wnaeth Anatiomaros symud "Deiliad" i "Deiliad (gwleidyddiaeth)" ac yna troi "Deiliad" o ailgyfeiriad i dudalen wahaniaethu, felly cafodd erthygl newydd ei chreu ond nid yn y ffordd gonfensiynol! --Adam (Sgwrs) 22:58, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Wps! Bron iawn i mi ddrysu hanes y Wicipedia felly! Anatiomaros 23:01, 20 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

<-- It seems fitting that this milestone was reached on the same day as this news story ;-)  – Tivedshambo (talk) 00:11, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

That should certainly be mentioned in any release + y ffaith y bydd dolen nawr o brif dudalen Wikipedia (boed hynny'n beth da neu drwg!) Beth am i ni geisio cwblhau a danfon y datganiad yma erbyn 3:00pm (GMT) prynhawn Sul, fel bod amser i bawb gael cip arno, ac er mwyn iddo fynd cyn iddo fod yn hen beth? --Ben Bore 11:12, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Cytuno efo Ben. Os ydym am weithredu rwan yw'r amser. Hyd y gwelaf i mae gennym ni ddau opsiwn:
1. Bwrw ymlaen rwan. Mae gennym ni'r penwythnos i wneud hynny. Ebostio diwedd y pnawn fel y bydd "ar ddesgiau" pobl bore dydd Llun.
2. Gohirio am rwan. Ond mae meddwl am aros tan 25,000 yn dipyn o siom i rai, dwi'n siwr, er ei fod yn ffigwr arwyddocaol. Felly beth am aros i ni "ddod mewn oed", sef 21,000 (gellid rhoi'r "troell" ar hynny)? Yn y cyfamser gwneud yn siwr bod y tudalennau cymorth yn iawn a hefyd bod y prif erthyglau (y rhai ar y dudalen gartref, y peth cyntaf mae ymwelydd yn ei weld) yn werth eu darllen (neu o leiaf dim yn embaras fel mae nifer o nhw ar hyn o bryd; rhaid bod hynny'n creu argraff anffafriol iawn hefyd).
Wrth gwrs, does dim rheswm pam na fedrem ni wneud yr hyn sy'n angenrheidiol (2. uchod) dros yr wythnosau nesaf hefyd. Dwi ddim yn awgrymu gwneud dim byd arall, ond i ganolbwyntio ar hynny (pawb sy'n dymuno i gynnig ehangu un neu ragor o'r prif erthyglau, efallai?), gan addasu a chwtogi'r deunydd ar "en" yn lle cyfieithu fel y cyfryw.
Y naill ffordd neu'r llall, rhaid i ni benderfynu. Anatiomaros 16:51, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dw i'n dweud mynd am dani rwan, does gan 21,000 erthygl ddim yr un 'rign' i'r pethyn fy marn i, a pan ddawn i 25,000 fe ffeindiwn ni rhywbeth arall nad yw'n berffaith pryd hynny (fel nodwyd yn barod). Yn fy marn i does dim i'w golli. Efallai fydd rhai'n dal i'w weld yn anodd i gyfrannu, ond mae yna ganoedd o ddefnyddiwyr tebol allan yna, a phetai ni'n danu dim ond rhyw 5-10 newydd gweddol weithgar, byddai'n gwenud byd o wahaniaeth.--Ben Bore 17:00, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Rwy'n cytuno a sylwadau Ben uchod. O ran yr erthyglau a restrir ar y dudalen flaen, beth am gael gwared ohonynt, a symud yr "Erthygl Ddethol" ac "Erthyglau Newydd" i dop y dudalen. Rhion 17:04, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Taro'r ebost i'r pared glywed, yn sydyn! Ymlaen! Llywelyn2000 17:13, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
O.N. Beth am ychwanegu at y dair erthygl enghreifftiol uchod yr erthygl: Rhestr Cymry? Mae'n gwbwl wahanol i'r lleill, mae'n organig, yn gynhwysfawr, yn croesi pob maes / pwnc... a does dim llawer o ddolenau coch ynddo! Mi hoffwn weld erthygl wyddonol, ond does run yn arbennig / wedi'i orffen. Piti. Llywelyn2000 17:22, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Awgrym yn unig, yn hytrach na fy newis i, oedd yr 21,000. Cytunaf i fynd amdani gan na fyddem byth yn "berffaith" a does ond un ffordd i wella. Ynglŷn â'r "prif erthyglau" ar yr Hafan, mae ambell un yn dderbyniol, neu o leia dim yn rhy ddrwg; am y gweddill, beth am eu cadw ond yn rhoi dolen dros dro i'r categori perthnasol yn lle'r eginau? Anatiomaros 17:34, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Mae'r erthygl am ein Hwici ni ar en yn dweud:
More recently, on 20 November 1998 it attained 20,000 articles. It currently has over 20,000 articles and is now the 63rd largest wikipedia (November 2008).
Y'fe camsyniad yw hwn?? Glanhawr 23:47, 21 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Wps! "Mea culpa" - dwi wedi gywirio fo! Anatiomaros 00:10, 22 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Rwy'n credu ei fod yn 62ain yn y rhestr Wicipediau, nid 63ain. Rhion 07:03, 22 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Dyma'r cyfle cyntaf dwi wedi cael i ddod arlein heddiw, yn anffodus, a dwi'n gweld bod dim sylw newydd wedi'i ychwanegu yma. Ydy hynny'n golygu ein bod am ohirio unrhyw ddatganiad, felly? Ac os dyna yw'r sefyllfa, be ddylai'r nod nesaf fod? Dylsem ni wedi trafod hyn a chael popeth yn barod ymhell cyn y dyddiad, mae'n debyg, ond dyna fo. Efallai ei bod yn rhy hwyr i ddefnyddio'r wasg boblogaidd rwan am ei bod yn "hen newyddion" yn barod, ond mae'r papurau bro yn opsiwn o hyd. Posibilrwydd arall ydy sgwennu at y Bwrdd Iaith a gofyn am gyngor a chymorth (cysylltiadau, rhwydweithio a lledu'r gair, yn hytrach nag arian). Mae gennym ddigon o opsiynau o hyd. Daliwn ati. Anatiomaros 21:09, 23 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]
Fe fuaswn i o blaid gyrru'r datganiad i gael gweld oes gan y cyfryngau ddiddordeb. Fel arall, bydd wastad rhyw reswm dros ohirio. Rhion 22:39, 23 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Ymlaen! ON Mi ffoniais i'r Daily Post ddydd Llun; dwn i ddim a fu unrhyw beth ynddo? Anatiomaros: mae'n well i un gymryd yr awennau ar adegau. Tydy hi ddim yn bosibl i grwp gytuno a gweithredu'n sydyn o hyd. Llywelyn2000 23:26, 23 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Hyd y gwn i y mae erthyglau Wicipedia 'wedi eu cyfyngu i'r iaith Gymraeg' - os am ddarllen erthyglau mewn unrhyw iaith arall rhaid mynd at y wikipedia yn yr iaith honno. :-)Lloffiwr 13:37, 24 Tachwedd 2008 (UTC)[ateb]

Wicipedia DU

Wikimedians in the United Kingdom are working to set up a chapter of the Wikimedia Foundation, which will aid and encourage people to collect, develop and effectively disseminate knowledge. A board of five members has been elected, and a company has now been set up. Membership applications are now invited, and will be processed as soon as we have a bank account. The organisation needs the support and involvement of people like you.

So far, most participants have been based on English-language projects, but we want to ensure that we work with and for Wikimedians in all languages. As Wicipedia yn Gymraeg is an important language native to the UK, we are making contact with you.

We need to know what a new UK chapter can do to assist your project, and how we can best work together to make that happen. We are also looking for people who can translate short pieces of text, such as the first paragraph of this message, to help publicise the activities of the chapter.

Please do comment, make suggestions, and feel free to ask us any questions, whether here, on MetaWiki, or on the wikimedia-uk mailing list. Warofdreams 11:11, 1 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Tudalennau Cymorth

Dwi'n bwriadu mynd ati i ddechrau cyfieithu'r tudalennau cymorth sydd heb wneud 'to. All rhywun gyfeirio fi ar sut i wneud hyn os gwelwch yn dda? Diolch. Glanhawr 04:17, 3 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Diolch yn fawr! Beth yn arbennig ydych chi am wybod? Mae rhan fwyaf y tudalennau cymorth wedi eu rhestri o dan y categori Categori:Cymorth, (ond os dewch o hyd i eraill nad ydynt, ychwanegwch nhw os gwelwch yn dda). Cewch gael gwared ag unrhyw testun Saesneg ar ôl i chi ei gyfieithu, os oes dolen "rhyngwici" i dudalen ar y wicipedia Saesneg sydd o ddefnydd cyfartal i ddefnyddwyr nad ydynt yn rhugl yn Gymraeg; ond os ydy'r dudalen yn cyfeirio yn arbennig at y wicipedia hwn am unrhyw reswm, dwi'n awgrymu gadael y fersiwn Saesneg ar waelod y dudalen yn hytrach na'i dileu. Alan 08:29, 3 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Grêt! Mae llawer o'r tudalennau cymorth Saesneg wedi newid yn ddirfawr ar Wikipedia Saesneg ers iddynt gael eu copïo a'u rhoi yma. Erbyn hyn, y llawlyfr ar meta-wiki yw'r lle gorau i gael gafael ar y deunydd crai, gan gymharu â'r fersiwn cyfredol ar Wikipedia Saesneg (sydd wedi ei seilio ar meta i raddai helaeth) i chwilota am bethau ychwanegol o ddefnydd. Bydd angen ail-wampio'r prif dudalen gymorth ar Wicipedia rhywbryd ond yn y cyfamser, am wn i mai ychwanegu tudalennau cymorth newydd at y rhestri ar Wicipedia:Cymorth yw'r peth gorau i wneud. Lloffiwr 20:14, 4 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

nodyn croeso newydd

Gwelwch Nodyn:Croeso. Os mae camgymeriadau ynddi hi, gwellwch y geiriad a.y.y.b os gwelwch yn dda. Alan 09:17, 4 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Califfornia neu California

Mae sillafiad hwn yn amrywio rhwng y categoriau a'r erthyglau, dwi am roi cynnig ar ei gysoni. Pa ffurf sy'n well gan bawb? Thaf 13:23, 4 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Os nad oes gwrthwynebiad, ai ati i newid popeth i Califfornia? Thaf 16:14, 7 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Y naill neu'r lall. Mae 'Califfornia' yn iawn gen i, ond efallai fod gan rywun arall farn am hyn? Anatiomaros 20:43, 8 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Prydeinwyr?

Sylwaf fod gennym ni un categori sy'n tyfu'n fawr yn ddiweddar, sef Categori:Prydeinwyr a'i is-gategoriau fel Categori:Prydeinwyr yn ôl galwedigaeth (Categori:Llenorion Prydeinig ayyb). Mae 'na nodyn yn Sgwrs y ddau lle dwi'n mynegi fy amheuon dwfn am ein defnydd o'r term yma. Mae'n ddisgrifiad sy'n dderbyniol i rai, dwi'n gwybod, ond ar yr un pryd mae'n derm sy'n gwbl wrthun i nifer o Gymry, Albanwyr a Gwyddelod. Does dim dwywaith mai term gwleidyddol yw "Prydeinwr" i nifer o drigolion Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dwi'n cynnig cael y categori Categori:Pobl o wledydd Prydain neu Categori:Pobl o Brydain yn ei le. Oes rhywun arall sy'n teimlo'n gryf am hyn? Hyd yn hyn does 'na ddim categori "Gwrthryfelwyr Prydeinig", ond os awn ni ar hyd y llinellau yma bydd rhaid i ni alw Owain Glyndŵr a William Wallace yn wrthryfelwyr "Prydeinig" hefyd. Anatiomaros 17:57, 5 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Dwi'n awgrymu cadw'r categorïau am bobl o Brydain, achos eu bod yn ddefnyddiol fel modd i ddarllenwyr ddod o hyd i erthyglau o ddiddordeb. Gallet ti newid yr enwau o "Prydeinwyr..." i "Pobl o Brydain..." yn ôl dy awgrymiad, ac fasen nhw'n dal i gyflawni'r un pwrpas heb arwyddo unrhywbeth o ddadl am eu hunaniaethau cenedlaethol. Yn yr ystyr hon, dwi'n cytuno mai gwellhad ydy dy awgrymiad, os tra ddilyn y patrwm 'na, sicrhei di greu categori cyfatebol yn lle pob categori wyt ti'n ei ddileu. Ond dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n bwysig iawn, achos os nad ydy unigolyn wedi ei roi syth i mewn i unrhyw categori "prydeinig", dim ond yn anunion trwy is-gategori, fasai'r categori "prydeinig" ddim yn ymddangos ar waelod yr erthygl am y person hwnnw mewn unrhyw achos. Alan 23:36, 5 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Da iawn y ddau ohonoch. 'Pobol o Wledydd Prydain' fyddai'n gywir yn te?Llywelyn2000 00:21, 6 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dim ond un problem fach... Os ydych chi am newid Prydeinwyr i Pobl o Brydain, er mwyn cysondeb dylid newid y categoriau eraill i gyd hefyd. Gan gynnwys newid Americanwyr i Pobl o Unol Daleithiau America, Ffrancod i Pobl o Ffrainc a Cymry i Pobl o Gymru ayb., ayb., ayb... Thaf 16:13, 7 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Digon teg Thaf! Dyma'r broblem pan fo cenedl arall yn ein gormesu, yn mynnu (drwy ddefnydd) ein labelu gydag un o'i eiriau o. Llywelyn2000 16:40, 7 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dwi ddim yn siwr fod hynny'n dilyn o reidrwydd ymhob achos, Thaf. Er enghraifft, gellid cadw'r categori 'Prydeinwyr' ar gyfer y bobl hynny sy'n dewis galw eu hunain yn Brydeinwyr yn hytrach na Cymry, Albanwyr neu Saeson a'i rhoi, gyda'r tri olaf, yn y categori 'Pobl o wledydd Prydain'. Tipyn o synnwyr cyffredin sydd ei angen yma, hyd yn oed os ydy hynny'n golygu ystwytho'r canllawiau fymryn. Mae'r Cymry ayyb yn grwpiau ethnig hefyd, felly byddent yn aros fel categoriau beth bynnag. I symud y ddadl i ffwrdd o dir Prydain, beth am y Tibetiaid, er enghraifft - ydyn nhw'n Tsieinëaid? Go brin! Ac mae'r ffaith yn aros fod nifer o bobl yng ngwledydd Prydain (a'r DU, o gynnwys Gogledd Iwerddon) yn meddwl fod defnyddio'r label 'Prydeinwyr' i ddisgrifio eu cenedligrwydd yn sarhad ar eu cenedligrwydd go iawn. Gofynnwch i Alex Salmond neu Dafydd Wigley beth ydy eu cenedligrwydd! Ac mae rhoi'r Cymry ayyb yn yr uwch-gategori 'Prydeinwyr' yn golygu mai rhyw fath o "is-genedl" yw'r Cymry (dyna'r term gwrthun sydd gan rai pobl ar y wicipedia Saesneg, sef "sub-national") o fewn y "genedl Brydeinig" (beth bynnag ydy hynny - ni all fod yr un peth â "pobl y DU" gan nad oes y ffasiwn genedl â "Unitedkingdomers" yn bod a hefyd am nad ydy Prydain/Ynys Prydain/Prydain Fawr yn wlad nac yn wladrwiaeth). Waeth bynnag be di'r canlyniad ymarferol yma, dwi'n credu'n gryf fod cynnwys cenedl y Cymry fel math o is-genedl o fewn "Prydeinwyr" yn gwbl annerbyniol. Anatiomaros 20:41, 8 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dwi ddim 100% yn cytuno bod uwch-gategori "Prydeinwyr" yn golygu mai "is-genedl" ydy Cymru, achos nad ydy neb yn dweud pa lefel o radd y categoriau sy'n cyfateb i "genedl". (Er enghraifft, gallai "Prydeinwyr" mewn egwyddor fod yn is-gategori o "Ewropwyr".) Alan 20:40, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
"...O wledydd Prydain" yw'r dewis gorau. Cofiwch fyddai categori o "Brydeiniwyr" methu cynnwys unrhywun oedd yn fyw cyn 1707! Ham 01:03, 15 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Trimins plis! Mae Dolig yn dwad!

O! Am gael sblsh bach o gelyn yn yr hafan... neu yn y caffi!!! C'neswch ein clonna ni!

Rhywbeth fel hyn...



Llywelyn2000 14:59, 7 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Yn cefnogi gosod hwn ar yr Hafan - o nawr hyd 1 Ionawr? Lloffiwr 12:49, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Ia, pam lai? Dwi'n hoff o'r cwpled hefyd. Diolch, Llywelyn. Anatiomaros 16:08, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dw i newydd greu'r dudalen Hafan/Nadolig, sy'n cynnwys copi union o'r hafan ar hyn o bryd. Gwna dy newidiadau yna, a phan ydym ni'n hapus gyda'r ffurf, cei ei chopio i mewn i'r hafan ei hun. Alan 18:56, 9 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Oes rhywun yn barod i wneud hyn? Dwi ddim yn giamstar ar y pethau technegol 'ma - efallai basai'n well i Alun neu rywun arall wneud o - ond mi rof gynnig arni yn nes ymlaen heddiw os does neb arall yn teimlo fel mentro arni. Mae'r plant adra a'r Dolig yn dwad! Anatiomaros 18:41, 19 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Gam fod yr amser yn mynd heibio dwi wedi mentro arni beth bynnag. Dwi ddim yn gwbl fodlon chwaith, ond dyna fo. Croeso i rywun arall fynd ati a'i wella. Anatiomaros 19:00, 19 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Pêl-droed Wyddelig/Gwyddelig?

Mae dau erthygl Pêl-droed Wyddelig a Pêl-droed Gwyddelig, ac yn amlwg mae angen ail-gyfeirio un o'r llall. Ond pa enw sy'n gywir?--Ben Bore 10:40, 11 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Mae 'pêl-droed' yn enw benywaidd, felly 'Pêl-droed Wyddelig' sy'n gywir. Anatiomaros 16:08, 11 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Bwrdd yr Iaith Gymraeg a'r Wicipedia

Yn dilyn y drafodaeth uchod (20,000 o erthyglau) dwi wedi mentro i ysgrifennu at Fwrdd yr Iaith Gymraeg yn esbonio ein sefyllfa a gofyn eu cymorth. Dyma'r llythyr e-bost a anfonais:

Dwi'n sgwennu atoch ar ran y Wicipedia Cymraeg, y gwyddoniadur Cymraeg rhydd ar-lein (http://cy.wikipedia.org/wiki/Hafan ), lle dwi'n weinyddwr a biwrocrat. Serch hynny, er bod gennyf gefnogaeth fy nghyd-wicipedwyr, dydwi ddim yn sgwennu atoch fel cynrychiolydd swyddogol Wikipedia, ond fel unigolyn.
Yn ddiweddar cyrhaeddasom y nod o gael 20,000 o erthyglau ar y Wicipedia. Ein gobaith yw parhau â'r gwaith a chynyddu a gwella cynnwys y gwyddoniadur i'w wneud y gwyddoniadur Cymraeg mwyaf erioed, o ran ei faint, ei sylwedd ac ystod y wybodaeth a geir ynddo, sydd eisoes yn cynnwys erthyglau ar bynciau sydd ddim i'w cael fel arall yn y Gymraeg. Gellid dadlau felly ein bod wedi tyfu i fod un o'r adnoddau mwyaf yn Gymraeg ar y we.
Ond rydym yn wynebu anawsterau mawr, yn bennaf oherwydd diffyg ymwybyddiaeth o'r Wicipedia ymhlith y Cymry Cymraeg a'r diffyg cyfranwyr iddo o'r herwydd. Cael cyhoeddusrwydd a chreu cysylltiadau sydd ei angen, a dyna'r prif reswm dros gysylltu â chwi, yn y gobaith y medrwch fod o gymorth i ni. Rydych chwi mewn cysylltiad â nifer fawr o gyrff a mudiadau sy'n ymwneud â'r Gymraeg ac yn awyddus i hybu'r iaith ac ehangu'r defnydd ohoni. Tybed a oes modd i chwi ddefnyddio'ch cysylltiadau a'ch arbenigedd i gynorthwyo ni i gyrraedd cymaint o siaradwyr Cymraeg â phosibl? Oes modd cynnwys nodyn am y Wicipedia Cymraeg mewn pecynnau gwybodaeth, er enghraifft? Beth am eich ymgyrchoedd i gael pobl i ddefnyddio eu Cymraeg? Dyma ffordd ymarferol i wneud hynny ac mae'n agored i bawb, yn rhad ac am ddim.
Dwi'n cyfaddef nad ydwyf yn siwr sut yn union y medrwch helpu, ond dwi'n gobeithio y gwnewch bopeth o fewn eich gallu i godi amlygrwydd yr hyn a allai dyfu i fod yn un o'r adnoddau mwyaf gwerthfawr a defnyddiol yn y Gymraeg heddiw.
Yr eiddoch yn wir, (etc.)

A dyma'r ateb a gefais heddiw (gan adael allan fy nghyfeiriad e-bost fy hun a manylion cysylltu y Dr Evas):

Diolch am eich neges. Gofynnwyd i mi ymateb. Am neges ddiddorol - ac rydych mewn sefyllfa debyg iawn i ni hyd y gwelaf. Ein nod ni yw annog cynifer o bobl â phosibl i fanteisio ar y gwasanaethau Cymraeg sydd ar gael, ar ba blatfform bynnag y bo. Byddwn yn dechrau ymgyrch cyhoeddusrwydd gyffredinol ynghylch hyn fis Ionawr o'r enw "Mae Gen Ti Ddewis". Er na fyddwn yn enwi cyrff fel y cyfryw yn hyn o beth, gallem ystyried arbrawf i'ch cynorthwyo. Wrth i ni ddatblygu'n gwefan ymhellach byddwn yn mynd ati i arbrofi gyda Google Adwords. Gallem ystyried cynnwys Wikipedia Cymraeg yn rhan o'r broses honno am gyfnod i weld faint yn fwy o drawiadau byddai'r wefan yn eu cael. Ofnaf na fyddai modd i ni wneud ymrwymiad parhaol i gyllido hyn ond mae bendant yn rhywbeth y gallem ei ystyried dros dro. Fyddai hyn yn gweddu i'ch anghenion?
Jeremy.
DR JEREMY EVAS
Arweinydd Uned Ymchwil Technoleg Iaith a Grantiau/Leader Research, :Language Technology and Grants Unit
Bwrdd yr Iaith Gymraeg/Welsh Language Board

Cam bach pwysig ymlaen i'r cyfeiriad iawn? Sut allem ni ddatblygu'r cysylltiad newydd (a chreu rhai eraill hefyd, efallai)? Unrhyw syniadau? Anatiomaros 19:29, 12 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Gwych! Gwych!Dal ati! Un neu ddau o sylwadau sydyn: 1. Gan fod Wici am ddim, wneith y Cyngor Llyfrau ddim gwario sentan arnom i'n hyrwyddo drwy'r ysgolion. Gawn ni ofyn i Fwrdd yr Iaith eistedd a meddwl am ddulliau eraill ar wahan i'r cynnig uchod... yn enwedig sut i gyrraedd yr ysgolion (athrawon a 6ed dosbarth o ran golygu, pob disgybl o ran pori a darganfod gwybodaeth. 2. Mae B. yr I. yn rhoi grantiau i bartneriaid / cyrff megis Papurau Bro, Mentrau Iaith ayb. Os ydyw ByrI yn gweld gwerth ynom, yna fe allent ddweud hynny wrth eu partneriaid; eu cyfeirio atom drwy ebost, datganiadau ayb. Gadael i FyrI i feddwl am ddulliau, efallai. 3. Pwysleisio iddynt nad oes gennym ni ddim arian i hyrwyddo ein hunain, DIM. Mae angen iddyn nhw, felly, weld ein problem a'i ddeall cyn fedran nhw greu cynllun swmpus i gefnogi a hyrwyddo Wici. 4. Eu hannog i gynnwys yn eu cynllun anogaeth at gyrff megis yr Amgueddfa Genedlaethol i ddefnyddio Wici yn y modd mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi dechrau rhoi lluniau e.e. Sain Ffagan i roi carolau'r Plygain ar dudalen Carol Plygain, caneuon gwerin ar dudalennau eraill ayb. Annog y i roi HOLL luniau Geoff Charles ar Wici ayb ayb. Gofyn i awduron a beirdd roi eu cynnyrch newydd (rhydd o hawlfraint) yn syth ar Wici. Annog Archifau sirol i rannu eu hystôr o ddata, lluniau, ffotos yn uniongyrchol drwy Wici. 5. Annog cyrff addysgol megis CBAC, y Brifysgol, y Cynulliad i gysoni eu termau gwyddonol ayb (ac felly ei wneud yn nysbys i'r byd) drwy Wici yn ogystal neu yn hytrach na thermiadur gwyddonol papur, confensiynol. Ar frys, sorri.Llywelyn2000 21:54, 13 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Tybed a fyddai modd danfon ebost at ysgolion cyfrwng Cymraeg a gofyn iddynt osod y Wicipedia Cymraeg ar dudalen gartref pob cyfrifiadur yn eu hysgolion? Hefyd, beth am greu erthyglau a fydd o fudd i ddisgyblion ysgol h.y. creu erthyglau ar y math o themau mae disgyblion yn astudio yn yr ysgol e.e. yr amgylchedd, byd yr ysbrydion, hanes yr ail rhyfel byd a.y.y.b. Jest syniad!

Llongyfarchiadau i ti Anatiamaros. 'Na'i ofan nag oes gennyf unrhyw syniadau ar sut i ddatblygu'r cysylltiad newydd hwn - yn edrych ymlaen at weld cysylltiad at Wicipedia ar wefan y Bwrdd - efallai y daw'r ffordd ymlaen i'r amlwg yn y flwyddyn newydd? Lloffiwr 15:22, 14 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Diolch am hynny. Dwi'n derbyn fod pawb o blaid hyn ac felly dwi wedi sgwennu eto i dderbyn y cynnig a gwyntyllu ambell beth arall. Dyma'r testun, anfonwyd dwy funud yn ôl:

Annwyl Jeremy,
Diolch am eich ateb prydlon a chalonogol. Rydym yn trafod hyn ar y Wicipedia Cymraeg ar hyn o bryd - mae pwyllgora "rhithiol" yn arafach na'r peth go iawn, hyd yn oed! - ac er bod ambell gwestiwn wedi codi rydym yn barod iawn i dderbyn eich cynnig i osod rhyw lun ar "hysbyseb" neu ddolen Google Adwords ar wefan y bwrdd. Rydym yn derbyn nad oes modd i'r Bwrdd wneud ymrwymiad parhaol, ond mae hyn yn gam bach pwysig i'r cyfeiriad iawn parthed ennill lle i'r Wicipedia yn y gymuned. Diolch yn fawr am y cynnig.
Efallai y dylswn wedi esbonio un neu ddau o bethau am y Wicipedia Cymraeg hefyd, rhag ofn nad ydych yn gyfarwydd â'r sefyllfa. Un o dros 150 o "argraffiadau iaith" y Wikpedia ydy'r Wicipedia Cymraeg. Mae rhai, fel y rhai Saesneg a Ffrangeg, yn anferth ac eraill yn fychan iawn. Wedi cyrraedd yr 20,000 rydym y 65fed fwyaf o'r argraffiadau ac wedi symud i fyny i'r "Ail Adran", fel petai. Mae pob un ohonom sydd â "swyddi" ar y Wicipedia Cymraeg yn wirfoddolwyr. Does neb yn derbyn ceiniog a does gennym ddim incwm ar wahân fel wicipedia iaith - rydym yn rhan o'r rhwydwaith bydeang ac yn cael ein cyllido felly. Ac mae hynny'n rhan o'r broblem ynglyn â chyhoeddusrwydd: does gennym ddim un geiniog gron i wario ar hynny fel sefydliad. Fel 'na mae hi ar hyn o bryd, oni bai bod ni'n sefydlu cymdeithas elusennol yn nes ymlaen.
Un o'r pethau yr hoffem ni wneud ydy creu cysylltiadau cryf ag ysgolion Cymru. Mae lle i ddosbarthiadau uwch gyfrannu'n uniongyrchol, fel prosiectau ayyb. Hefyd mae 'na le i bo ysgol yn y wlad gael tudalen amdani (mae rhai yn bod eisoes, ond "eginau" ydy'r rhan fwyaf) lle gallai disgyblion, dan arolygiaeth athro, gyfrannu i greu erthygl gynhwysfawr am eu hysgol. Ond sut ydym i gysylltu â phawb i annog hynny? Buasai'n braf cael cydweithio â'r papurau bro a chymdeithasau o bob math hefyd. Wedyn mae 'na'r Amgueddfa Genedlaethol ac archifau sir. Rydym eisoes mewn cysylltiad â'r Llyfrgell Genedlaethol, er enghraifft; mae ganddynt brosiect arbrofol i osod rhai o'u delweddau ar y Wicipedia ac rydym ar ei rhestr adnoddau i ddefnyddwyr. Mae'r posibiliadau rhwydweithio yn sylweddol iawn felly, a hoffem yn fawr i'r Bwrdd ystyried sut y gallai helpu ni yn y cyfeiriad yma.
Mae 'na lawer mwy y gellid ei wyntyllu, ond dwi'n ofni blino chi â gormod o fanylion yn bendramwnwgl fel hyn. Fel dwi wedi esbonio, dydym ni ddim yn gofyn am arian, ond am gymorth ymarferol i wneud y Wicipedia Cymraeg yn rhan naturiol o'r gymdeithas Gymraeg gyfoes er mwyn i ni chwarae ein rhan yn adfywiad yr iaith (rhaid bod yn optimistig!) a dod yn adnodd a fydd mor gyfarwydd yn y Gymru Gymraeg ag y mae ein chwaer-argraffiad Saesneg yn y byd Saesneg ei iaith.

Wnes i ddim codi pob pwynt posibl am rwan - siwr fod gan Dr Evas ddigon o waith i'w wneud yn barod heb dreulio awr yn darllen e-bost di-ddiwedd! - ond gobeithio bydd hyn yn ddigon i gadw'r fater yn agored yn lle derbyn y cynnig a gorffen y drafodaeth yn fan 'na. Cawn ni weld be ddaw ohoni. Mae Llywelyn wedi codi sawl pwynt diddorol uchod, rhai yn fwy ymarferol na'i gilydd, efallai. Gobeithio bydd y drafodaeth yn parhau. Dwi'n barod i sgwennu e-bost eto at un neu ragor o'n sefydliadau cenedlaethol, os cawn gytundeb bras ar ei gynnwys. "Ymlaen!", chwedl Llywelyn. Anatiomaros 20:25, 14 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Rhywbeth i feddwl amdano yw hyn ar gyfer y dyfodol, nid rwan, ond fel mae Anatiomaros yn nodi yn ei lythyr, cefnogaeth ymarferol sydd ei angen yn bennaf, yn hytrach nag arian, ond petai yna arian ar gael yn y dyfodol (am ddeunydd cyhoeddusrwydd neu beth bynnag), byddai'n anodd iawn i ni fel Wicipedia fynd amdano gan nad ydym yn gorff, gyda chyfansoddiad, pwyllgor, bla..bla..bla - ac yn y blaen. Petai ni rywbryd eisiau arian, dyma efallai ble fyddai rhyw fath o gysylltiad â Wikimedia DU yn help. Petai cais yn mynd drwyddyn nhw, bod nhw'n cael cadw canran fechan a bod y gweddill yn mynd at gyhoeddusrwydd, byddai ond yn deg dw i'n meddwl, achos yn y pen draw, Wikimedia sy'n gyfrifol am gynnal y wefan yma nage ddim? Mond rhywbeth i feddwl amdano. --Ben Bore 20:42, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]
Dyma'r ymateb i'r ail lythyr (uchod):
Byddwn yn edrych ar Google Adwords yn ystod y flwyddyn newydd (siwr o fod tua diwedd Chwefror). Gofynnaf i’m cydweithiwr, Marian Fairclough, nodi’n trafodaeth yn y flaen raglen ar gyfer ein gwaith gwe ac i ddod yn ôl atoch bryd hynny. Wn i ddim a ydych yn gyfarwydd â Google Adwords, ond mae rhagor o wybodaeth ar gael fan hyn: http://adwords.google.com/select/Login/. O ran cydweithio â phapurau bro, mae hynny hefyd yn rhywbeth y gallwn ei drafod yn fewnol a dod nôl atoch. Ymddiheuriadau am beidio â medru ymrwymo’n bendant, ond fe ddown yn ôl atoch yn ystod y flwyddyn newydd.
Mi gawn ni weld be ddaw ohoni yn y flwyddyn newydd, felly, ond mae'n edrych yn reit addawol fel man cychwyn. Anatiomaros 18:35, 19 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Tudalen clwb pêl-droed Lorient (Llydaw) ar Wicipedia

Gan nad ydw i'n gwybod sut i olygu (wel, diddymu llun a dweud y gwir) tudalennau Cymraeg Wicipedia, tybed a fyddai rhywun yn fodlon mynd ar fy rhan i'r dudalen sy'n disgrifio clwb pêl-droed Lorient yn: http://cy.wikipedia.org/wiki/FC_Lorient ac yno ddiddymu'r llun o "Stade de la Route de Lorient" os gwelwch yn dda?

Y rheswm yw NAD llun stadiwm clwb Lorient (sef Le Stade du Moustoir) yw'r llun ar y dudalen hon ond llun stadiwm arch-elyn y clwb, sef Rennes! Ydy, mae enw stadiwm Rennes (Le Stade de la Route de Lorient) yn gamarweiniol a hawdd yw deall y camgymeriad.

Mae'r llun wedi ei ddiddymu o'r dudalen gyfatebol yn y Ffrangeg (yn sydyn iawn, dybiwn i!) a hefyd o ieithoedd eraill.

Diolch ymlaen llaw am unrhyw gymorth. Huw

Wedi gwneud, diolch am y llygaid barcud!
I olygu (addasu cynnwys erthygl), clicia ar y tab 'golygu' uwchben yr erthygl. Dyma'r golygiad i ddileu'r delwedd, er enrhaifft. --Ben Bore 11:56, 16 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Da iawn, Ben Bore, diolch am dy help a diolch hefyd am ddangos i mi sut i geisio mynd ati i wneud ambell newid fy hun os gwelaf yr angen. Hwyl fawr. Huw

Nadolig Llawen!

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda! --RThomas 23:30, 24 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

I wir a boed iechyd a hapusrwydd gan bawb! Llywelyn2000 05:39, 25 Rhagfyr 2008 (UTC)[ateb]

Fforio'n hawdd o ran catalogau

Ew mi fasa'n gret cael fforio'n hawdd o fewn catalogau yn y drefn arferol - llinell syml ar y top i ni gael gweld lle rydym ee

Cat:Tywysogion>Cat:Tywysogesau Cymreig>Cat:Tywysogesau De Cymru> yna enw'r dywysoges.

Hierarchaeth hawdd, syml, cryno!

Yn anffodus nid yw mor hawdd a hynnu, gan fod pob tudalen a chategori yn perthyn i sawl categori arall. Thaf 11:06, 9 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Mae sawl categori posib, ond mae hefyd yn bosib dangos y categori gwirioneddol - yr hiarchiaeth gwirioneddol fel y dywed y person uchod, dienw. Hyyny yw, o ran llinach, dilyn enw'r tad ac nid y brodyr, chwiorydd, modrybedd ayb. Llywelyn2000 07:37, 17 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Llanllwch

Gall rhywyn ychwanegu Llanllwch i'r categori Pentrefi Sir Caerfyrddin. Diolch --RThomas 17:30, 12 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Mae Anatiomaros (mor drylwyr ag erioed) wedi ei wneud o drosot ti. Ar gyfer y dyfodol, y cwbwl sydd angen i ti ei wneud ydy mynd i'r erthygl ei hun ('Llanllwch' yn y cyswllt hwn) a dewis 'golygu'. Yna sgrolia i lawr i ddiwedd yr erthygl. Teipia [[Categori:Pentrefi Sir Caerfyrddin gan gau'r ddolen drwy roi dau gromfach o'r math hwn: ]
A dyna ni. Ond tydy'r categoreiddio ddim yn hawdd nac yn berffaith! Pob hwyl. Llywelyn2000 23:51, 12 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Yn dilyn 'mlaen o hyn, all rhywun esbonio i mi sut mae creu categori? (Neu a oes angen bod yn weinyddwr i wneud hyn?) Diolch! 194.81.160.19 08:15, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Mae creu categori ynddo'i hun yn ddigon hawdd, a does dim angen bod yn weinyddwr. Er enghraifft, i greu categori o'r enw "Pentrefi Sir X", y cyfan sydd angen ei wneud yw creu "erthygl" newydd gyda'r enw "Categori:Pentrefi Sir X". Yr unig beth i'w gofio yw fod rhaid i bob categori fod yn is-gategori o un neu fwy o gategoriau uwch. Felly, fe fyddai'r "erthygl" "Categori:Pentrefi Sir X" yn cynnwys y geiriad "Categori:Sir X" a "Categori:Pentrefi Cymru" fel dolennau wici - felly mae'r categori Pentrefi Sir X yn dod yn is-gategori o'r ddau gategori yma. Edrych ar rai esiamplau sy'n bod yn barod yw'r ffordd orau o weld beth sy'n digwydd. Er enghraiift, yn yr erthygl Llanllwch, reit ar y gwaelod mae'n dweud "Categori:Pentrefi Sir Gaerfyrddin". Clici ar y geiriau "Pentrefi Sir Gaerfyrddin", ac mae'n rhoi rhrestr o bob pentref yn y categori yma. Yn awr clicia ar "golygu" ar dop y dudalen, ac fe weli di sut mae'r categori wedi ei greu. Rhion 08:51, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Gret - diolch! Rhodri77 10:01, 13 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Dod yn weinyddiwr?

S'mae? Rwyf just am ofyn os yr wyf yn gallu ddod yn weinyddwr Wicipedia Cymraeg? Rwyf ond wedi sylwi ar y rhestr gweinyddwyr ac mae pawb yr wyf wedi siarad a hwy dros y rhwydwaith yn weinyddwr (fi'n teimlo ychydig yn left out!!!) Rwyf yn golygu tudalennau ac yn defnyddio wicipedia yn aml iawn erbyn hyn ac am wybod os yr wyf yn amodi fod yn weinyddiwr? Rwyf yn astudio Cemeg, Ffiseg, Daearyddiaeth a Mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg felly mae gen i lawer i gyfrannu ac ar yr un pryd bydd hyn yn fy helpu gyda fy ngwaith astudio. Rwyf hefyd wedi sylwi nid oes yna cymaint o dudalennau yn y meysydd yma ( Gwyddoniaeth, mathemateg..a.y.y.b) nag sydd o erthyglau llenyddiaeth a diwylliant. Rwyf wedi dysgu llawer o sgiliau golygu wicipedia dros y flwyddyn dwethaf ac felly wrth cael pwerau weinyddiwr, gallai helpu tacluso tudalenau newydd ac helpu atal pobl camdefnyddio'r rhwydwaith.

Diolch --Rhys 11:15, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Atebaf i achos bod rhaid i rywun gychwyn... Dwi'n barod i'w gefnogi. Dwi'n meddwl bod y pwerau weinyddiwr yn llai bwysig nag yw Rhys yn credu efallai (e.e. ceir dacluso tudalennau newydd hebddyn nhw), ond 'dwi'n hyderus na fasai e'n eu camddefnyddio. Alan 08:50, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Does gen i ddim gwrthwynebiad. Y cwbl mae bod yn weinyddwr yn ei olygu yw medru gwneud rhai tasgau, megis blocio fandaliaid, ac mewn ffordd, gorau po fwyaf o weinyddwyr. Rhion 12:19, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Ymddiheuraf am fod cyhyd cyn ymateb, ond dwi wedi bod yn brysur, llai o amser nag arfer ar gyfer y Wici. Does gen i ddim gwrthwynebiad o gwbl; y pwynt roeddwn i'n wneud yn fy ateb i neges Rhys ar fy nhudalen Sgwrs oedd fod angen canllaw(iau) o ryw fath arnom ni (ond wedi dweud hynny mae angen sawl peth arall hefyd - pwysicach efallai - fel sgwennu erthyglau newydd!). Anatiomaros 21:13, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
'Wrth eu ffrwythau yr adnabyddir hwynt.' ac mae ffrwythau Rhys wastad yn gwerth eu gweld, eu blasu a'u mwynhau! Dio ddim ots beth ydy oed na lliw y person. Llywelyn2000 07:39, 17 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

25,000 erthygl! Paratown i Ddathlu!

Mae'r garreg filltir yn nesâu! Beth ydy'r modus operandi? Byddwn barod y tro hwn!Llywelyn2000 23:46, 14 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr. Amser i ddechrau meddwl am hyn. Gobeithio bydd Bwrdd yr Iaith yn sgwennu eto cyn hir hefyd (rhywbryd "yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd"?). Anatiomaros 21:16, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
'Beth ydy'r modus operandi?' Llywelyn2000 00:21, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Efallai basai'n syniad da i drafod hyn ar dudalen sgwrs arbennig (e.e. 'Wicipedia:Y Caffi/25,000 erthygl'?). Gellid copio y drafodaeth flaenorol i'r dudalen ac wedyn ei harchifio (mae'r dudalen yma wedi mynd yn anferth unwaith eto hefyd!) gan adael dolen amlwg fan 'ma. Anatiomaros 23:20, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno. Ymlaen! Llywelyn2000 00:35, 5 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Erthyglau mwyaf poblogaidd

O ran diddordeb, mae hwn yn gadael i chi ddarganfod pa rai yw'r erthyglau sydd wedi bod yn fwyaf poblogaidd o ran ymweliadau. Fe allai roi syniad pa erthyglau y dylid canolbwyntio ar sicrhau eu bod o safon. Rhion 13:44, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Neis gweld fod pidyn, gwaun a hunan-leddfu wedi cyrraedd y 100 uchaf!! ;o) Rhodri77 17:03, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Ia, cweit... 'dwi'n hollol mortified bod hunan-leddfu yn fwy poblogaidd na Lloegr ;-) Basai hi'n dda edrych ar y rhestr o erthyglau mwyaf poblogaidd yn y wiciau mawr, er mwyn gweld pa erthyglau sy'n haeddu fersiynau Cymraeg os nad ydynt yn bodoli eisoes fan hyn. Ond wedi gweld y rhestr o erthyglau Cymraeg poblogaidd, wna i ddim edrych ar y rhestr Saesneg oddi wrth y swyddfa, oherwydd bod ein ffiltr rhyngrwyd yn deall y geiriau llanw yn Saesneg... Alan 17:45, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Ydech chi'n awgrymu ein bod ni'n dathlu'r 25,000ed erthygl drwy roi'r erthyglau pidyn, gwain a hunan-leddfu ar y clawr? :-) Llywelyn2000 22:54, 15 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Dwi wedi edrych ar y rhestr ac mae'n anodd credu rhai o'r pethau sydd arni: er enghraifft, roedd fy nhudalen defnyddiwr yn eitha poblogaidd nôl ym mis Awst gyda bron i 200 115 o ymweliadau! Anatiomaros 21:18, 16 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
"Neis gweld fod pidyn, gwaun a hunan-leddfu wedi cyrraedd y 100 uchaf!!"
Gall hyn ond bod yn beth da - mae'n dangos bod y wefan yn cael ei defnyddio'n helaeth gan fechgyn 15 oed y genedl :-) I ddweud y gwir, dyna beth ysgogodd fi i gynnwys erthyg am y cyffur cannabis!.--Ben Bore 09:12, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Site notice arall

Mae site notice arall newydd ymddangos. Rwyf wedi drafftio cyfieithiad iddo yma. All rhywun olygu hwn, ac yna naill ai newid y statws 'proofreading' i 'ready' draw myn'co neu gadael neges mynhyn bod y cyfieithiad yn paso? Lloffiwr 20:16, 20 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Wedi gwneud.--Ben Bore 09:05, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Ynysoedd Prydain

Hi. Apologies firstly for not being able to communicate in an appropriate manner, however, your help is requested at en:Talk:British_Isles#Undue weight to this list where attempts are being made to remove "Ynysoedd Prydain" from the info box listing "British Isles" in native languages. Your help with copious references for the term would be appreciated. Thanks 86.162.176.87 18:51, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Thanks for letting us know. It seems typical of the attitude of some people on en: that the name for these islands in their oldest living language should be treated in this way! Anatiomaros 19:51, 21 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Nid 'Amheus' ond 'Erthygl sydd angen ei lanhau'

Efallai nad oes dim byd amheus ynglyn â Wicca, ond mae hi'n erthygl flêr iawn ei hiaith. Hyd nes y ceith rywun yr amser i'w glanhau a'i thwtio, oes 'na rywbeth tebyg i'r categori

Sylwch!

Mae'r dudalen hon wedi cael ei gosod ar y rhestr Tudalennau amheus.

y gallaf i sticio arni, er mwyn ei rhoi mewn corlan arbennig? Fel hyn, byddai pob erthygl sydd angen ei thacluso (o ran cywirdeb iaith yn bennaf) gyda'i gilydd yn daclus yn barod i rywun ei golygu. Llywelyn2000 12:36, 24 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Newydd gweld yr erthygl rwan oeddwn i. Dwi wedi gadael nodyn am yr iaith ayyb ar y dudalen sgwrs. Mae angen cywirio pob brawddeg a defnyddio termau Cymraeg priodol yn lle'r termau estron. Fel mae Llywelyn yn dweud, buasai'n dda o beth cael nodyn ar gyfer erthyglau fel hyn (a chategori hefyd, fel eu bod yn hawdd eu cyrchu i'w cywirio yn lle mynd yn anghof). Anatiomaros 23:07, 24 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
(Ugh, I typed my reply in Welsh but then closed the window without saving. So sorry, you're going to get it in English now.) I think the template is a good idea. I've just renamed an old unused template called Nodyn:Iaith so as to free up the title for this more useful purpose, though I haven't myself created the template. The one question is whether to make a template for use in articles or on their talk pages. We do have certain templates about the editing process which are used in articles themselves (Nodyn:Tudalen amheus and the stub templates), but maybe we don't want more boxes etc in the articles. Of course if the template goes on a talk page, it's the talk page which will be put into the category, but it doesn't matter as it will clearly refer to the article itself. Alan 18:03, 25 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Hi Alan. Some pages are not 'amheus', but need correcting. They need to be tagged or catalogued even so that someone can get hold of them easily to edit. The important question here is should they be visible along with the rest of the show, or hidden. The complaints I keep getting about Wici is that it's full of mistakes! So, If there is a choice, let's keep them out of view, grouped together ready for correcting. Llywelyn2000 00:20, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Diolch am yr ateb (doedd ddim rhaid iti ateb yn Saesneg, ond wedi colli fy nhestun i gyd gan deipio ctrl-W -- h.y. cau ffenest -- trwy gamgymeriad, do'n i ddim yn barod i'w ail-deipio yn Gymraeg!) Faswn i ddim yn awgrymu cuddio'r erthyglau eu hunain oni bai eu bod nhw'n hollol ofnadwy. Bwriad fy sylw uchod oedd ble rhoi'r nodau, naill ai yn yr erthyglau neu yn y tudalennau sgwrs. Alan 13:54, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Yr erthygl ei hun ydy'r drwg, felly, fano mae'n debyg. Thank you old chap!Llywelyn2000 20:27, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
A barnu wrth rai o'r cyfraniadau rydym wedi cael yn cael yn ddiweddar mae gwir angen nodyn fel hyn. Oes rhywbeth yn digwydd? Dim rhaid iddi fod yn gymhleth. Anatiomaros 23:15, 29 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Cytuno. Ymlaen! Llywelyn2000 00:36, 5 Chwefror 2009 (UTC

Welsh "Wales" yw ei enw -- Alan (sefydlydd Wiki) yn dweud yn y Sunday Times heddiw fod cynlluniau ar y gweill i wneud rywbeth tebyg i'r uchod. Yr hyn sydd ei angen, meddai, yw cyfnod gwiro / cadarnhau ffeithiau (dyweder wythnos) CYN i'r erthygl fynd yn weladwy / gyhoeddus. Bwriad hyn, wrth gwrs, yw dileu rwts-mi-rwts, ffeithiau anghywir a gwallau iaith. Hwre. Ar yr un gwynt, oes gennym ni fachyn Cymraeg megis 'Citation Needed' y gallwn ei ddefnyddio ar Wici? Llywelyn2000 22:19, 8 Chwefror 2009 (UTC) [ateb]

Dwi'n gwybod bod llawer o sgwrs am "approved revisions" neu debyg ar y wici Saesneg. Maen nhw wedi eu defnyddio ers rhai amser erbyn hyn yn y wici Almaeneg, ond nid yw hi'n glir i mi y basai'r effaith yn hollol bositif ar ein wici ni. Basai hynny'n creu ychydig o waith ychwanegol i brofi'r erthyglau newydd i gyd cyn iddyn nhw ymddangos, ac rhaid i ni feddwl os yw'r manteision yn ddigon i haeddu'r gwaith, felly. Alan 22:43, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Digon Teg, Alan. Llywelyn2000Mae'r elfen 'fyw' yn bwysig. Llywelyn2000 22:48, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
O.N. Am "citation needed" - nac oes, dwi'n meddwl. Ond mae'n hawdd creu nodyn os oes angen. Baswn i ei chreu fy hun, ond dwi'm yn siŵr am y geiriad gorau. "Angen dyfyniad", efallai? Neu "angen ffynhonnell"? Rhaid i'r nodyn roi'r erthyglau i mewn i gategori er mwyn ein helpu rhestri'r erthyglau ag eisiau ffynonellau. Alan 22:54, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]
Beth am "Angen Ffynhonnell" " gan greu Categori o'r un enw? A chategori arall o'r enw "Angen Cywiro Iaith" i erthyglau sydd angen eu cywiro? Llywelyn2000 23:03, 8 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Drafft ar sut i drin â phroblemau Hawlfraint

Rhag ofn nad yw pobl wedi gweld hwn yn barod mae Alan wedi llunio drafft ynglyn a sut i drin a chynnwys sydd wedi ei gopio o wefannau eraill heb bod caniatad amlwg. Gweler: Sgwrs Wicipedia:Gwireddu hawlfraint. --Ben Bore 22:21, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Diolch Rhys. Alan 22:25, 26 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Newid y tudalen Hafan

Hello. Rwyf wedi bod yn arbrofi ar golygu'r hafan ac wedi dod lan a hyn. Cymerais "screenshot" o'r newid. A fydd hyn yn iawn i mi ychwanegu.

Hafan Newydd

Diolch --Rhys 17:35, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]

Dwi'n gweld dy fod ti wedi gofyn y cwestiwn ar Sgwrs:Hafan hefyd. Diolch am roi sylw yma, ond er mwyn peidio â rhannu'r un sgwrs rhwng dwy dudalen, dwi'n awgrymu i bawb ymateb yna yn hytrach nag yma. Diolch. Alan 17:43, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Yn bersonol, fyddai'n well gyda fi ei adael fel y mae. Mae llawer o wybodaeth ar y tutalen flaen yn barod, gwybodaeth am sut i ddefnydido'r wefan a tamiad o erthygl dethol (gyda delwedd) - byddai cael rhes o ddelweddau yn gwthio'r pethau hyn yn is lawr y dudalen ac yn ychwanegu dim. Sori.--Ben Bore 20:08, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Iawn! Dim ond am treial e mas anyway. Mae'r tudalen prawf yma. --Rhys 20:22, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Wps, newydd ddarllen awgrymaid Alan rwan. Rhaid i mi bostio hwn ar y dudalen sgwrs cywir rwan ac edrych yn rêl missery ar ôl ymatebion cadarnhaol pawb arall - o wel, does dim byd newydd!--Ben Bore 20:45, 27 Ionawr 2009 (UTC)[ateb]
Neith rywun ddewis Hafan Newydd (am gyfnod o fis, i ddechrau?) a gweithredu?! Plis. Mae amser yn drech na fi am dipyn. Llywelyn2000 00:38, 5 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Angen dileu erthygl plis!

A oes modd i rywun ddileu'r erthygl Gwyl Ffilmiau Cannes o.g.y.dda? Gwnes i'r erthygl heb gynnwys yr acen grom a heb sylweddoli fod erthygl eisoes yn bodoli. Dw i wedi trosglwyddo'r wybodaeth o'n erthygl i i'r erthygl wreiddiol eisoes. Mawr ddiolch! Rhodri77 19:26, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dwi wedi ailgyfeirio'r dudalen. Mae hynny'n well na'i dileu weithiau os ydy rhywun yn debygol o chwilio am erthygl trwy ddefnyddio'r enw yna (mae'n syniad da creu tudalennau ailgyfeirio heb acen i erthyglau sydd ag acenion yn yr enw hefyd, am nad ydy pawb yn medru rhoi llythrennau gydag acen yn y blwch chwilio. Hwyl, Anatiomaros 19:33, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Grêt! (gyda'r acen, sylwer!) Rhodri77 19:37, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Dylid bod bot sy'n creu tudalennau ail-gyfeirio fel yr hon yn awtomatig. Basai hynny wedi dy atal rhag gwastraffu amser i greu erthygl sy eisoes yn bodoli... Alan 20:00, 3 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Enwebu gweinyddwr newydd

Hoffwn enwebu Rhodri i ddod yn weinyddwr. Mae Alan a Ben Bore yn eilio'r cynnig. Anatiomaros 17:12, 11 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Cytuno'n llwyr. (A dweud y gwir, mi gredais ei fod eisioes yn weinydwr!) Llywelyn2000 23:43, 11 Chwefror 2009 (UTC)[ateb]

Translatewiki.net update

  • Translatewiki.net formerly known as Betawiki is where the Internationalisation and Localisation of MediaWiki is concentrated. Over 300 languages are supported, issues with MediaWiki programs are dealt with. We need all the help we can get to ensure that we can maintain this service in the face of an increasing workload.